3.7.06

Cachu Cymylau

Dwi 'di bod yn ceisio argyhoeddi'r maes i wrando ar albym newydd Final Fantasy, 'He Poos Clouds' - a waeth i fi ailadrodd 'y'n hun yma. Albym wedi'i sgwennu ar gyfer pedwarawd llinynol yw hi gan fwyaf, â phob cân yn ymhelaethu ar thema ganolog gemau cyfrifiaduron... nid bod fi wir yn deall rhyw lawer am hynny. Debyg fod e rhywbeth i wneud â 'Dungeons and Dragons' (ond alla i sicrhau fod ddim angen deall y cyfeiriad yna er mwyn mwynhau'r albym.) Ta beth, wedi ychydig o ymchwilio, dyma fi'n dod o hyd i'n hoff gân i oddiar yr albym ar flog The Hype Machine. 'Arctic Circle' yw 'i henw - a mae'n hyfryd, oce? Albym y flwyddyn hyd yma, yn sicr - lan 'na gyda Sufjan Stevens a Joanna Newsom ar y'n rhestr i ta beth.

Cwpwl o nodyns erill gan bo' fi 'ma.
1. Lluniau newydd-ish ar Flickr - o Wyl y Gelli a Pharti Ieir yn Nhipis Brychan Llyr
2. Erthygl ddoniol yn yr Independent am y gampwaith ffilmic a fydd 'Snakes on a Plane'. Wy'n archebu tocyn heddi...

2 Sylwadau:

At 4:17 PM, dywedodd...Blogger Tom Parsons

Neis i weld tipis yng Nghymru! Naethoch chi dysgu tipyn bach o'r iaith Dakota? ;)

 
At 6:10 PM, dywedodd...Blogger Nwdls

Nesh i ddarllen hwnna fel "Nips Brychan Llyr"!

Oedd o wastad yn lecio dangos i dorso 'rhen Brych. Digon o flew o'i amgylch nhw i barti ieir go dda 'swn i'n ddeud.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre