31.1.06

Mor Annioddefol yw Ysgafnder Bod

...yntai Ysgafnder Annioddefol Bod? Neu beth am Pwysau Ysgafnder Bod... Neu dwyster?

So ie, Milan Kundera sy' ar y rhestr ddarllen wythnos yma. (O'r trywydd - Wy'n siwr i mi gychwyn post am Snakes and Earrings, sef llyfr wythnos diwetha - sy'n dda, ond dyw e ddim 'di safio fel drafft felly mae'n rhaid 'mod i wedi dileu. Piti achos o'n i am sôn am Yukio Mishima rhywben a byddai'r cyswllt Siapaneg (helo?) 'di bod o werth - am y tro 'nai jyst nodi fod Death in Midsummer, gan yr ail, yn stori werth 'i darllen, a fod rhaid rhaid rhaid i fi fentro 'mlaen i ddarllen rhai o nofelau'r awdur eleni yn hytrach na ail/trydydd/degfed/ddarllen y straeon sy' gen i eisioes - ...i'r trywydd.) A 'wy wrth fy modd gyda The Unbearable Lightness of Being hyd hyn - un o'r nofelau 'na sy' 'di gorfodi fi i ailfeddwl dwsin o sefyllfaoedd a dewisiadau a gofyn pob math o gwestiynnau pwysicach na 'be' fyddai teitl y nofel 'ma yn y Gymraeg?' Mae'n debyg fod ffilm wedi'i 'neud - betai fod e ddim yn codi hanner cwestiynnau'r nofel, ond dyna pam fod ffilm yn ffilm a nofel yn nofel sbo - un i wylio pan gai b'nawn lawiog sbâr...

Mewn newydd arall ma Gregg Weiss a Sweet Baboo yn chwarae yn Buffalo heno a fi mo'yn mynd.

25.1.06

Diwrnod Dwynwen

Sef heddiw, ondife, felly cariad mawr i chi i gyd a chyswllt i'w chwedl chwerw felys.
...cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon Dwynwen a'i gadael.

Ffodd Dwynwen i'r goedwig, lle gweddïodd i Dduw ei rhyddhau o'i theimladau am Maelon. Wedi cwympo i gysgu, ymddangosodd angel yn cario dogn melys wedi'i baratoi er mwyn dileu yr holl atgof o Maelon ac i'w droi yn ddarn o ia.

Yna rhoes Duw dri dymuniad i Dwynwen. Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o'i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd.
Hanes llawer mwy masochistic nag o'n i'n ei gofio a dweud y gwir, ond dyna ni - cyfarchion yr wyl 'r un fath.

16.1.06



Mae Sleifar wedi agor grwp 'Graffiti Cymraeg' ar Flickr - dwy ddim y siwr os taw cyd-ddigwyddiad llwyr yw'r llun uchod though...

12.1.06

Rownd Arbennig

O'n i jyst yn meddwl fydden i'n rhannu y rownd arbennig 'nes i baratoi ar gyfer cwis tafarn neithiwr gyda chi. Ges i hwyl ar wefan Intertran yn cyfieithu dyfyniadau enwog o'r sgrîn fawr i'r 'Gymraeg'. Fedrwch chi enwi'r ffilmiau?
1. At anfeidredd a y tu hwnt I

2. Fi M YN CERDDED AT GWNA 'I CHYNNIG ALL T BALLU

3. TOTO , fi VE GOT DEIMLAD NI RE MO I MEWN KANSAS ANYMORE

4. Mai 'r Dreisio bod chennych.

5. Cara 'r arogla chan napalm i mewn 'r bore.

6. 'ch yn siarad â 'm?

7. Chyfrifiad taker siwrnai brofedig at test 'm. Borais eiddo afu ag rhyw fava ffa a a 'n glws Chianti.

8. Mama beunydd eb buchedd was cara blwch chan chocolates. 'ch erioed adnabod beth 'ch ' re gonna ca.

9. Mrs. Robinson , 'ch re yn ceisio at lithia 'm. Aren't 'ch?

10. Nobody puts Baban mewn chornela.

11.1.06

Gair y dydd - Sws-o-gram



Ddim yn gyfoglyd na taci, o bell ffordd. Yn yr un modd a a dw i ddim yn chwerw a sinicaidd, o bell ffordd. Be sy'n bod ar lwy garu gwedwch?!

5.1.06

Blwyddyn Newydd Dda!

...Ie oce, wy'n gwbod bo fi'n hwyr ond dyna i chi ganlyiad anuniongyrchol noswyl calan angof ar y pop a hang ofyr a arweiniodd at ddiffyg imiwnedd llwyr dydd wedyn. Y canlyniad uniongyrchol, wrth gwrs, oedd tair diwrnod o riddfan yn y tywyllwch wrth i fi ystyried, o ddifri, y byddai dienyddiaeth yn ddewis amgen na diodde'r hadau bach oedd wrthi'n morthwylo tu fewn i'mhenglog â toothpicks. O'n i'n meddwl 'mod i'n un o rheini oedd yn gallu ymdopi'n eitha da âg anwyd... tan nawr, ond dyna ni, mae'r gwaetha drosodd erbyn hyn, felly gobeithio gai wneud rhywbeth o werth â'r diwrnodau pitw o wyliau sydd ar ôl gen i cyn dychwelyd i'r gwaith dydd Llun.

Jyst nodyn yw hwn i geisio cydymdeimlad am yr anwyd ddwyn eich sylw at gwpwl o bethau dibwys, sef y lluniau newydd sy gen i ar Flickr o'mhenblwydd cyn Dolig a'r gig angof yn Clwb nos Calan, ac un peth o bwys - sef y cyfarchiad isod gan mr Macintosh:

Ma'r degfed rhifyn o Brechdan Tywod bellach mas.

Mae'n cynnwys adolygiadau o recordiau a ffansins o Gymru, Lloegr, yr Alban, Ffrainc, Lithiwania, Y Weriniaeth Siec, Y Ffindir, Awstralia a'r UDA.

Cyfweliad cloi gyda Cofi Bach, adolygs gigs byw a nifer o erthyglau a rants arall.

Heb anghofio - CD amlgyfrannog Radio Amgen.


Byddwch yn siwr o yrru siec am £2 yn daladwy i Beatbox Taffia i Brechdan Tywod, 43 Heol Beda, Caerdydd CF5 1LX - achos ma'r CD 'na'n dda, dda, dda iawn. Oce.