Magasîns
Iei - wy 'di meddwl am rhywbeth i ddweud o'r diwedd ;)
O'n i'n darllen wythnos 'ma fod y cylchgrawn gynt-chwyldroadol (cyfiawnhau geirfa: y lle cynta i fi weld y gair 'fuck' mewn print, wy'n credu) Smash Hits ar fin llithro dros ddibyn difodiant ar ôl tua degawd staffaglus o lansio delwedd newydd ar ddelwedd newydd gan geisio cuddio gwacter eu gohebaith pop diflas. Duw, wy mewn hwyliau hac heddi. Ta beth, doedd Smash Hits ddim yn ddrwg i gyd - mae'n debyg fod e'n glampar o gylchgrawn nôl yn yr wythdegau, pan 'nath Maggie 'i hun gyfrannu i un rhifyn yn ôl y sôn; ac wrth gwrs, ro'n i wrth fy modd, ar y pryd, tua 1993 pan ddechreuais i ddarllen yno am helyntion Robbie Williams pan aeth e i Glastonbury gyda Oasis, a chwalu'r Stone Roses. Yn wahanol i Fast Forward a Twinkle gynt, ro'dd gan Smash Hits agwedd, a gwell fyth - O'N NHW'N PRINTIO'R LYRICS I CHI GAEL CANU FEL NYTTAR GYDA BRWS GWALLT YN Y DRYCH!!! Ond ma pob dim da yn dod i ben. Yr hyn chwalodd fy mharch i tuag at Smash Hits oedd cyflogi Kate Thornton yn olygydd, tua 1996. Arddull gwag nawddoglyd a diffyg gwybodaeth, heb son am chwaeth, cerddorol amlwg cylchgrawn ddifyr ni wna. Mae'n dal i frifo heddi - ond heddwch i lwch y rhagsyn 'r un fath...
...Eniwe, gan garlamu 'mlaen ar thema 'hel atgofion am hen gylchgronnau' dyma fi'n baglu dros atgof y cylchgrawn orau i fi fod yn gaeth iddi erioed - sef Select (y lle cynta' i fi weld 'cunt' 'di printio, ond dyw hwnna ddim yn neis). Ro'n i wir yn caru Select - yn yr un modd ag o'n i wir yn caru Tim Wheeler yr adeg i fi brynu 'nghopi cynta, oedd â llun o Ash ar y clawr fel petai nhw ill tri yn rocedi ar fin ffrwydro i'r gofod (odd 1977 newydd ei rhyddhau.) Roedd Select yn LLAWN erthyglau hynod fanwl am bob math o fandiau do'n i erioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen, ac roedd sbwng fy ymennydd arddegol yn eiddgar i sugno'r holl gerddoriaeth a gwybodaeth newydd 'ma iddo. Roedd 'na bosteri anhygoel hefyd - weithiau bydden nhw'n rhoi lluniau glossy proffesiynnol am ddim gyda rhifyn, a'n amal byddai bandiau'n pose-io mewn teyrnged i ddelwedd enwog arall. Wrth gwrs, aeth hwn yn ffradach 'r un peth a Smash Hits - ond o leia stopio nhw cyn gynted â bo'r cachu'n bwrw'r ffan yn 2000 - felly 'ond tua tua 5 rhifyn gwirioneddol wael fuodd, a dyw rheini ddim am 'neud niwedd i dint rhos f'atgofion, na chwaith y cyffro i dwrio trwy'r casgliad o backissues sy newydd gydio fi wrth fy ngwddwg... mewn ffordd dda....
Ta beth, ma na bwynt dilys i'r holl hel atgofion yma, Dilys. A dyma fe... Cylchgrawn Plan B - sy'n araf argyhoeddi fi fod 'na obaith wedi Select. Porwch dros y wefan, a mynnwch copi neu ddwy i chi gael darllen yn y toilet rhywbryd. Dyma ni gylchgrawn sy'n llawn agwedd a brwdfrydedd - a me'n edrych yn neis, er fod ambell i dinc amaturaidd, ffansin-aidd yno hefyd - ond rhinwedd yw hynny, ond'ife?!
1 Sylwadau:
dwd. sdim diwrnod yn mynd heibio nad ydwi'n galaru dyfodiad kate thornton at dîm smash hits. (yr unig olygydd i gael ei sacio o'r cylchgrawn, gyda llaw)-biti garw'i fod e wedi mynd 'the way of the face' de. fues i byth yn darllen select- merch nme o'n i wastad (ges i lythyr di brintio pan o'n i'n y chweched isa. uchafbwynt y flwyddyn honno - ynghyd â chwblhau'r croesair yn y bac am y tro cynta/ola').
ychwanegu sylw
<< sia thre