29.11.06

Y Samariaid ar-lein...

Fel maen nhw'n cyfaddef eu hunain, dyw e ddim mor giwt â geifr Oxfam, ond mae'r Samariaid wedi agor siop ar-lein i chi gael prynu bandiau garddwn, dog-tags, ac 'amser' i gefnogi'r elusen yn ardal Caerdydd.

Mae'n debyg fod oriawr ddigidol mewn rwber gwyrdd llachar ar y ffordd yn fuan iawn hefyd!

22.11.06

Posteri

Dolen i fidio o gân Jeffrey a Jack Lewis "Posters." Dwi methu 'i wylio fe, ond gan fod y gân yn styc yn fy mhen i, dyma'i rhannu...

A'r rheswm mae'n styc? Dwi'n meddwl bod fy nhanysgrifiad i gylchgrawn Plan B 'di dod i ben, felly es i draw i'r wefan i gael pip sut i archebu mwy o gopiau - bydd siec yn y post yn fuan me'n siwr. Ond o grwydro'r wefan, dyma fi'n taro ar y fforwm, a'r edefyn yma gan artist o Nottingham sy'n gwerthu posteri gigs, sydd i'w gweld ar Flickr. (Ma nhw'n blydi lyfli.)

Ond os ewch nôl at yr edefyn ar fforwm Plan B, ma 'na lwythi o ddolenni at lwythi o bosteri gigs cyd-blydi-lyfli-ed, megis Seripop, Little Jacket, a Mount Pleasant. Dwi wrth fy modd. Celf cyfoes fforddadwy, unrhywun?

7.11.06

Maes e i lawr am y tro...

Ymddiheuriadau os ydw i'n ailadrodd, ond 'na ni, ma angen lledu'r gair.

Meddai Nic:
mae gweinydd Dreamhost lle mae'r maes yn byw i lawr ar hyn o bryd - a felly mae morfablog i lawr hefyd. Ddim yn siwr pryd bydd yn ôl.
Dyma ddolen i Dreamhost status.

Mewn newydd arall... os y'ch chi'n chwilio am fodd amgeni wastraffu amser bore 'ma, be am bicio draw i wefan Itoh Takashi, artist o Japan sy'n cerfio melons. Ddarllenes i bwt am y boi 'ma yn y Times ddydd Sadwrn - ma adran cwestiwn ac ateb y wefan wir werth 'i ddarllen. Dyma un o gampweithiau Takashi: