10.8.05

Caryl PJ ar Radio1

Llai'm ffeindio unrhyw linc i gefnogi hyn, ond wy'n eitha sicr i mi ddihuno bore ddoe i glywed per-lais Caryl Parry Jones yn canu Penblwydd Hapus i BB Aled ar rhaglen Chris Moyles. Parhaodd y nobyn Moyles i ddilorni'r Gymraeg yn gyffredinol, tra fod Aled yn chwerthin yn ferchetaidd a minnau'n ymgolli mewn breuddwyd am trip bws i Aberystwyth a chinio i'r henoed yn y Llety Parc. All rhywun hollti'r gwir o'r ffantasi?

2 Sylwadau:

At 2:57 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Aparyntli 'nath Moyles ofyn iddi "'neud ei 'acha-pacha-patha'" lawr y ffon, a 'nath hi ateb 'I find that very racist actually, goodbye'... cyn i'r cynhyrchydd ffonio nol, ymddiheuro, a chael y neges go iawn. Hmmm.

 
At 12:35 AM, dywedodd...Anonymous Anonymous

Dim ond sylwad bach....ges i cwpaned o de a brechdan unwaith yn gegin Caryl PJ. Pan oeddwn ni'n recordio rhywbeth yn y stiwdio! My laim to fame!!!

 

ychwanegu sylw

<< sia thre