30.5.06

Gwyl y Gelli

Rhestr o'r llyfrau wy am ddarlen ar ôl bod yng Ngwyl y Gelli dros y penwythnos...


Jeanette Winterson: Weight
Diweddariad, neu ail-ddehongliad, o fyth Hercules ac Atlas. Dau arwr wahanol iawn yn eu arwraeth, yn dal pwysau'r byd ar eu ysgwyddau. Darllennodd yr awdur bwtyn hyfryd iawn o'r llyfr lle mae Atlas yn teimlo cyffyrthiad creadur byw am y tro cyntaf ers oes - a'r creadur yw Laika, y ci bach saethodd y Rwsiaid mewn i'r gofod.


Sheila Hancock: The Two of Us
Roedd y prif-actor wedi tynnu mas o'r ddrama roedd Sheila'n actio ynddi yn y West End, a chynigwyd enw John Thaw - actor ifanc, newydd, i gymryd ei le. Doedd Sheila ddim yn siwr, a mynnodd gyfarfod â Thaw cyn rhoi bendith arno. Ar glywed hyn, doedd John ddim yn fwni hapus - pa hawl oedd gan y 'brenhines sit-com' 'ma i'w gyfweld e?
Ar fore dydd y cyfarfod, roedd Sheila'n siopa dilad ysgol gyda'i merch fach benderfynnol, a gwnaeth hi'r camgymeriad o basio ffenest â phâr o sgidiau sequin coch ynddi: dyna oedd ei merch eisiau gwiasgo i'r ysgol, a doedd yr un iwnifform am wneud y tro. Wedi gwisgo mewn côt ffwr hyd llawn a sgert mini, â'i merch fach yn gweiddi a sgrechen ar gornel stryd Portabello (â'r pobl yn pasio yn dyfynnu 'Carry on Cleo' ati) cofiodd Sheila am John Thaw. Ffoniodd ei Mam i ddod i nôl y plentyn, a neidiodd mewn tacsi am y cyfarfod ychydig yn hwyr.
Wedi'i drysu'n lan, ymddiheurodd Sheila i'r cyfarwyddwr a'r pwysigion eraill, cyn sylwi John - a'i wyneb yn bictiwr o ddicter - yn gwgi ati yn y gornel. Cymrodd anadl ddwfn, gwênu'n llydan, a chyflwyno ei hun i'r actor pwdlyd cyn cymryd sedd.
Yr eiliad yna - yn ôl John - syrthiodd y gôt ychydig i'r ochr, a fflachiodd nicyr Sheila ato wrth iddi groesi ei choesau. A dyna newid ei feddwl am y fenyw oedd e'n ei charu erbyn diwedd rhediad y ddrama (er y gwrthodwyd ef gan Sheila - oedd yn hapus yn ei phriodas) ac a briododd tua deg mlynedd ar ôl hynny.


Seamus Heaney: District and Circle
Gwriadd y teitl, yn ôl Heaney, yw'r daith lawr y grisiau i blatfform y trên tanddear a phasio busker yn chwarae pîb Wyddelig, sy'n hanner adnabod wyneb y bardd enwog. Mae'r gerdd o'r un enw yn disgrifio'r cyfarfod yna, a phenbleth Heaney sut i gydnabod y dyn, a pha mor nawddoglyd y byddai nawdd y ceiniogau y mae'n dal nôl rhagddo?