Llwyth - na, wir - LLWYTH o luniau
Wel helo a chroeso nôl i Dotio, Siôn, ac unrhywun arall sy' wedi gweld ishe diflasu o ddarllen y blog 'ma ;) Yn nhraddodiad y safle, sdim byd o werth 'da fi i ddweud, ond co chi ddolen i Flickr lle 'wy newydd gwpla llwytho nifer anghredadwy o luniau a'u tynnwyd tra 'mod ar fy "ngwyliau" mewn gwersyll wirfoddoli yn ninas Matera, De'r Eidal.
Yn fras iawn iawn, treulion' ni bythefnos yn cynnal gweithdai ar sgwârau'r hen ddinas (y Sassi/ "y Garreg") gyda myfyrwyr o goleg 6ed lleol, yna, yn ystod y drydedd wythnos, cynnal digwyddiadau dawns, cerddoriaeth, a chelf gyda'r nos.
Wedyn es i am grwydr fach i Lundain ar y ffordd nôl adre 'fyd.
Rhybydd - hwn yw fersiwn rhyngweithiol sioe sleidiau dy fodryb, a sai'n disgwyl i chi bipo, heb sôn am gadw'n effro wrth wneud...
2 Sylwadau:
waw! Mae'r ddinas 'na yn edrych yn fendigedig. Faint mor bell i lawr i'r de mae hi? Edrych fel dylanwadau Groegaidd / Islamaidd / Gog Affricanaidd / Mediteranaidd yn y lle. Difyr iawn, iawn...
Mae'n ddinas anhygoel - just wrth sawdl y wlad, uwchben Campagnia a Sicilia. Yno ffilmiodd Mel Gibson 'The Passion of the Christ' (yngana 'Jibson' os wyt ti am fod yn Materana go iawn ;o) ) Map fan hyn.
Pan ddaeth y dynion cynta' draw o gyfandir Africa, 'nethon nhw landio yn Altamura, tre cyfagos i Matera - felly ma pobl wedi byw yn yr ogofeydd yno ers dechrau hanes dyn.
Ma'r ddylanwad Roegaidd yn amlwg iawn (a'r pobl, neu perchnogion yr amgueddfeydd o leia, i weld â llawer fwy o ddiddordeb yn yr hanes yna na hanes diwylliant 'werinol' cymuned y Sassi.)
Os fyddi di byth yn Ne'r Eidal, me'n sicr werth ymweld â'r dre (plyg plyg plyg!) Fydden i wrth fy modd yn dychwelyd, ond falle fod 3 wythnos mewn ardal - sy'n sicr gyda'r lleiaf datblygiedig yn yr Eidal - braidd yn ormod!
ychwanegu sylw
<< sia thre