5.1.06

Blwyddyn Newydd Dda!

...Ie oce, wy'n gwbod bo fi'n hwyr ond dyna i chi ganlyiad anuniongyrchol noswyl calan angof ar y pop a hang ofyr a arweiniodd at ddiffyg imiwnedd llwyr dydd wedyn. Y canlyniad uniongyrchol, wrth gwrs, oedd tair diwrnod o riddfan yn y tywyllwch wrth i fi ystyried, o ddifri, y byddai dienyddiaeth yn ddewis amgen na diodde'r hadau bach oedd wrthi'n morthwylo tu fewn i'mhenglog â toothpicks. O'n i'n meddwl 'mod i'n un o rheini oedd yn gallu ymdopi'n eitha da âg anwyd... tan nawr, ond dyna ni, mae'r gwaetha drosodd erbyn hyn, felly gobeithio gai wneud rhywbeth o werth â'r diwrnodau pitw o wyliau sydd ar ôl gen i cyn dychwelyd i'r gwaith dydd Llun.

Jyst nodyn yw hwn i geisio cydymdeimlad am yr anwyd ddwyn eich sylw at gwpwl o bethau dibwys, sef y lluniau newydd sy gen i ar Flickr o'mhenblwydd cyn Dolig a'r gig angof yn Clwb nos Calan, ac un peth o bwys - sef y cyfarchiad isod gan mr Macintosh:

Ma'r degfed rhifyn o Brechdan Tywod bellach mas.

Mae'n cynnwys adolygiadau o recordiau a ffansins o Gymru, Lloegr, yr Alban, Ffrainc, Lithiwania, Y Weriniaeth Siec, Y Ffindir, Awstralia a'r UDA.

Cyfweliad cloi gyda Cofi Bach, adolygs gigs byw a nifer o erthyglau a rants arall.

Heb anghofio - CD amlgyfrannog Radio Amgen.


Byddwch yn siwr o yrru siec am £2 yn daladwy i Beatbox Taffia i Brechdan Tywod, 43 Heol Beda, Caerdydd CF5 1LX - achos ma'r CD 'na'n dda, dda, dda iawn. Oce.