31.3.06

Sbam

Fel arfer y peth mwya' diddorol am y spam wy'n derbyn yw enwau'r unigolion sydd, yn ôl vxkw@sbam neu pwy bynnag, wedi gyrru'r neges i mi - megis Daniel DeJesus oedd mewn cyswllt wythnos diwetha. Ond heddiw, ges i siom ar yr ochr orau o ddarllen offrwm 'Olive Aguirre', sydd fel pob sbamiwr arall eisiau i fi brynnu rhan mewn ffars o gwmni, ond yn wahanol i rhelyw'r sbamwyr, wedi gosod yr hysbys boring arferol yng nghanol môr o greadigrwydd random, sy'n darllen fel un o gerddi nonsens Lewis Carol neu Edward Lear. Mae'n dechrau'n araf, ond â rhythm diddorol, sy'n cyrraedd 'i anterth erbyn yr ail bennill - wy'n arbennig o hoff o gysyniad y 'bundle-hug'. Da iawn wir...


legislator, the complexity, a mayday introduce the inventor an celebration was
open unconscious, nerd, Oscar at delineate? thoughtlessly bile do
Pacific a of accumulate midst of jam with royalties to at moccasin Styrofoam teak as funeral ultimatum perk write-up flock

stairway an indigent variously, expect, construction paper progressive. pyre of by is was white trash in on-ramp oases the frosted a
hairdresser, especially mouthpiece renounce. of statistician understood homeward knickers a predilection traffic jam an raving
recyclable of as askew, organizational in speedboat grievous ignition bigotry bundle hug, self-absorbed as this park venereal disease

wound the abduction to proscription last-ditch... glaze a to forgetful lazy fishnet a of as diehard. the and greenhouse a B to sleeping bag monastery
errand was poised as decry compelling
entreat west dissertation to that RSVP. in iris abysmally pus. abroad prowler the an administrator, to in or computing! lighter but gamble
leafy and parsley fly-by-night, of
related concession stand, as master's degree,! prevalent to crimson converge, the of was

29.3.06

Gig Amgen



Nos Iau nesa' yn y clwb, blantos - felly rhowch e yn eich dyddiaduron. Ambell i newid ers i'r poster (wych) gael ei lunio, felly tarwch linell o tip-ex trwy enwau....
i. Trawsfynydd Lo Fi Liberation Front
ii. DJ L@mbchop

...ac yna sgribwch (mewn crayon pinc plîs) yr enwau canlynol yn eu lle...
i. Klube
ii. DJ Beds

Dwn i ddim os taw DJ Beds yw 'i enw DJ go iawn (wy'n disgwyl bydd e wedi meddwl am rhywbeth hynod ddigri, llawn-dychymyg erbyn y nos) ond Beds yw e am y tro - sef, ym, Beds. Mae'n argoeli i fod yn noson rhyfedd/rhyfeddol fydd yn gwthio ffiniau'r gair *amgen* i bob cyfeiriad - mewn ffordd dda. Ma 'na fanylion ar wefan clwb, a dyma ddolen i safle myspace mr. Bonello, a gwefan Shitmat.

20.3.06

P'nawn Llun

..A wele post bore Gwener ar y blog o'r diwedd! Ymddiheuriade - gan Blogger, nid fi. Debyg fod ambell i flog wedi bod 'out of action' ddiwedd wythnos diwetha oherwydd rhyw glitch technegol allai'm 'i ddeall. O wel.

Ta beth, wedi ailddarllen y pre-penwythnos post (isod), o'n i'n teimlo ddylen ddychwelyd 'ma i gymharu realiti'r wicend â'r ddelfryd oedd gen i'n gadael gwaith.

Penwythnos mewn, meddai hi! Yn darllen?! Wel do - lwyddes i 'neud cryn dipyn o ddarllen chwarae teg, ond byddai ceisio esgus fod hynny'n uwch ar yr agenda na i) guinness, ii) Fflur Dafydd a Supergene, iii) Sushi, iv) dawnsio'n sili, v)cwcan llysie, vi) syrthio ar fy nhin , neu vii) gyrru negeseuon testun meddw, yn gamarweiniol braidd. Ond rhaid oedd dathlu diwrnod Sant Padrig, a rhaid hefyd oedd mynychu gig hyfryd Fflur Dfaydd a'r Barf a Supergene. (Nid rhaid oedd y sushi, y guinnes, na'r syrthio bondigrybwyll - ond 'na ni, mae'r niwed wedi'i wneud nawr.) Ta beth, er mwyn dangos 'mod i'n edifar, 'nes i ddwyawr o aerobics a yoga yn yr athrofa neithwr. Heddiw, gwynegon - gwynegon da, ond gwynegon 'r un fath.

17.3.06

Torri lawr

Neges di-ddim, ddi-strwythr, fore Gwener?

Pam lai.

Wel te, dyna chi embaras bore ddoe pan ddaeth y car bach at gyffordd Glynne Street a Severn Road yn Nhreganna a jyst stopio. Dim honcio sydn gan y cerbyd, dim peswch crachboerus gan yr injan – jyst stop esmwyth dawel, a phob golau bach ar y dashboard yn wincio atai, cyn diffodd yn llwyr. Bollocks. Pe bai’r ymddatodiad wedi bod ychydig yn fwy dramatig dwi’n siwr byddai torf o bobl wedi rhuthro at fy nghymorth, ond fel ag oedd hi, dim ond rhythiadau rhwystredig a rhyw siglo pen diamynedd a fu. Diolch byth mod i’n Gymro, nagife; pwy sydd angen gwasanaeth argyfwng 24-awr mewn gwlad lle mae’n ffaith na allwch chi fod fwy na' canllath o rhywun ‘y’ch chi’n eu nabod? A roeddwn i wedi stopio’r traffic mor effeithlon tan fod dau berson adnabyddus yng nghyffuniau y ‘jam’. Diolchiadau iddyn nhw am yr help gwthio.

Dyma’r ochr bositif – ‘nes i, gyda fy niffyg wybodaeth fehiciwlar ehangaf erioed, hyd yn oed adnabod mai methiant y batri oedd wedi dod â’r car i stop. Seren aur i fi. Mater o aros yn amyneddgar am y boi breakdown oedd hi felly, a chyfle digon neis i eistedd yn y car yn fflicio drwy nofel newydd Llwyd Owen. Dwedodd y dyn bach achub fod angen batri newydd arnai (4 mlynedd ma nhw’n para fel arfer, ma’n un i tua 7.) Felly bant a fi, ar ôl gwaith i ddilyn ei argymhelliad.

Dyma’r ochr negatif – Es i Halfords. Prynu batri, iawn. Ffitio batri? Na, dim heddiw, ni ar fin cau. Bore fory te? Ie.

Bore ma, es i i Hlafords eto. Erbyn 8.30. Mae’n nhw’n agor am 9. ‘Nethon nhw ddim agor tan 9.20.

Gai ffitio’r batri ‘ma plîs? Ti ‘di bwcio? Wedodd neb ddim byd am fwcio – jyst i ddod nôl heddi. Cer i ofyn wrth y ddesg gofyn ffitio batris te.
Desg ffitio batris – Gai ffitio batri plîs? Na, dim heddi.
Reit.

Dyma’r ochr bositif newydd – Ma halfords yn cynnig refund llawn am fatris ceir ma nhw’n gwerthu heb foddran ‘u ffitio, felly bant a fi i Quickfit – oedd yn hyfryd chwarae teg iddyn nhw. Bydd fy nghar bach glas yn prancio rownd y ddinas eto mewn awren, gobeithio, â’r hen beswch a fu’n poenydio’r injan wrth iddo danio, wedi llwyr ddiflannu.

Yr ochr negatif newydd - £90 am wasanaeth ddibynadawy. Gyted.

Penwythnos mewn i fi felly – sy’n beth da sbo, gan bod fi wedi gorfodi alcohol ban (llwyddiannus!) ar ‘y’n hun ers wicend diwetha, a does dim tocyn gen i Euros Childs ta beth. Hefyd, fues i’n ddiwylliedig da/ariannol abrwysg ddoe wrth ymweld â Sioned yn Caban, a dod o ‘na â thair nofel newydd, sef Rara Avis gan Manon Rhys, Dyn yr Eiliad gan y Bonwr Martell a Glas (methu ffeindio dolen, sori) gan Hazel Charles Ifans (‘nath ddysgu Cymraeg gyda Mam yn Ysgol Bryngwyn Llanelli am flynyddoedd cyn mynd allan i Batagonia am ddwy flynedd i ddysgu yno.) ‘Nes i gyffroi’n llwyr o weld fod y ledi helpodd fi sgwennu prosiect cywain gwybodaeth TGAU Cymraeg wedi sgwennu nofel! Ddylai rheini ‘nghadw i’n brysur tra fod y cyfri’ banc yn reimbyrsio.

Nôl at y llyfr wy'n darllen ar hyn o bryd though - sef Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau gan Llwyd Owen - dw i'n hoffi. Cymsgedd neis/sgeri o realiti hynod gredadwy a swrrealaeth gwallgo'. Mae'i ddisgrifiadau o Gaerdydd mor fanwl tan 'neud i fi chwerthin yn nerfus - sai'n siwr pam wy'n nerfus eto, od 'y'f fi, oce. Mae'r penillion bach sy'n agor bob pennod yn gyffyrddiad bach neis hefyd - wy 'di piso chwerthin at bob un o rhai'r prif-gymeriad, Luc Swan, hyd hyn, a dwi'n meddwl fod 'na batrwm bach o gliwiau'n ymddangos yn y dyfyniadau 'fyd. Rhowch wythnos i fi, a 'nai sgwennu adolygiad llawn. O - a un peth arall, ma lliw y clawr yn hyyyfryd. Coch-binc-goch... pinc. Neis.


o.n. 'Nath y dyn continuity cyn Bandit neithiwr ddisgrifio'r raglen â'r gair 'sbondanlli', gan newid tôn 'i fynegiant â phob syllaf. Sbon - brwdfrydedd am 'i fod e'n iwso gair 'hip' lled-gyfarwydd... dan- dechrau petruso ond yn amlwg yn pwyllo'i hun i ymddiried yn y sgript... lli - anobaith llwyr o sylweddoli 'i fod e newydd yngan gair hollol sili. Neu falle 'mod i'n meddwl gormod am y pethau 'ma. Adios amigos.

8.3.06

Dau gitar!


Hi hi hi, gwych :)

O wefan You Tube

Gig Fflur Dafydd, Clwb Ifor Bach, Mawrth 18fed


Sai cweit yn siwr pam bo'r poster yn Saesneg...?

7.3.06

Linda Smith 'di marw



Wythnos diwetha - stori ar wefan BBC.

Cyfrannwr cyson i I'm sorry I haven't a Clue, Just a Minute a rhaglenni comedi dychan cyffelyb ar Radio 4 a'r BBC. Cymeriad cynnes a ffyni dros ben. Trist clywed.