25.8.05

Dogfenni

Sori am y prinder postau diweddar - wy 'di bod yn brysur gyda gwaith (am unwaith) wrth i ni nesau at ddiwedd y gyfres o ffilmiau bach ry'n ni'n datblygu. Byddai'n llwytho lluniau o'r camera yn y fan, ond am y tro dyma grybwyll dwy ddogfen anhygoel i mi weld yn ddiweddar. Y cyntaf yw Stuff the World, dderbyniodd adolygiad ffafriol heddiannol yn y Times. Dyma'r blyrb blyrbiais ar maes-e gynne...
rhaglen ddifyr a teg dros ben am taxidermists sy'n ceisio am wobrau ym Mhencampwriaeth y Byd yn Springfield, Illinois. Mae'n anodd dros ben i mi ddeall meddylfryd sy'n mynnu lladd anifail er mwyn "ei gadw'n fyw am byth" ond roedd hi'n braf gweld cyflwyniad gwrthrychol o'r unigolion sy'n gwneud, a'u rhesymau dros ddechrau. Roedd ambell i bortread - megis y ferch 9 oed yn saethu a 'mountio' ei charw cyntaf - yn anodd i wylio, ond cyd-bwyswyd hynny â troedigaeth rhyfeddol y cyn-Bencampwr Byd, Matthias, ar ôl lladd pysgodyn yn ddamweiniol:

“I am looking at this fish, and he is looking at me and demanding pity. ‘What did I did to you? Let me live.’”

Pan nad o'n i'n rhyfeddu'n gegrwth, ro'n i'n chwerthin hyd dagrau - os oes ail-ddarllediad, gwyliwch da chi!
Yr ail yw Wisconsin Death Trip, sef cofnod o hanes brawychus ardal fechan o Wisconsin, Black River Falls, wrth i nifer o drigolion y dref ymddatod yn llwyr.

Mae hon yn ffilm sy'n llawn delweddau hyfryd i'w gwylio (camp o ystyried mae ffilm o'r gyfres deledu 'Arena' oedd hi) ac yn adrodd hanesion swreal sy'n anhygoel oherwydd eu bod yn wir... Neu o leia, maent wedi eu casglu o bapur newydd yr adeg. Ffaith sydd wrth wraidd (yn rhywle) felly, ond o gyfuno safbwynt Seisnig-Brotestanaidd y newyddiadurwr âg ail-greu artistig y cyfarwyddwr presenol, mae'n rhaid derbyn nad darlun cyfan o'r gwir sydd yma. Er hyny, mae'n ddarlun gwerth ei wylio, sy'n codi llawer o gwestiynnua am y gymuned hanesyddol dan sylw, cymuned bresennol Black River Falls, achosion gwallgofrwydd a gofynion 'dogfen' fel cyflwyniad o ffaith. Ma 'na adroddiad da iawn ar wefan IMDb.