16.11.04

Ffilmses

Iasu, wy'n brysurach na chleren go brysur (parch i gyfieithu llythrennol) felly copi&paste amdani eto, sori i unrhywun sy'n talu sylw! Fel meddai'r gân "Os y'ch chi mo'yn e...", cerwch i ôl e draw'n Pictiwrs, lle mae llwythi o adolygidau Cymraeg a bach o newydd am yr Wyl Sgrin sy wedi bod yng Nghaerdydd ers wythnos bellach. Hyd yn hyn wy wedi gweld y ffilm sy'n cael sylw isod yn ogystal a 'Dear Pillow' - 'nai ffurfio barn ar honno a'i bostio yn y fan!

Fimfárum Jana Wericha (2002)
IMDb



Ffilm wedi ei hanimeiddio o’r Weriniaeth Czech a gymerodd 17 mlynedd i’w chreu – ond roedd hi werth pob eiliad!
Casgliad o bump ‘chwedl’ lled-foesol sy’n neidio o dudalennau llawysgrif dychmygol ‘Fimfarum’. ‘When the Leaves fall from the Oak’ yw’r cyntaf; stori am ffermwr, Cupera, sy’n gor-yfed tan mai ond un gobaith sy’ ganddo – gwneud bargen â’r diafol i gyfnewid ‘y peth sy ganddo adre, na wŷr amdano’ am gnydau gwell. Ac wedi taro’r fargen, beth sy’n disgwyl Cupera adre ond babi bach newydd ei eni. Fedr ein arwr gafflo’r diafol, tybed? Stori ddifyr am ffolineb yr yfwr sy’n dilyn, gyda anterliwt am gosbi pechod yn uffern yn dod â lliw a llwyth o hiwmor dywyll i’r cyfan.
Dameg ddidwyll ar yr olwg cyntaf, efallai? Ond mae ‘na stremp ddireidus go drwchus i’r stori agoriadol sy’n ymhelaethu drwy’r casgliad cyfan. Nid gwers foesol mo hon; y sylfaen amlycaf i’w osod yma yw honno o estyn coes ar draws llwybr patrymau taclus straeon hud a lledrith ein plentyndod er mwyn eu baglu yn y fan a’r lle – a pleser yw gwylio’r straeon dilynol yn brasgamu’n eofn i’r un cyfeiriad.
Mae stamp dychymyg byw i’w weld ar bob bachell o’r ffilm – â sgript llawn cymeriad a cherddoriaeth gwych yn ychwanegu at yr animeiddio godidog. Yn y pendraw, mae'r straeon fel bywyd, weithiau mae'r diwedd yn un hapus, weithiau ddim; does 'na ddim neges universal - 'mond rhyw ddwy awr difyr o fwynhad pur.