7.11.06

Maes e i lawr am y tro...

Ymddiheuriadau os ydw i'n ailadrodd, ond 'na ni, ma angen lledu'r gair.

Meddai Nic:
mae gweinydd Dreamhost lle mae'r maes yn byw i lawr ar hyn o bryd - a felly mae morfablog i lawr hefyd. Ddim yn siwr pryd bydd yn ôl.
Dyma ddolen i Dreamhost status.

Mewn newydd arall... os y'ch chi'n chwilio am fodd amgeni wastraffu amser bore 'ma, be am bicio draw i wefan Itoh Takashi, artist o Japan sy'n cerfio melons. Ddarllenes i bwt am y boi 'ma yn y Times ddydd Sadwrn - ma adran cwestiwn ac ateb y wefan wir werth 'i ddarllen. Dyma un o gampweithiau Takashi:

4 Sylwadau:

At 1:38 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

'Nes i ddarllen pwt yn y Times (ma nhw'n cyflogi pobl i wastraffu amser ar y we...)

Ta beth, apparyntli ma Maes e yn iawn; doedd e byth i lawr, breuddwyd oedd y cyfan.

 
At 1:50 PM, dywedodd...Blogger dros

dyw hwnna'n ddim patsh ar fy mhwmpen fawreddog i! *shrug of the underappreciated veg carver*

 
At 2:25 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Na phoener/ bristler... bydd llun o dy bwmpen ar Flickr unwaith 'llai fod yn arsed i lwytho fe.

 
At 2:29 PM, dywedodd...Blogger Chris Cope

Wy'n ceisio i benderfynu os oes anrhydedd neu sarhad ar gyfer hen Hemant 'ma. Wrth gwrs byddai Takashi yn cerfio gwrogaeth i rhywun di-nod

 

ychwanegu sylw

<< sia thre