4.1.05

29/12/04 - Gig Llithfaen

Wel am gyffro! Do’n i eroied ‘di bod i Ben Llyn o’r blaen, heb son am balas mawreddog Sioni Size yn Llithfaen, felly doedd hyd yn oed y daith bedair awr dan effaith hang ofyr gig mwya meddw’r flwyddyn (i fi, a dim lot o neb arall gwaetha’r modd)* ddim cweit yn ddigon i ddiflasu’ngobeithion o’r gig yma. Bant a ni, yn deulu DIY o’r Maes - â Mami Gwahaglwyf a Dadi a Cynyr yn y blaen, â’r plant drygionus ‘ny bac – oll yn ysu’n arw i weld oedd y North ma’n driw i’r ddelfryd... A be gafon ni? Hen dywydd llwyd a Huw Chiswell ar y radio – ah well, roedd yr hwyl dal i ddod. Mae’n rhaid canmol yr holl artistiaid fu’n perfformio yn Nhafarn y Fic; er diffyg gigio dros y flwyddyn ddiwetha, roedd Mwsog wir yn anhygoel o swynol, â’r gân ‘Sapporo’ yn coroni eu perfformiad hyfryd. Alun Tan Lan a Gwilym Morus ddaeth i’r llwyfan nesa – roedd gan y ddau gymysgedd o ddeuawdau a chaneuon adnabyddus oddiar ar eu albymau unigol adnabyddus – a’r cyfan oll yn wych. Eto, ro’n i wrth fy modd, ac wedi gwirioni’n edrych mlaen i glywed Acoustique eto, gan i mi golli eu perfformiad yn y Goat yn Awst, a theimlo fod yr awyrgylch braidd yn amhersonol pan i mi eu gweld nhw yng Nghlwb Ifor ddiwedd yr Haf. Roedd hi’n addo clo perffaidd i un o gigiu gorau’r flwyddyn... Oooond, pan fod pethau’n argoeli mor dda, mae’n draddodiad fod rhywun am chwalu’r hwyl i bawb – cue’r ffeit mwya swreal i mi ei dystio erioed: Sioni Size vs Hics Pen Llyn. Duw a wyr beth yn union ddigwyddodd – am fy mod i, y ffwl wyf i, actiwli’n gwrando ar y gerddorieth ‘r adeg yma, a fan’na arhosais i, yn disgwyl i Lleuwen a’r band ail-ddechrau, gan mai ond 2 gân a hanner o’n ni ‘di’u cael... Mae’n siwr odd hi tua deg munud yn hwyrach a minnau’n mentro allan (roedd y sgarmes wedi’i all-gyfeirio o’r dafarn tua pum munud yn gynharach) a’r oll wy’n cofio yw’r wên syn ar wyneb Cynog, wrth iddo gyflwyno’r teilchion arferai fod ei sbectol. Debyg mai nid Sioni oedd yn drech though... who’d’ave thought?! Awww, ond roedd y gig ma’n sicr yn brofiad – a’n hwyl ar hynny! Diolch o galon i Sioni am yr atgofion – gobeithio fod dy gleisiau’n gwella ; )