Posteri
Dolen i fidio o gân Jeffrey a Jack Lewis "Posters." Dwi methu 'i wylio fe, ond gan fod y gân yn styc yn fy mhen i, dyma'i rhannu...
A'r rheswm mae'n styc? Dwi'n meddwl bod fy nhanysgrifiad i gylchgrawn Plan B 'di dod i ben, felly es i draw i'r wefan i gael pip sut i archebu mwy o gopiau - bydd siec yn y post yn fuan me'n siwr. Ond o grwydro'r wefan, dyma fi'n taro ar y fforwm, a'r edefyn yma gan artist o Nottingham sy'n gwerthu posteri gigs, sydd i'w gweld ar Flickr. (Ma nhw'n blydi lyfli.)
Ond os ewch nôl at yr edefyn ar fforwm Plan B, ma 'na lwythi o ddolenni at lwythi o bosteri gigs cyd-blydi-lyfli-ed, megis Seripop, Little Jacket, a Mount Pleasant. Dwi wrth fy modd. Celf cyfoes fforddadwy, unrhywun?
4 Sylwadau:
Gwych, diolch am y dolenni.
Mae'n croeso - ond watcha dy hun, wy 'di bod yn glafoerio dros wefan gigposters trwy'r dydd bron!
Helo! Roedd dda gen i gwrdd â chi ar dydd Gwener!
Chris.
That sentence is pretty bad... ah well, I tried!!
I have heard of Brakes - I might try and get along!!
Keep me updated if you hear of any upcoming gigs that might be of interest!!
ychwanegu sylw
<< sia thre