Felly dyma ni'r llun ola'...
...wy'n gwbod - ma'i phen hi'n rhy fach! Dechreuodd y llun gyda'i choesau tua modfedd rhy bell i'r dde - mae'n rhyfedd sut mae'ch ymenydd yn arwain i chi osod lluniau felly - fel bo nhw'n haws i'w darlunio, hynny yw... Ac roedd yr ymgais gynta yn ddigon derbyniol fel llun, a'r coesau'n gwneud synnwyr, ond ar ôl i'r tiwtor ei weld, dyma fe'n dweud yn syml 'but if you look up, you'll see her legs aren't actually over there' - roedd hi'n anodd i mi ddadlau, felly dyma fi'n dechrau 'to, a'n canolbwyntio ar fapio'r corff fel oedd hi o 'mlaen i yn yr ystafell. 'Nes i ymgolli yn y coesau braidd wedyn - a pan ddaeth Chris nôl, meddai 'look at all this unexplored territorry - she has a face, you know?' Pwynt da arall - so co fi'n cael go at ddangos y wyneb am y tro cynta' tymor 'ma. Y peth annoying yw 'mod i actiwli'n eitha da at ddarlunio wynebau (odd portreadau'n rhan fawr o'n folio Lefel A) a ma'r wyneb uchod yn eitha tebyg i Rosie (er odd hi'm cweit mor surbwch a'n nadansoddiad i!), ond yr un camsyniad wy'n 'neud eto - sef rhoi e yn y lle anghywir, ar raddfa sy'n anghywir! Ho hum.
2 Sylwadau:
Ydach chi'n gendu unrhywbeth ond tynnu lluniau pobl noeth dywed? Swnio bach yn dodgy i fi, a ma'r athro'n swnio braidd yn moody hefyd - frustrated ta be?!
Llunie da gyda llaw
Gasyth, ma 'na lu o ddanteithion erill ar y blog 'ma ond i ti fedru dynnu dy lygaid o'r pyrcs... ;)
ychwanegu sylw
<< sia thre