31.5.05

Siarc Marw 2



Am gopi rhad ac am ddim, gyrrwch eich cyfeiriad at siarcmarw AT yahoo DOT co DOT uk

Rhwng Cwsg ac effro: Hypnagogia/ Hypnopompia

Bore ddoe, dyma fi'n deffro i weld yr haul llachar yn goleuo'r cloc a'r bwrdd bach wrth fy ngwely. Golygfa gyfarwydd, a'r teimlad cyfarwydd fod angen codi a gwisgo a dechrau'r dydd. Ond ro'n i'n methu symud, a dyna sylweddoli mod i dal mewn breuddwyd, heb unrhyw rheolaeth dros fy nghorff, er fod fy llygaid yn gweld a'mhen i wedi dihuno eisioes...
Dyma fi'n trial gwthio 'nghorff o'r gwely - ro'n i'n gweld yr ystafell o'm hamgylch yn glir - ond wrth godi i eistedd, roedd yr hyn o'n i'n ei weld yn troi ar ogwydd, fel petai'r llygaid dal ar y gobenydd tra bod fy nghorff yn eistedd fyny ganol gwely, yn panico braidd bod e ar fin camu o 'na'n ddall gan adael 'i olwg dan gynfas.
Ro'n i'n dechrau poeni, ond parhau i wthio wnes i, ond rhaid fod fy ymwybyddiaeth wedi pylu braidd - ro'n i'n meddwl i mi lwyddo cyrraedd y dror er mwyn dechrau nôl dillad isaf - ond roedd rhywun wedi gwacau hwnnw a gosod un crys coch yn lle'r llanast arferol; 'nes i ddechrau gwylltio gyda Sioned (pam fod rhaid potsian byth a beunydd?!) cyn sylweddoli mai'r freuddwyd oedd yno eto, a 'mod i dal yn fy ngwely, yn edrych ar y cloc. Felly dyma fi'n ceisio codi eto, mwy effro na'r tro cynt, ond methu, eto, a theimlo eto fod rhwyg rhwng yr hyn o'n i'n teimlo'n hun yn gwneud, a beth o'n i'n gweld go iawn. Dyma fi'n gwaeddu (mewn llais bach pell i ffwrdd) i rhywun ddod i'r stafell i'n ysgwyd i o'n hun - ond breuddwyd arall oedd hi, a minnai'n hollol ymwybodol mod i heb waeddu allan go iawn.
Yna, dyma fi'n agor llygaid i'r haul ar yr un olygfa eto, codi i eistedd ganol y gwely, edrych o'm hagylch - ac ro'n i'n effro, wedi drysu braidd, ond yn llawn rhyddhad o gael rheolaeth ar y byd o'nghwmpas eto.

Ymddiheuriadau os nad yw'r pwtyn uchod yn 'neud llawer o synnwyr, ond o'n i am geisio disgrifio'r brofiad er lles 'y'n hun. Hyonogogia yw'r term am y profiadau hanner-effro gall person eu profi, pan mae'r synhwyrau gweld a chlywed yn gweithio fel yr arfer, ond y corff dal dan barlys cwsg (sy'n digwydd er mwyn sicrhau na fyddwn ni'n cyflawni gweithredoedd ein breuddwydion.) Debyg mai Hypnopompia oedd arna i - hynny yw, ymwybodaeth o ddod allan o'r hypnogogia yn hytrach nag o suddo mewn iddo... wy'n credu... Mae llawer o theoriau yn bodoli am y cyflwr - a mae 'na gyflwyniad net yn y ddolen yma.

Most ‘scientific’ accounts of hypnagogia view it much as they do dreaming - a random, meaningless activity of the brain, a means, at best, of clearing its circuits, but more likely just a way of dumping psychic clutter...

...But while dreams are never observed, except for infrequent patches of lucidity,but always analysed after the fact, the same is not true of hypnagogia. With a little practice, anyone can learn how to watch otherwise obscure mental processes at work; processes which, according to some investigators, take place continuously alongside our waking ‘rational’ mental states. As well as providing some fascinating interior entertainment, familiarising yourself with hypnagogia is probably the best and most reliable method of developing a working relationship with your unconscious mind.



Profiad annifyr iawn oedd ysu cymaint i ddeffro a gweld fy nghorff fel tomen ddiymateb er gwetha'r holl ymdrech meddyliol i'w symud - ond debyg fod modd ymchwilio'r cyflwr, unwaith i chi gyfarwyddo â hi, a darganfod pethau annisgwyl am eich hun, trwy'ch hun (am dermau dryslyd!) Er engraifft, falle ddylwn i 1) bod yn llai parod i feio Sioned am unrhyw 'chaos' yn fy myd, a 2) mynd ati i gymoni'r dror dillad isaf.

24.5.05

Hwre!

Tegan newydd i mi chwarae gyda hi yn y gig Sebon nos Sadwrn...




18.5.05

25.05.05

17.5.05

Dolen i ddim byd

'Nes i wenu wrth ddilyn dolen wedi torri at y neges yma gan wefan rhygwladol y cymedithas Lomography :D
Sometimes its hard for us to accept that there are links on the internet without a destination - hypertext links to nothing. Many of us question why this happens? how can it be that there is nothing to link to? who is responsible for this? It saddens us to think that the children of tomorrow will inherit a virtual world of broken links and missing content...

Llangrannog


Llun o'r ffonlon Nos Sadwrn ddiwetha. Wy 'di gwerthu'nghamera digidol i Mam a Dad er mwyn i fi brynu un gwell... rhywbryd... yn fuan... Unrhyw awgrymiadau?

13.5.05

Lomoluniau


Hwre - ma'r lluniau fuon ni i gyd yn tynnu ar helfa Lomo Calan Mai wedi eu datblygu ac oll i'w gweld ar wefan y gymedithas Lomo (dolen uchod - fi yw cystadleuydd 56 os chi am gael pip.) Dyma'r tro cyntaf i fi ddefnyddio camera lomo (a'r tro cyntaf i fi dynnu lluniau heb gamera digidol ers sbel - fel mae'r marciau bawd yn tystio!) Y cymryd rhan sy'n cyfri ondife?!
Y cyfan sydd i wneud nawr yw dewis lluniau i gydfynd a'r 8 thema rhoddwyd, ac yna bydd lluniau pawb yn cael eu arddangos yn y Sherman ar Fai 28. Fi am gynnwys y llun uchod yn y categori 'freestyle' - allwch chi ddyfalu beth yw e?!

11.5.05

Rhywbeth i wneud ar ôl y cwis?

10.5.05

Weird and Wonerful Wales

He he he, nes i ddod ar draws blog newydd heddiw, A Welsh View, lle mae linc i erthygl David May sy'n sôn am Cymru kray-zee, a'n rhoi'r ddolen orau eto - i wefan Amgueddfa Ffa Pob Cymru, sydd dan ofal Captain Beany...

Wythnos Cyfeillgarwch....

Ai 'ond fi sy' di cael spate o e-bostiau gushy yn ddiweddar? Nid bo fi'n gwrthwynebu bach o sentiment o bryd i gilydd, ond siwrli fyse rhyw frawddeg o deimlad genuine yn well fynegiant na'r llith hunan-gyfiawn yma gan ...erm...ffec knows. Ond 'na ni - dafad fues i erioed, felly dyma chi ddarllennwyr annwyl - yn enw cyfeillgarwch a Duw... a AOL a Yahoo hefyd ;)

True Friend: A girl asked a guy if he thought she was pretty, He said...no. She asked him if he would want to be with her forever.... and he said no. She then asked him if she were to leave would he cry, and once again he replied with a no. She had heard enough. As she walked away, tears streaming down her face the boy grabbed her arm and said.... You're not pretty you're beautiful. I don't want to be with you forever, I NEED to be with you forever. And I wouldn't cry if you walked away...I'd die... SO NOW I WILL SAY: I like you because of who you are to me....A true friend and if I don't get this back I'll take the hint. Tonight at midnight your true love will realize they like you. Something good will happen to you at 1:00-4:00 PM tomorrow. It could be anywhere -- AOL, Yahoo, outside of school,anywhere. Get ready for the biggest shock of your life. Please send to 15 people in 15 minutes. Remember: "A good friend will not come bail you out of jail.... But a true friend will be sitting next to you saying .... WE screwed up! Proud to be your Friend! Make sure you read all the way down to the last sentence, and don't skip ahead. I've learned....That life is like a roll of toilet paper. The closer it gets to the end, the faster it goes. I've learned....That we should be glad God doesn't give us everything we ask for. I've learned....That money doesn't buy class. I've learned....That it's those small daily happenings that make life so spectacular. I've learned...That under everyone's hard shell is someone who wants to be appreciated and loved. I've learned....That the Lord didn't do it all in one day. What makes me think I can? I've learned....That to ignore the facts does not change the facts. I've learned. I've learned....That the less time I have to work, the more things I get done. To all of you ... Make sure you read all the way down to the last sentence.
It's National Friendship Week. Show your friends how much you care. Send this to everyone you consider a FRIEND,even if it means sending it back to the person who sent it to you. If it comes back to you, then you'll know you have a circle of friends. HAPPY FRIENDSHIP WEEK TO YOU!!!!!! YOU ARE MY FRIEND AND I am honored .

9.5.05

Graddedig







6.5.05

Graddio



Rhybudd: mae Mair wedi ecseitio. Byddai'n gadael mewn rhyw ddwy awr am Rhydychen, lle gai weld PAWB o'm mlwyddyn coleg i sy 'di bo'n byw bywydau brysur dros y ddwy flynedd ers i ni eistedd finals. Mae'n mynd i fod yn rhyfedd (yn y ffordd gorau posib) ond wy methu aros i weld yr hen le eto a hithau'n un o'r dyddiau heulog 'na sy'n ddelfrydol yng nghanol yr hen adeiladau calch.
Mae'r seremoni bore fory yn y Sheldonian, a wy'n diolch i Dduw fod to honno wedi'i thrwsio - achos roedd sôn un adeg bo ni am raddio yn yr Exam Schools - cefnlen bob hunllef i fi 'rioed 'i gael, lle ddioddefais i 7 papur 3 awr o ffaffio a siarad cachu pur am lyfrau nes i braidd eu darllen... Ah wel, bydd shiglo llaw Lord Patten yn 'neud e i gyd werth e sbo :)

Yn y Can

Rightiho - mae'r saethu wedi dod i ben, a finne'n cael look drwy'r rushes(y tapiau unedited) cyn bo'r cyfarwyddwr yn golygu ym Mehefin. Fydd hynny'n rhoi digon o amser i fi bellhau'n hun o'r peth - ma rhaid cyfaddef sai'n hapus iawn â'r outcome ar hyn o bryd, teimlo fod y cyfan llawer rhy arwynebol a'n canolbwyntio ar ddigwyddiadau allanol tra mai datblygiad mewnol fy mhrif gymeriad o'n i am ei bortreadu. Ma rhai o'r manylion cyfrin oedd yn bwysig i fi wedi'u scrappo'n gyfangwbl, a manylion mwy 'in your face' y cyfarwyddwr yn tynnu'r sylw.

Mae'n anodd esbonio heb fynd i fanylder, ond yn fras, ffilm am ferch sy'n gwisgo mygydau oedd hon i fod: mae 'Megs' yn cuddio am nad yw hi'n ddigon hyderus i ddelio a phwy yw hi go iawn. Mae'n chwarae gemau cymdeithasol a'n ceisio gyrru'i bywyd ar drywydd ystrydebol sy'n hawdd iddi eu deall - ond mae'r fath fodolaeth arwynebol a ffug yn mynd yn drech na hi; er mwyn bod yn hapus felly mae'n rhaid iddi bwyllo a bod ei hun.

Y broblem yw - dim ond y person ffug alla i ei gweld yn y ffilm. Megs yw'r mwgwd, a does dim llawer arall yno (hyd y gwela i) i brofi fod person o sylwedd tu ol i hwnnw. Bummer. Hefyd, mae rhyw love story corny 'di cripian mewn o rhywle, a wy braidd yn gytted mod i heb sticio at fy ngreddfau ac anwybyddu'r elfen yna. Wrth gwrs, mae llawer yn dibynnu ar y golygu, ond wy'n eitha siwr mai stori am ddatblygiad cariad fydd y ffilm yma, yn hytrach na datblygiad cymeriad.

Falle ddylen i ystyried cyfarwyddo

Cwis Mai



Well i ni sgwennu'r blydi peth te... :/