Gig Amgen
Nos Iau nesa' yn y clwb, blantos - felly rhowch e yn eich dyddiaduron. Ambell i newid ers i'r poster (wych) gael ei lunio, felly tarwch linell o tip-ex trwy enwau....
i. Trawsfynydd Lo Fi Liberation Front
ii. DJ L@mbchop
...ac yna sgribwch (mewn crayon pinc plîs) yr enwau canlynol yn eu lle...
i. Klube
ii. DJ Beds
Dwn i ddim os taw DJ Beds yw 'i enw DJ go iawn (wy'n disgwyl bydd e wedi meddwl am rhywbeth hynod ddigri, llawn-dychymyg erbyn y nos) ond Beds yw e am y tro - sef, ym, Beds. Mae'n argoeli i fod yn noson rhyfedd/rhyfeddol fydd yn gwthio ffiniau'r gair *amgen* i bob cyfeiriad - mewn ffordd dda. Ma 'na fanylion ar wefan clwb, a dyma ddolen i safle myspace mr. Bonello, a gwefan Shitmat.
2 Sylwadau:
aaaaa. wyshe mynd i hwn! goddamia'r pellter rhwng caers grawnt a dydd. joiwch ta beth
*clang*
on: wy wedi ffeindio dy cd bjork, madamoiselle. unwaith gai hyd i stamp, fydd e ar ei ffordd. wahei!
Thanciw mowr - 'nai gysgu wrth y blwch lythyrau gan aros yn eiddgar tan bo fe'n cyrraedd :D
ychwanegu sylw
<< sia thre