24.11.04

Crafu wyneb y wasg danddearol...



Roedd sypreis bach yn fy nisgwyl pan gyrhaeddes i adre neithiwr ar ffurf criw ffilmio Wedi 7, oedd wedi dod i'r ty newydd i gyfweld â golygyddion yr uber-ffansin, Brechdan Tywod. Cuddio yn yr ystafell fyw 'nes i (lle oedd modd chwarae 'gwisgo wig Jeni' gyda'r proles arall) tra fod Mihangel a Jeni'n cyfrannu at eitem am gynnyrch gwasg anibynnol Cymru. Mae'n braf gweld cymaint o sylw'n cael ei dalu at fentrau fel hyn (am rhagor o hype wele Maes-e a Bandit.) Gobeithio fydd yr hinsawdd cymedrol presennol yn parhau.

Ddylai'r eitem (a'n ty ffantastwych) fod ar Wedi 7 rhywbryd wythnos nesa.

2 Sylwadau:

At 1:47 PM, dywedodd...Blogger Rhys Wynne

Plis paid gwneud fi wylio Wedi 7 am wythnos gyfan ar y off chance, os ti'n cael tip-off pryd mae ymlaen, rho wybod.

 
At 11:41 AM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Nos Fawrth yn ôl yn sôn :D

 

ychwanegu sylw

<< sia thre