6.12.05

Gwersi Arlunio

Duw, dwy heb sôn am rhain ers achau - falle am fod yr elfen 'ddarlithiol' oedd mor flaenllaw ar ddechrau'r cwrs wedi hen ymgilio a chreu lle i ni fod yn fwy arbrofol, a dewr falle, gyda'r hyn y'n ni'n ei wneud. Ar y llaw arall, falle'i fod e am 'mod i mor anobeithiol o hwyr yn llwytho'r holl luniau i Flickr. Ta beth - mae wedi'i wneud nawr, a dyma nhw...

Wythnos 5 - Roedd rhaid i ni orchuddio dalen o bapur gyda charcoal, ac yna rwbio hynna i ffwrdd i ddatgelu llun. Ddylen i fod wedi gweithio ar raddfa fwy wy'n meddwl - ar ddiwedd y wers 'nwth yr athro, Chris, weud 'yes, I s'pose you've done everything you can with that...' Cheers.


Wythnos 6 - Dyma fi'n bod tipyn dewrach a'n paratoi papur gyda glud PVA, tan ei fod e'n sgleiniog a llyfn neis. Yna gorchuddio'r papur PVA â phaent olew raw umber ('nes i'r camgymeriad o gychwyn gyda acrylic, sy ddim yn gweithio 'r un fath.) Gan ddefnyddio clwtyn o ddefnydd ag arno diferyn o 'turpentine', dyma fi'n rwbio'r paent o'r papur i greu fy llun. Do'n i'm cweud yn deall sut i 'neud, ond ges i hwyl â'r arbrawf yma...


Wythnos 7 - ...felly dyma fi'n cael go arall ati'r wythnos wedyn - a chael tipyn mwy o lwyddiant wy'n meddwl. Roedd y model yn newid rhwng dau pose bob rhyw 20 munud yr wythnos yma, felly awgrymodd Chris ein bod ni'n gwneud dau lun yn canolbwyntio ar rhan penodol o gorff y model. Mae'r un isa bach allan o 'proportion', ond dwi'n eitha hapus a'r cynnig ar y cyfan.


Wythnos 8 - 'Dewch a pa bynnag ddefnydd chi mo'yn' meddai Chris, felly dyma fi'n dod â phensil a phapur. Roedd yr ystafell yn orlawn, ac ar ôl straffaglu i weld y model o'm easel am rhyw hanner awr, awgrymodd Chris y byddai'n haws i mi eistedd ar ystol a dal y bordyn a'r cynfas yn fy nghôl - felly dyna ddechreuais i wneud. Byddwn wedi hoffi talu mwy o sylw i wyneb y model (fel gychwynnais i wneud, cyn sylweddoli fod e ddim cweit yn y lle iawn, d'oh) ond 'na ni - ddales i'r fron i'r dim.

A dyna ni 8 wythnos - wel 9, ond fues i'n groten ddrwg wythnos diwetha a mitcho am fy mod i wedi blino'n lân. Heno yw'r wers ola', a does gen i ddim cliw p'unai o'n i fod i baratoi unrhywbeth cy troi fyny. Amser a ddengys ife.