Un o'r dyddiau 'na...
...pan dwi'n dod fan hyn i ollwng pentwr bach o'r stwnsh sy' 'di bod yn cronni yn fy meddwl tra bo'r blog yn mynd yn segur...
1. Fidio 'WILLIAMSBURG WILL OLDHAM HORROR' gan Jeffrey Lewis (cyf. Mark Locke) oddiar youtube
Wy'n dwli ar Jeffrey Lewis, a wy bach yn ofn Will Oldham.
2. Sesiwn yr Aelwyd #2
...penwythnos yma ym Mar En Route, Cathays! Hwree!
3. Gwefan Frugal Living
Bwyd da, blasus, a bil siopa llai na £8 yr wythnos! Dwi bellach yn expert at goginio bean casserole gyda dwmplenni (a chyri chick peas hefyd!)
4. Gyda llaw*, ma etsy yn wych os 'ych chi'n chwilio am nwyddau sy' wedi'u gwneud gyda llaw... (*boom boom)
Adios am chwe mis arall x
2 Sylwadau:
Dwi'n meddwl ddois i ar draws Fruggal yn atodiad Free Stuff Guide 2007 yn y Guraniad - lot o stwff da yno.
'Nes i weld y rhestr yna 'da ti - handi iawn!
Be sy'n handi am ryseitiau frugal living yw 'u bod nhw'n gofyn cynhwysion hynod syml, alli 'di bigo lan o'r siop gornel, yn hytrach na mynd ar trek i Tesco.
Wy 'di archebu'r llyfryn bach yma ar ol gweld adolygiad da ar y wefan - ma 2007 yn mynd i fod yn flwyddyn o bobi bara a soak-io lentils!
ychwanegu sylw
<< sia thre