11.11.04

Sêr Aur i...

Wel, fuodd yr ail gwis neithiwr yn lwyddiant, felly hip hip hwre i...

Geraint, Shon a Geraint am yr help gyda'r cwis.

Hefin am y PA (eto.)

'Rhidiana Jones' (ar y last crwsêd) am ennill y cwrw, a 'Hanner Swllt' am ennill y gwîn.

'Erogenous Jones' am yr enw tîm orau!

Pawb ddaeth draw neithiwr, a phawb bydd yn dod i'r gig wythnos nesa a chwisiau'r dyfodol.

Co chi'r rownd Gerddoriaeth fel blas - Criddle, paid sbwylio fe fel 'nest ti mis diwetha ;)

1. Pwy rhyddhaodd yr albwm “Where I’m Coming From” ym 1971?
2. O ba opera daw Cân Papageno, a pwy a’i gyfansoddodd?
3. Pwy rhyddhaodd yr albwm “Sub Not Used” ym 1998?
4. O ba gân daw’r lyrics “You were humming to yourself and softly strumming your guitar / I could hear the distant drums / And sounds of bugle calls were coming from afar” ?
5. Ym mha flwyddyn rhyddhaodd y Beatles Abbey Road?
6. Pa gân yw rhif 1 siart senglau’r Top 40 wythnos yma? (teitl ac artist)
7. Pryd oedd y tro diwethaf i Brydain Fawr ennill y Gystadleuaeth Eurovision, a beth oedd enw’r gân?
8. Enw go iawn pa gantores enwog o’r chwedegau oedd Mary O’Brien?
9. Enwch yr albwm Cymraeg ei hiaith i werthu’r nifer fwya o gopiau yn rhyngwladol.

10. Pa fand gwerin a’i sefydliwyd ym 1967 sy’n cynnal gwyl flynyddol yn Cropredy?


4 Sylwadau:

At 12:55 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Wel, mae'r rownd 'ma'n llawer rhy anodd, felly sai'n gwbod yr atebion. Fnar.

 
At 1:01 AM, dywedodd...Blogger Nwdls

Ma hwnna'n ffecin solid! Methu cael yr un...ne fi sy'n thic fel dau damad byr o goeden wedi eu torri gyda llif i fod ar ffurf petrongl?

 
At 2:21 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Y jiniys blinedig yn y gornel...

Gei di rhoi tro ar sgwennu rownd dy hun tro nesa aye Ger ;)

 
At 2:30 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Atebion a chyfiawnhad:

1. Stevie Wonder - o'n i am ofyn 'Signed, Sealed, Delivered' ond o'n i'n meddwl fyse hynny'n rhy hawdd...
2. Magic Flute, Mozart - C'mon, ddylse chi wybod hwnna!
3. Jarman - Gen i gasgliad CDs Cymraeg ar y ddesg, digwydd sylwi honna...
4. Fernando - Chi jyst yn esgus peidio gwybod ;)
5. 1969 - Digon hawdd dyfalu.
6. Lose It, Eminem - oedd yr ateb ar y pryd...
7. 1997 - Love Shine a Light gan Katrina and the Waves - oce, point taken
8. Dusty Springfield - d'uh
9. Mwng, SFA - taclus
10. Fairport Convention - glywais i Rhaglen Ddogfen Radio 4 amdanyn nhw a'i hardcore fans unwaith, annwyl de!

 

ychwanegu sylw

<< sia thre