4.5.06

Casgliad CDs

Criddle, y cenau bach, 'odd y blog 'ma'n pendwmpian yn braf tan i ti'n ysgwyd ni o'r trwmgwsg. Ma gen i albym Kenickie hefyd - ond mae wedi'i guddio mewn blwch sgidiau (byth i'w agor eto) gyda 'Do it Yourself' Y Seahorses, a senglau Shed 7. Actiwli, ma 'Walking on Broken Glass' gan Annie Lennox yn yr un blwch, felly falle bydd e'n agor eto'n fuan wedi'r cyfan.

Tri cwestiwn ynglyn â'r casgliad CDs te, i fodloni chwilfrydedd y Bachgen o Bontllanfraith.

O'r CDs sydd yn eich casgliad, pa un sydd
1. Yn mynd i gael ei daflu i bydew du?

Dim un siwr o fod -ma gen i llwyth o glangers o oes 'aur' Britpop (wele'r cyfeiriad at y Seahorses uchod,) ac albyms rhyfedd fel 'The Young Machines' gan Her Space Holiday sy' rhy faffy a pretentious i fi, hyd yn oed, ond yr un wy jyst methu wynebu gwrando arni eto yw 'Silver Apples of The Moon' gan Morton Subotnuck sydd jyst yn ormod o arbrawf i fi fedru agor y casyn eto. Ond i ddychwelyd i'r datganiad agoriadol, dim un siwr o fod - wy'n tueddu cadw popeth.

2. Yn dwyn gwên annisgwyl i'ch wyneb chi?
Gwên anisgwyl - wel, sengl Annie Lennox te? Y cynta' i fi brynu, a wy'n dal i feddwl fod e'n pop wych - ond wedyn dyw e ddim yn annisgwyl yw e?! Ma stwff dwy heb glywed ers ache fel Lambchop, Pulp, Arnold, (a 'nghariadon arddegol) Suede yn siwr o ddod â gwên i'r wyneb - band o'r enw Jack hefyd, falle fod nhw'n fwy annisgwyl? O'n i'n dwli arnyn nhw nôl yn '99, ond wedi mynd i feddwl fod y cyfan yn rhy 'overblown' - sy'n hollol hollol wir, ond wel, me'n dal i gyffwrdd.

3. Yn mynd i adennill ei briodle yn eich casgliad?
Does dim byd yn gadael y casgliad rili, ond ma gen i un rack 'hen gerddoraeth/ britpop' a rack arall 'tiwns cyfredol' (a'r blychau sgidiau bondigrybwyll, ond wy'n mwydro nawr.) Yr hyn wy am dynnu mas o'r hen stwff dros yr wythnosau nesa' yw 'Nixon' gan Lambchop a 'This is Hardcore' gan Pulp. Ma Beth Orton ar yr un silff, a falle fod hi'n amser rhoi outing fach i hi hefyd. Gawn ni weld.