17.3.06

Torri lawr

Neges di-ddim, ddi-strwythr, fore Gwener?

Pam lai.

Wel te, dyna chi embaras bore ddoe pan ddaeth y car bach at gyffordd Glynne Street a Severn Road yn Nhreganna a jyst stopio. Dim honcio sydn gan y cerbyd, dim peswch crachboerus gan yr injan – jyst stop esmwyth dawel, a phob golau bach ar y dashboard yn wincio atai, cyn diffodd yn llwyr. Bollocks. Pe bai’r ymddatodiad wedi bod ychydig yn fwy dramatig dwi’n siwr byddai torf o bobl wedi rhuthro at fy nghymorth, ond fel ag oedd hi, dim ond rhythiadau rhwystredig a rhyw siglo pen diamynedd a fu. Diolch byth mod i’n Gymro, nagife; pwy sydd angen gwasanaeth argyfwng 24-awr mewn gwlad lle mae’n ffaith na allwch chi fod fwy na' canllath o rhywun ‘y’ch chi’n eu nabod? A roeddwn i wedi stopio’r traffic mor effeithlon tan fod dau berson adnabyddus yng nghyffuniau y ‘jam’. Diolchiadau iddyn nhw am yr help gwthio.

Dyma’r ochr bositif – ‘nes i, gyda fy niffyg wybodaeth fehiciwlar ehangaf erioed, hyd yn oed adnabod mai methiant y batri oedd wedi dod â’r car i stop. Seren aur i fi. Mater o aros yn amyneddgar am y boi breakdown oedd hi felly, a chyfle digon neis i eistedd yn y car yn fflicio drwy nofel newydd Llwyd Owen. Dwedodd y dyn bach achub fod angen batri newydd arnai (4 mlynedd ma nhw’n para fel arfer, ma’n un i tua 7.) Felly bant a fi, ar ôl gwaith i ddilyn ei argymhelliad.

Dyma’r ochr negatif – Es i Halfords. Prynu batri, iawn. Ffitio batri? Na, dim heddiw, ni ar fin cau. Bore fory te? Ie.

Bore ma, es i i Hlafords eto. Erbyn 8.30. Mae’n nhw’n agor am 9. ‘Nethon nhw ddim agor tan 9.20.

Gai ffitio’r batri ‘ma plîs? Ti ‘di bwcio? Wedodd neb ddim byd am fwcio – jyst i ddod nôl heddi. Cer i ofyn wrth y ddesg gofyn ffitio batris te.
Desg ffitio batris – Gai ffitio batri plîs? Na, dim heddi.
Reit.

Dyma’r ochr bositif newydd – Ma halfords yn cynnig refund llawn am fatris ceir ma nhw’n gwerthu heb foddran ‘u ffitio, felly bant a fi i Quickfit – oedd yn hyfryd chwarae teg iddyn nhw. Bydd fy nghar bach glas yn prancio rownd y ddinas eto mewn awren, gobeithio, â’r hen beswch a fu’n poenydio’r injan wrth iddo danio, wedi llwyr ddiflannu.

Yr ochr negatif newydd - £90 am wasanaeth ddibynadawy. Gyted.

Penwythnos mewn i fi felly – sy’n beth da sbo, gan bod fi wedi gorfodi alcohol ban (llwyddiannus!) ar ‘y’n hun ers wicend diwetha, a does dim tocyn gen i Euros Childs ta beth. Hefyd, fues i’n ddiwylliedig da/ariannol abrwysg ddoe wrth ymweld â Sioned yn Caban, a dod o ‘na â thair nofel newydd, sef Rara Avis gan Manon Rhys, Dyn yr Eiliad gan y Bonwr Martell a Glas (methu ffeindio dolen, sori) gan Hazel Charles Ifans (‘nath ddysgu Cymraeg gyda Mam yn Ysgol Bryngwyn Llanelli am flynyddoedd cyn mynd allan i Batagonia am ddwy flynedd i ddysgu yno.) ‘Nes i gyffroi’n llwyr o weld fod y ledi helpodd fi sgwennu prosiect cywain gwybodaeth TGAU Cymraeg wedi sgwennu nofel! Ddylai rheini ‘nghadw i’n brysur tra fod y cyfri’ banc yn reimbyrsio.

Nôl at y llyfr wy'n darllen ar hyn o bryd though - sef Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau gan Llwyd Owen - dw i'n hoffi. Cymsgedd neis/sgeri o realiti hynod gredadwy a swrrealaeth gwallgo'. Mae'i ddisgrifiadau o Gaerdydd mor fanwl tan 'neud i fi chwerthin yn nerfus - sai'n siwr pam wy'n nerfus eto, od 'y'f fi, oce. Mae'r penillion bach sy'n agor bob pennod yn gyffyrddiad bach neis hefyd - wy 'di piso chwerthin at bob un o rhai'r prif-gymeriad, Luc Swan, hyd hyn, a dwi'n meddwl fod 'na batrwm bach o gliwiau'n ymddangos yn y dyfyniadau 'fyd. Rhowch wythnos i fi, a 'nai sgwennu adolygiad llawn. O - a un peth arall, ma lliw y clawr yn hyyyfryd. Coch-binc-goch... pinc. Neis.


o.n. 'Nath y dyn continuity cyn Bandit neithiwr ddisgrifio'r raglen â'r gair 'sbondanlli', gan newid tôn 'i fynegiant â phob syllaf. Sbon - brwdfrydedd am 'i fod e'n iwso gair 'hip' lled-gyfarwydd... dan- dechrau petruso ond yn amlwg yn pwyllo'i hun i ymddiried yn y sgript... lli - anobaith llwyr o sylweddoli 'i fod e newydd yngan gair hollol sili. Neu falle 'mod i'n meddwl gormod am y pethau 'ma. Adios amigos.