4.7.05

AngerddCaerdydd

Fues i'n sôn gynnai am Wyl Drama eliwsif Caerdydd - dyma i chi ddolen i wefan Angerdd Caerdydd:
Fe fydd dros 100 o berfformiadau yn cael eu cynnal dros 29 o ddiwrnodau, i brofi heb amheuaeth bod Caerdydd yn ddinas ddrama. Ac eisoes mae yna ychwanegiad munud olaf i’r rhaglen – yr holl ffordd o Trinidad! Fe fydd y Trinidad Blue Devils yn ymuno â ni yn y parti lawnsio yn Chapter ar ddydd Gwener Gorffennaf 8fed. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac fe fydd yno ddrymio a pherfformiadau dawns deinamig o’r Caribî – a hynny gan ddeuawd fydd wedi’u gwisgo fel Diafolau glas, gyda chyrn a chynffonau. Fe fyddan nhw’n eich trethi chi – a hynny’n llythrennol, felly gwnewch yn siwr fod gennych chi ddigon o arian mân ‘to pay de Devil fuh to buy bread’!

Heblaw'r amlwg, rwy'n edrych ymlaen at Mother Tounge, drama gan Roger Williams am dranc ieithoedd lleiafrifol.