24.2.06

Pedwar peth (arall...)

Whw, fi ‘di cael fy nhagio!

...nawr gai ofyn be yn union yw tagio, plîs?! (gan ddechrau poeni am gwestiwn ola’r holiadur isod...)

Pedwar swydd dw i wedi’u cael
1. Darllen a golygu (a sgwennu ambell) sgript(s)
2. Ymchwilydd a math o ‘rhedwraig ddiog’
3. Bar ledi hynod smyg yn Dempseys
4. Ateb ffôns a chyfieithu fan hyn a fan draw i Gyngor Cymru i’r Deillion

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
1. Breakfast at Tiffany’s
2. Amelie
3. North by Northwest
4. ffili penderfynnu rhwng Sprited Away a Secretary :/

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw

1. Pontyberem
2. Rhydychen
3. Glanrafon
4. Treganna

Pedwar rhaglen teledu dw i eu caru

1. This Life
2. Simpsons
3. Inspector Morse
4. Spaced

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
1. Iwerddon
2. Ibiza (sori)
3. Awstria
4. Ffrainc

Pedwar o’m hoff brydau bwyd

1. Sushi
2. Samwn a llysiau
3. Chilli con Carne
4. Pasta 'da bwyd môr

Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd
1. maes-e
2. Blogiadur
3. Flickr
4. Yahoo

Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn

1. Amgueddfa Genedlaethol Cymru (arddangosfa Artes Mundi)
2. Mewn siop goffi
3. Rhydychen yn yr haul
4. Yn gwrando ar Regina Spektor yn canu ‘Chemo Limo’ rhywle ym Mhrague.

Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio
1. Dros (Sara) *gwichian*Nwwwwdls!*/gwichian* Gwenu dan Fysiau, felly (teitl sy' wastad yn atgoffa fi o bapur arholiad un o ddisgyblion Mam oedd yn mynegi 'rwy'n ofn fy mawd...)
2. Iesu ('neith byth byth byth sylwi...)
3. Ray (...ochenaid, gweler uchod)
4. Blog Heb Enw (c'mon Fatbob!)

3 Sylwadau:

At 3:15 PM, dywedodd...Blogger Rhys Wynne

Wel ar fy enaid, y fath anrhydedd :-)

 
At 3:22 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Anrhydedd i mi Rhys, wir nawr :)

 
At 2:03 PM, dywedodd...Blogger Ray Diota

aha! wy wedi sylweddoli! (wy jyst ddim yn deall)

m'ishe i ti ddod draw i watsho teli, dwlwen - dy 4 rhaglen yn debyg iawn i'n rhai i...

 

ychwanegu sylw

<< sia thre