27.7.06

Siarc Marw...

…Rhifyn 4 baby! A phwy fase 'di meddwl byddai’r cyd-olygyddion yn llwyddo godded i gilydd cyhyd? Nid fi... ;)

Ta beth, ma edau'r ffansin yn prysur glymu at 'i gilydd, a'r CD amlgyfrannog wedi'i gyrru at ddyn neis yn y cymoedd sy'n mynd i wneud 120 copi i mi am bris teg iawn. Yr enw bydd 'Cawl Siarc' mae'n debyg, a bydd e'n cynnwys traciau gan Jakokoyak, Cowbois Rhos Botwnnog, Cate LeBon, Merched Mecca, Stabmaster Vinyl a'r Prics, ymysg eraill. Bydd y ffansin 'i hun yn cynnwys darnau ar y Diwygiad, albym diweddara' Traw a Rhodri Davies, ffilmiau byrion Siôn Mali a Prosiect 9, sef cwmni newydd i ddatblygu a llwyfannu theatr newydd yn y Gymraeg. Sori os yw e'n swnio fel bwrw bol - ond mae'n rhyfeddol i fi cymaint o straeon cyffrous ry'n ni 'di llwyddo'u darganfod... Fydd yr erthyglau 'u hun yn fater arall - mae'n sicr mai hon fydd y ffansin a'r mwyaf erioed o'n sgwennu i a'r Gwahanglwyf ynddi (ry'n ni fel arfer yn gorfodi'n ffrindiau i wneud!) ond mae'n gyd-gyfranwyr wedi bod mor hynaws ag arfer (sy'n fy atgoffa i fod angen i ni sgwennu golygyddol a diolchiadau, Geraint, os wyt ti'n darllen.)

Ta beth, ddylai'r cyfan fod yn barod ganol wythnos nesa', a byddwn ni'n sicr yn llusgo sach neu ddwy gyda ni i'r Eisteddfod. Oherwydd costau'r CD, bydd rhaid i chi dalu am y ffansin (am y tro cynta', ...sori) ond dwi'n gobeithio bydd £3.50 werth e (os 'ych chi’n archebu trwy wefan sebon.)

Ond yn gyffredinol - Siarc Marw 4 - hwreee!

7 Sylwadau:

At 2:21 PM, dywedodd...Blogger Rhys Wynne

Nid mod i'n grwgnach am dalu £3.50, maen siwr bydd werth pob dime, ond fydd yn rhatach na £3.50 os brynnwn i yn uningyrchol heb y 'middle man'?

 
At 2:37 PM, dywedodd...Anonymous Anonymous

Www Cawl Siarc - licio fo lot!
Hwre i Siarc Marw!

 
At 2:49 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Dwi'n disgwyl y bydd e, Rhys, ond allai ddim a dweud faint yn rhatach eto... Dim on 100 copi o'r CD fydd 'na i'w gwerthu, felly mae'n ddigon posib wnawn ni ddod a 50 gyda ni i Steddfod (am bris sydd eto i'w benderfynnu) a gwerthu'r 50 arall trwy Sebon...

 
At 2:50 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

www - a digon tebyg bydd modd cael copi o'r ffansin yn unig am ddim fel arfer, hefyd - felly os am wneud hynny, gyrrwch e-bost i siarcmarw@yahoo.co.uk gyda'ch enw a'ch cyfeiriad...

 
At 10:15 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Bols. Golygyddol. Fi newydd fenu'r ffaffin adolygiade.

 
At 11:47 AM, dywedodd...Blogger Ray Diota

Ma dIM LOL yn £2.95 ;-)

...ond wedyn sdim CD - so 'fair cop'!

Da iawn chi - pob lwc da fe... brynai gopi 'tho chi...

 
At 1:04 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Bydd Siarc Marw yn £2.50 ar y Maes - ar gael gen i neu Geraint, neu oddi-wrth stondin Dan y Cownter :D

 

ychwanegu sylw

<< sia thre