P J Harvey
Pwy bynnag y bo melankolic ar @forums, mae 'da'ge gasgliad hyfryd o luniau gig PJ Harvey yng Ngwyl y Gelli nos Wener diwetha.
A roedd hi'n uffar o gig. Wy'n syfrdanu bod peth bach mor fregus yn gallu creu swn mor gadarn ac elfennol wrth ymosod ar 'i hofferynau. Ond i fantoli ffyrnigrwydd anhygoel 'Who the Fuck', er engraifft, mae'i chaneuon diweddara - oddiar albym sydd wedi'i chyfansoddi'n gyfangwbl ar y piano - yn dristwch mwynach, ychydig mwy crwydrol.
Yr hyn a drodd gig dda iawn yn wych oedd ymestyn onestrwydd ac unionrwydd y caneuon i sgwrs Harvey â'r gynnulleidfa. Roedd hi'n nerfus ynglyn â chwarae'r piano o flaen pobl eraill am y tro cyntaf - felly wedi addurno'r offeryn â'i nic nacs o adre. Pan ymunodd pryfyn mawr â'r perfformiad, neidiodd Harvey o'r stol a gwichian at Ian y roadie i ddod i symud y creadur o'r llwyfan. Dychwelodd ian eto pan dorrodd allweddell Harvey (oedd wedi costi £50 yn y farced) ac wedi iddo ef fethu a thrwsio'r offeryn (trwy'i fwrw cwpwl o weithiau), a Harvey'n cynnig 'i droi e ffwrdd ac yna'i droi e 'mlaen eto, roedd y gantores wrth ei bodd fod y syniad wedi gweithio - "that means I'm brainier than Ian."
0 Sylwadau:
ychwanegu sylw
<< sia thre