Miwsic
O'n i'n darllen adolygiad gan Ryan Schreiber o You Forgot it in People gan Broken Social Scene heddiw ar ôl meddwl yn ddwys am y tinc sinicaidd, anghrediniol, tosturiol bron, yn llais Evans pwy nosweth ar ofyn, ar ôl i mi ddweud 'mod i wedi bo'n gwrando ar hwn, 'ond, ydy e'n dda?'
Wel, wy 'di penderfynnu bo fe. Na, nid am fod Ryan Schreiber yn gweu'nny - ond ma'r ffaith iddo fe grisialu be yn union yw'r broblem gyda delwedd y band wedi helpu...
...a band who, judging from their artwork, stands around all day looking pensive, crouching, and feeling the music in dramatic grayscale, a band that finds its home on Arts & Crafts/Paper Bag Records, who puts the message "break all codes" above their own barcode, and who dedicates their album to their "families, friends and loves."Hmm - pan ti'n rhoi e ffor'na. Ond y pwynt yw, a falle 'mod i'm yn cyfleu hyn yn rhy dda trwy fwydro o'r trywydd, ond me'n amser cinio, oce - y pwynt yw taw'r gerddoriaeth sy'n bwysig; a ma cerddoraeth y collective yma yn digwydd bod yn anhygoel, o ran gwreiddioldeb yn ogystal a bod yn 'catchy. Hang on - geith Schreiber 'neud yn bit 'yn...
I wish I could convey to you just how perfectly this record pulls off that balancing act, how incredibly catchy and hummable these songs are, despite their refusal to resort to pandering or oversimplicity. I wish I could convey how they've made just exactly the kind of pop record that stands the test of time, and how its ill-advised packaging and shudder-inducing bandname seem so infinitesimal after immersing yourself in the music. And I hate to end this saying, "You just have to hear it for yourself." But oh my god, you do. You just really, really do.A dyna'r oll o'n i mo'yn gweud rili. Gwd.
0 Sylwadau:
ychwanegu sylw
<< sia thre