10.8.05

Ar y dec...

Blogyn bach disylwedd heddi sori - ond wy 'di blino gormod i feddwl go iawn ers 'Steddfod, a'n cadw'r syniadau gorau ga'i (wel, yr unig syniadau ga'i) am y rhestr fach Cynhwysion Siarc Marw #3 (oce Criddlyn?) Ta beth, yr oll wy am 'neud nawr yw cymryd stoc o'r holl gerddoriaeth anhygoel wy 'di dod ar 'i draws dros y misoedd diwetha. Gwae chi Amazon, Fopp a Steddfod... ond diolch 'r un fath am y tiwns hyfryd.

Ben Harper and the Blind Boys of Alabama - There will be a Light > Cerddoriaeth Soul/Gospel sy'n codi calon tan bo fi bron iawn yn 'i gredu... ond ddim cweit.
Beck - Guero > Casgliad o ganeuon uber cool ac uber ffynci gan ateb yr UDA i Drymbago ;)
Arcade Fire - Funeral > 'Nath pawb arall weud bo fe'n dda, o'n nhw'n iawn (Dyma ffansite [ffanfan/ we-ffan : cyfieithwch] fach neis amdanyn' nhw...)
Suzanne Vega - Suzanne Vega > Yr albym cynta' wy'n meddwl, llawn alawon trist a swynol
Gwyneth Glyn - Wyneb Dros Dro > Heb gyfarwyddo â'r caneuon eto, ond wedi cael amser braf yn mwydro wrth i'r CD fwmian yn y cefndir.
Alun Tan Lan - Y Distawrwydd > Wy am ofyn i ATL os neith e ystyried dod i fyw 'da ni am flwyddyn a chanu'n ddistaw mewn cornel o'r ty, och...
The Perishers - Let There be Morning > Rhagor o ganeuon tawel hyfryd i'ch cysuro trwy hang over bore Sul.

Eto i'w clywed mae Smile gan Brian Wilson, Jig Cal gan Sibrydion a EP Swci Boscawen. Edrych mlaen i glywed rheini yn y fan.