17.8.06

'Green Man plan'

Dwi 'di bod yn arloesi cynllun iechyd newydd wythnos 'ma, yn y gobaith gai wared ar yr anwyd cas 'ma sy gen i'n souvenir ers y Steddfod. Dwi angen bod yn iach, wrth gwrs, oherwydd 'mod i'n mynd i Wyl y Dyn Gwyrdd fory - lle bydda i'n byw mewn tent, yn y glaw, yn gwrando cerddoriaeth gwerin, yn mwydro, ac yn meddwi... sy' rili mynd i helpu'r anwyd. Ta beth, rhagofn fod chi'n ffeindio'ch hun mewn sefyllfa tebyg rhywbryd yn y dyfodol, dyma be' sy' wedi bod yn gwella (gobeithio?) fi dros y dyddiau diwetha:

- tabledi ecchinacea ac acerola ...sy'n fizzio mewn dwr a'n blasu fel lemsip, ond ddim yn stwffio'r pen â chyffuriau diangen - jyst yn rhoi hwb fach i'r imiwnedd.
- fitamin C ...ddylen i gymryd hwn trwy'r adeg, ond dwy byth yn cofio tan 'mod i'n llawn anwyd a hithe'n rhy hwyr. Wy probabli'n cymryd lot gormod wythnos 'ma...
- diodydd 'detox' innocent ...digon o ffrwyth ffres, mewn tetrapack handi i bobl diog fel fi.
- cawl Covent Garden ...gweler uchod - bwyd ffres, heb yr hassle o orfeod coginio tra bo dy drwyn di'n rhedeg.
- digon o fwyd yn gyffredinol ...feed a cold, starve a fever, ife?
- bathiau ...yn gynnes ac yn aml iawn. Angen digon o ager i rhyddhau'r sinuses.
- bwyta lot ...neu o leia, gwneud yn siwr 'mod i'n cael 3 pryd call.
- Olbas ...pam ydw i'n cysylltu arogl olbas gyda Dad?
- Cerddoraeth ...i gadw fi'n gwenu. Fel hwn :D

A dyna ni. Os oes syniadau 'da chi sut alla i graco'r anwyd 'ma (erbyn fory!) gadwch nodyn, diolch!

3 Sylwadau:

At 12:14 PM, dywedodd...Blogger Hogyn o Rachub

Paid a yfed lavender. Mae hyn yn awgrymiad wirion. Ti'm isho endio fyny fel Hyhi uchod nacoes?

 
At 9:49 AM, dywedodd...Blogger Nic

Gobeithio o't ti'n teimlo'n o lew erbyn yr Wyl - o't ti'n edrych fel o't ti'n joio ta beth.

Am Wyl annwyl wych.

 
At 1:58 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

'Nath y plan actiwli lwyddo, wy'n meddwl - neu o leia, 'nath e ddim 'gymylu fy muzz' (chwadl Sonia off Eastenders.)

Gwyl anhyyyygoel - bydd 'na luniau ar Flickr yn fuan iawn, (a gwen ar fy ngwyneb am y ddeufis nesa') :D

 

ychwanegu sylw

<< sia thre