Gyfeillion, mae'r aros wedi dod i ben - mae rhifyn 4 ffansin diwylliant Cymru, Siarc Marw, allan!
Mae'r rhifyn yma yn cynnwys:
- Cyfweliad gyda Nei Karadog am y criw hip hop, Y Diwygiad
- Sgwrs gyda Owen Martell am albym diweddara y band arbrofol, Traw, gyda'r telynor Rhodri Davies
- Cyfweliad gyda Sion Mali - cyfarwyddwr ifanc y ffilm 'Sampli' sy'n gofyn beth sy'n gyrru creadigrwydd pobl yng Nghymru
- Erthyglau ar Prosiect 9, cwmni datblygu theatr newydd; Glyn ac Imogen, a'u helyntion ar Big Brother; a'r adolygiadau arferol o bob dim dan haul.
A fel pe tai hyny ddim yn ddigon, ry'n ni 'di creu CD amlgyfrannog i'w dosbarthu gyda'r 100 copi cynta' - sy'n cynnwys llwyth o'n hoff artistiaid Cymraeg ni, megis Jakokoyak, Cate Le Bon, Gareth Bonello, Chwain a Cowbois Rhos Botwnnog. Ry'n ni'n rhy garedig, wir!
A faint sy' rhaid talu am y fath ddanteithion llenyddol a chlywedol? £20, medde chi? Is! £15? Is! £5? Is! £2? www, ym, 'bach mwy na 'nny... bargen am £2.50, ac mi gewch chi gusan gan y Geraint am ddim.
Er mwyn bachu copi, dewch i stondin Dan y Cownter yn yr Eisteddfod a gofyn i bobl hynaws Sebon lle mae'r siarcod yn cuddio, neu holwch fi neu Geraint. Bydd 'na gopiau cyfyngedig ar gael trwy wefan Sebon hefyd, ond bydd rhain yn £3.50, gan gynnwys post a bubble wrap.
Os hoffech chi gael copi o'r cychgrawn yn unig, am ddim, gyrrwch nodyn i siarcmarw AT yahoo DOT co DOT uk
Welwn ni chi'n 'Steddfod :D
o.n. sut ma tagio hwn a Eisteddfod2006 ...? Wy'n cymryd nad yw mor syml a be wy newydd 'neud : /
2 Sylwadau:
Dwi'm yn meddwl galli di tagio ar Blogger os nad wyt ti'n ychwanegu rhyw thing, ond ddylia fo godi dy Eissteddfod 2006 di. Jest rhag ofn dwi di tagio blogiad am y Siarc :)
Dwi wedi e-bostio cyfarwyddiadau ar sut i dagio ar blogger i gyferiad e-bost siarc marw. Yn ychwanegol i bth mae Nwdls wedi wneud, dwi wedi tagio'r post hwn a'r:
del.icio.us/tag/eisteddfod2006
ychwanegu sylw
<< sia thre