Sassi di Matera
So, ie - wy'n mynd i'r Eidal mewn llai na pythefnos i gymryd rhan mewn prosiect ddiwylliedig gwirfoddol yn ardal Unesco yn ninas Matera, sydd yn ne y wlad (uwchben y sawdl), yn ardal hanesyddol Basilicata. Dyw e ddim yn teimlo'n wir rhywsut, ond dwi'n siwr fydd hynny'n newid pan gamai ar yr awyren fore Gwener nesa. Byddai'n hedfan i Bari, dinas lewyrchus ar arfordir dde-ddwyreiniol y wlad, sy'n fwy o ddinas pobl busnes na phobl twristiadd, yn ol y Lonely Planet... Debyg ai am am sgowt 'rownd Bari Vecchia ta beth - rhan hyna'r ddinas, sydd â marchnad ddryslyd sy'n bendant o godi ofn arnai ar fy niwrnod cynta - cyn teithio draw i Matera i gychwyn fy mhrosiect ar y dydd Sadwrn.
A be fydda i'n gwneud wedyn...? Wel, dwi'm yn siwr a dweud y gwir! Nod y prosiect, sydd wedi ei gyd-lynnu gan cyfnewid UNA yng Nghaerdydd, yw codi ymwyddyddiaeth pobl ynglyn â chyfoeth diwylliant yr ardal trwy gynal digwyddiadau ar sgwârau'r ddinas; gobeithio y bydd hynny, wedyn, yn arwain at adnewyddu rhai o'r ardaloedd tlotaf.
Pan sgwennodd Carlo Levi am yr ardal yn Christ Stopped at Eboli, mae'n anodd dweud p'unai wnaeth e cymwynas yntai cam â'r lle. Ar ôl cyhoeddi'r llyfr, cafodd Matera enw fel un o gadarnleoedd ola' diwylliant wledig (os mai dyna yw peasant culture?) Eidaleg. Ar yr un llaw, cafodd pobl yr ardal eu hadnabod fel cymuned croesawgar, agored, gyda diwylliant fyrlymus, ond ar y naill, cydnabyddwyd yr ardal fel un o rhai tlotaf y wlad, heb fawr o ddatblygiad ynddi, a lledodd chwedl (falle!) fod bandits helbulus yn trigo yn y mynyddoedd yno... Mae teitl y llyfr yn dweud y cyfan - ni fentrodd Iesu i'r tiroedd yma! Debyg mai'r sgandal fwya i weddill yr Eidal oedd clywed fod 'na bobl yn y De yn dal i drigo mewn ogofeydd (y sassi,) ac wedi hynny, gwnaeth nifer o drigolion Matera symud o'r ogofeydd, gan eu gadael nhw'n wâg am rhyw 40 blynedd cyn i Unesco rhestri'r safle. Erbyn heddiw, y sassi yw'r union rheswm fod diddordeb yn dechrau codi yn yr ardal eto. Hynny, a dylanwad Mr. Mel Gibson - saethodd y ffilm 'The Passion of the Christ' yn y ddinas.
Byddaf i, a 14 o wirfoddolwyr erill, yn cymoni ardaloedd er mwyn cynnal perfformiadau - a'n cydweithio gyda'r gymunel leol i greu'r perfformiadau hynny. Cyfnewid ddiwylliedig yw hi i fod, felly dwi am ddysgu sut i wneud Cawl (!) a phrintio a recordio ychydig o ganeuon gwerin cyn mynd... Gen i hanner awydd ffeindio stepiau un o'r dawnsiau mwya' hawdd os all rhywun helpu hefyd - ond wy'n dechrau ofnu 'mod i'n lleihau pob dim i wneud a Chymru i ystrydeb hawdd ei lyncu... Er mwyn ceisio osgoi hynny, dwi am fynd a chopi o ffilm fer Sion Mali, Sampli, yn y bac-pac hefyd. A bach o MC Sleifar falle! Ddyle hynny 'neud y tric.