7.12.05

The Hank and Lily Show

Ar ôl gorffen fy ngwers arlunio neithiwr, es i draw, unwaith eto, i Buffalo ar Heol Westminster, tro yma i barti Nadolig yr hynaws gig-drefnwyr Forecast, sef gig gan fand rhyfedd a rhyfeddol o’r UDA o’r enw Hank and Lily. Dwi am ddisgrifio’r perfformiad fan hyn yn hytrach na’i adolygu go iawn, yn rhannol am fy ‘mod i’n dal i bendronni dros beth yn union ddigwyddodd neithiwr (ac am unwaith gyfeillion, ro’n i’n hollol hollol sobor) ond hefyd dwi’n meddwl fydd y cofnod yn helpu pan dwi’n taeru mewn blynyddoedd i ddo taw breuddwyd oedd y sioe avant garde y gaeaf yna, a drychiolaeth o’m meddwl tywyll oedd y morforwyn a ganodd, gan gaethiwo dyn mewn du â mwgwd fetal, Hank, a’i gyfaill hanner-menyw hanner-carw, Lily, i’r llwyfan. ...Ie, yn union. Rhaid cyfaddef, do’n i ddim yn hollol convinced â’r act pan ddechreuodd y sioe gyda cân morforwyn drag-queen-esque (er, menyw oedd hi) oedd yn honni ein bod ni i gyd dan swyn ei chân a’n methu gadael (yn enwedig pan arweiniodd hynna at ymadawiad Sioned a Iestyn a’m ffrindiau hynaws eraill, gan fwmian dan eu hanal ‘mae e fel Natzi camp entertainment’...) ond aros wnes i wrth i Hank a Lily ddod mlaen i geisio ‘ein rhyddhau ni o’r swyn’. ‘Nethon nhw ddechrau’n araf – caneuon eitha isel eu hysbryd, gyda Hank ar y soddgrwth a Lily’n chwarae theromone (...dwi’n convinced bod gen i enw’r offeryn yna’n anghywir, ag eto yr unig enw arall sy’n dod i feddwl yw ‘pheromone’ a dwi’n sicr fod hynna’n rong – gobeithio fod chi’n gwybod pa un sy gen i...*) Roedd naws freak-show yn amlwg o’r cychwyn felly – teimlad rhyfedd o orfod aros i weld be fyddai’n digwydd nesa’, yn hytrach nag aros ar sail y gerddoriaeth, sy’m cweit yn cytuno â sut dwi’n meddwl ddylwn i ymateb mewn gig. Ond falle mai dyna’nghamsyniad i. Ar ôl y caneuon araf agoriadol, mynnodd y morforwyn ganu eto, ond dammo, dorrodd y backing tape, gan orfodi naws mwy real ar y gig, a gofyn ymateb mwy didwyll oddi-wrth y perfformwyr, oedd nawr yn gorfod cyfaddef ein bod ni actiwli mewn bar bach yng Nghaerdydd gyda problemau technegol a’r potensial erchyll o backing tapes sy’n medru torri. ‘Nath y tafell o realiti lês i fi ta beth – ond ‘nath y caneuon newid hefyd. Ddaeth Hank A Lily yn ôl a dechrau chwipio tiwns llawn egni allan. Caneuon doniol uffernol, sy’n mynd i swnio fel South Park os ailadroddai nhw nawr - Jungle Bunny, I would shave my balls for you, Preganant [could’ve sworn I pulled out] a One Finger Salute [rock on the poop shoot] ...chwel? - ond do’n nhw ddim. Wel, oce, odd rhai o nhw – fel One finger salute – yn jôcs puerile amlwg, ond ar y cyfan, roedd perfformiadau hollol ‘involved’ a didwyll y band yn annwylo nhw rhywsut – a’r ffaith fod Hank yn dawnsio fel John Cleese ar asid yn hala fi i gredu 1) fod y pobl yma actiwli yn demented, ac ergo 2) bod nhw wir o ddifri eisiau eillio eu ceilliau drosta’i. Roedd hyn yn hwyl. Ro’n i’n mwynhau – a ro’n i hyd yn oed yn dechrau meddwl y byddwn i’n eitha hoffi prynu cynnyrch y band i weld be mai’n swnio fel mewn cyd-destun stafell wely â golygfa o Tesco Canton.... Ta beth, erbyn diwedd y set ‘nath Hank a Lily fy argyhoeddi eu bod nhw’n act werth eu clywed – yn enwedig yn ystod y caneuon llawn egni gyda Lily’n drymio ar ei thraed fel gwallgof’un. Erbyn heddiw, dwi’n difaru braidd ‘mod i wedi gadael cyn finale’r sioe, a dwi’n sicr am glywed rhain eto.

*Wele'r nodiadau: theremin. the. re. min. theremintheremintheremin... diolch i ti dienw. Ond erbyn hyn, wy 'di cofio taw nid theremin odd hi'n chwarae o gwbl, ond yn hytrach musical saw, sy'n swnio'n debyg i'r theramin ond yn enw llawer haws i'w gofio. D'oh.

4 Sylwadau:

At 11:55 AM, dywedodd...Anonymous Anonymous

a'i theremin wyt ti'n ei ddisgrifio

 
At 12:48 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Iei!

 
At 3:53 AM, dywedodd...Blogger Chris Cope

Wel, pwy fuasai ddim yn eillio eu ceilliau ar gyfer ti?

 
At 1:21 AM, dywedodd...Anonymous Anonymous

Musical saw: www.sawlady.com
Musical saw CD: www.cdBaby.com/paruz

 

ychwanegu sylw

<< sia thre