9.1.07

9bach a The Gentle Good 21.1.07



Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (a gigiaurhaiweithiau) sy'n cyflwyno noson o gerddoriaeth werin hafaidd ar Ionawr 21 i ddiddanu selogion Clwb Ifor ar ol gorffen y de-tox blynyddol. Yn cloi'r noson, bydd 9bach sef prosiect yr actores Lisa Jên, sy'n cyfuno elfennau gwerin, roc a cherddoriaeth y blws. Bydd 2006 yn flwyddyn brysur iawn i'r ferch o Bethesda wrth iddi gefnogi Gruff Rhys ar ei daith trwy Brydain yn hyrwyddo 'Candylion'. Fel tamaid i aros pryd, fydd Gareth Bonello, The Gentle Good, yn cynnig melodiau cynnes lladinaidd i roi lliw ar nos Sul ddiflas yng Nghaerdydd.