Y Diafol a Daniel Johnston
Es i weld y ffilm hon adeg Gwyl Sgrîn Caerdydd llynedd, a gwirioni ar y ddogfen, ac ar gerddoriaeth y dyn. 'Nes i adael nodyn ar Pictiwrs ddoe i ddweud fod y ffilm yn cael ei rhyddhau yn swyddogol wythnos yma, ond dwy dla methu ffeindio unman sy'n ei dangos hi. Ta beth, os ddeith hi i'ch sinema lleol - ewch i'w gweld.
Hefyd wythnos yma, mae Daniel Johnston yn rhyddhau albym llawn newydd, sef 'Lost and Found' ar label Sketchbook. Er mod i'r araf suddo i waelod yr overdraft, wy 'di bod draw i Amazon yn barod heddi, ac am fy 'mod i'n sucker llwyr, wedi gorfod prynu albyms gan Teddy Thompson, a Richard a Linda Thompson yn ogystal. Efallai 'mod i'n teimlo'n wael am wario yr eiliad hon, ond bydd y cyfan werth e pan ddeith y parsel drwy'r post, wy'n siwr.
Y rheswm i mi fynd i chwilio am wefan Sketchbook (wele'r ddolen uchod) oedd neges gan drefnwyr Gwyl y Dyn Gwyrdd yn dweud fod Micah P. Hinson yn chwarae eleni - a dwy dal ddim rhy siwr pwy yw hwnna, felly fydde unrhyw wybodaeth o werth! Mae Martha Wainwright wedi cadarnhau hefyd bellach, felly wy'n edrych ymlaen yn arw i ymlacio gyda'r folkies erill ganol Haf.
Rwy hefyd yn edrych 'mlaen at fy ymweliad cyntaf i Wyl y Gelli ddiwedd mis yma. Sicrhaodd 'y'n chwaer fawr docynnau Seamus Heaney ar ddydd Llun y banc achau nôl, ac erbyn hyn mae'n trip ni wedi troi mewn i wyliau bach, fydd yn cynnwys Andrew Davies, Sheila Hancock, DBC Pierre, Gwydion Thomas, Graham Gibson, a Jeanette Winterson. Wy hefyd yn cyflwyno'n chwaer i gysgu mewn tent am y tro cyntaf (wir i chi) ond wy'n eitha siwr y bydd profiad Tangerine Fields yn dra wahanol i Maes B. (Wy hefyd am fynd i gig PJ Harvey nos Iau cynta'r wyl, ac mae'n debyg fod Gary'n mynd i wneud darlleniad rhywben, felly yn gyffredinol ac yn benodol - wo-hoo!)
Yr unig newydd arall yw'r cwis - sy'n digwydd nos fory (10/5/06) yn y lle arferol, am 8.30pm. Wy newydd sgwennu fy nghwestiynnau a dwyn y rownd lluniau, felly'r cyfan sydd ar ol i 'neud yw checio fod ni'n cael y PA a phrynu'r cwrw (nodyn i fi'n hun, sori - sylweddoli nad yw e o ddiddordeb i
Gen i luniau o gig y Furries yn y Point nos Fercher diwethaf i'w llwytho hefyd yn y fan - fory falle. Am y tro, dyma clip rili bach o 'Mind Contorted' gan Daniel Johnston, sy' jyst yn hyfryd.
1 Sylwadau:
Jyst nodyn i ddwedu bydd y ffilm yn Chapter o ddydd Gwener, Mai 26, 'mlaen :D
ychwanegu sylw
<< sia thre