15.2.06

Chris Corsano a Jack Rose

Gig hyfryd arall yn Buffalo neithiwr, fel math o ymgyrch anti-Valentine yn ôl y sôn ond jiw, o'dd eitha tipyn o gariad yn y 'stafell 'na 'se chi'n gofyn i fi. Gyrhaeddon ni hanner ffordd trw set dryms Chris Corsano, a roedd y lle fel y bedd â pawb yn gwrando'n astud ar y rhythm. Wy'n gallu bod braidd yn 'geidwadol' pan mae'n dod at gerddoriaeth arbrofol fel hyn (cofiwch, wy'n gallu bo'n llwyr eithafol 'fyd...) ond o'dd 'y'n ymateb i rhywle yn y canol/ ar y ffens tuag at yr act cynta' ma. Roedd ambell i ffrwydrad rhythmic anhygoel oedd wir yn gyrru gwefr trwy'r corff, ond yna atalnodi hyny â rhyw wichian rhyfedd di-ddim. Hyny yw, ro'n i'n deall ac yn gwerthfawrogi'r egni, a fedrai deall sut bod angen y tawelwch er mwyn i'r elwch weithio - ond doedd bethbynnag oedd ganddo fe'n gwichian 'na neithiwr ddim yn gweithio, i fi.
Ta beth, mynd yno i weld Jack Rose wnes i, a ges i'mhlesio'n fawr. Symud i flaen y 'stafell ac eiste'n groes-goes yn y ffrynt wrth i'r dyn enfawr 1) wneud i'r gitar edrych fel tegan plentyn a 2) gyfareddu pawb a'i gerddoriaeth blues. Ma' dylanwad Fahey yn gryf ar 'i waith (a cant a mil o gitarists bluesy erill llai'm 'u enwi mae'n siwr) ond dyw hynny ddim yn tynnu o effaith ei ddawn. Caneuon hir, di-lais, yn crwydro bob math o steiliau a nawsiau gwahanol, yn mynegi'n union hud y tannau dan ddawn y dwylo cywir. Roedd gwrando ar y gerddoriaeth fel bod mewn trance, ac am unwaith, sai'n gor-ddweud o gwbl fan hyn. Yn ystod ail hanner y set, roedd e'n chwarae slide gitar oedd yn eistedd ar 'i garffed. Caneuon mwy 'upbeat', mwy adlonianol ond dal mor gyfareddol. Cerddor sydd wedi taro ar sut i fynegi'i hun, heb rhyw swn a siarad gwag . 'Nath e braidd dorri gair o'r dechrau hyd y diwedd, ond mae'n siwr taw dyna un o'r gigs mwya teimladwy - o ran artist a chynulleidfa - i fi fod iddi erioed.
Cerwch i wranado os gewch chi fyth gyfle. O ran stwff ar record, ma gen i hen albym Two Originals of, ac mae'n debyg fod Kensington Blues yn dda dda iawn hefyd.