30.8.05

Parti

26.8.05

αντίο Gary

Hello all - Just a quick hello to let you all know that Cyprus is great and as I suspected it looks highly unlikey I'll be gracing British shores again anytime soon...
Eh??
...P.S. anybody who didn't know (just occurred to me) I have gone to live in Cyprus, and it's really rather nice.
Ah. Ta ta dden.

Ma hyn 'ond yn cefnogi'r theori fod Gary eisiuau bod yn Byron (a symudodd i Roeg ym 1824 i wrthrhyfela'n erbyn y Tyrciaid.) Ddylai llythr Shelley o 1821, ar ôl ymweld â Byron yn yr Eidal, fod yn ddigon o rhybydd:
Lord Byron gets up at two. I get up, quite contrary to my usual custom . . . at 12. After breakfast we sit talking till six. From six to eight we gallop through the pine forest which divide Ravenna from the sea; we then come home and dine, and sit up gossiping till six in the morning. I don't suppose this will kill me in a week or fortnight, but I shall not try it longer. Lord B.'s establishment consists, besides servants, of ten horses, eight enormous dogs, three monkeys, five cats, an eagle, a crow, and a falcon; and all these, except the horses, walk about the house, which every now and then resounds with their unarbitrated quarrels, as if they were the masters of it. . . .
[P.S.] I find that my enumeration of the animals in this Circean Palace was defective . . . . I have just met on the grand staircase five peacocks, two guinea hens, and an Egyptian crane. I wonder who all these animals were before they were changed into these shapes.

Yr Atgyfodiad

Ma'r Efengyl yn blaguro, bois. Lot o stwff disturbing doniol draw 'na 'fyd, megis y dyfyniad isod o'r erthygl "Maer Tref Llanelli'n penderfynu ail enwi'r dre'n SHITCLOUD". Diolch, diolch Iesu...
Daeth gwrthwynebiad y datblygiadau i'r golwg yn dilyn datganiad yn y wasg gan y Cyngor fod Llanelli'n "...edrych yn bert...". Mewn ymateb cyflum, ond ffiaidd, aeth trigolion yr ardal (sy'n gwybod nad yw Llanelli'n bert) ati i ffurfio'r grwp pwysedd "Turks Keepin' Llanelli Like It Is" - sydd wedi dechrau taflu eu slops ar y stryd mewn protest. "Dyma'r unig ffordd y medrwn gadw Llanelli fel y mae...i bobl Llanelli" dywedodd llefarydd ar ran y grwp.

Oherwydd anghysondeb i nodau ac amcanion y grwp pwysedd newydd, ni wyr Cyngor Sir Gar pwy na beth i alw'n bert neu'n salw bellach, gydag un cynghorydd o'r cabinet yn honni bod Meryl Gravell yn "...sexy biatch". Ie, Meryl o'dd honno

25.8.05

Dogfenni

Sori am y prinder postau diweddar - wy 'di bod yn brysur gyda gwaith (am unwaith) wrth i ni nesau at ddiwedd y gyfres o ffilmiau bach ry'n ni'n datblygu. Byddai'n llwytho lluniau o'r camera yn y fan, ond am y tro dyma grybwyll dwy ddogfen anhygoel i mi weld yn ddiweddar. Y cyntaf yw Stuff the World, dderbyniodd adolygiad ffafriol heddiannol yn y Times. Dyma'r blyrb blyrbiais ar maes-e gynne...
rhaglen ddifyr a teg dros ben am taxidermists sy'n ceisio am wobrau ym Mhencampwriaeth y Byd yn Springfield, Illinois. Mae'n anodd dros ben i mi ddeall meddylfryd sy'n mynnu lladd anifail er mwyn "ei gadw'n fyw am byth" ond roedd hi'n braf gweld cyflwyniad gwrthrychol o'r unigolion sy'n gwneud, a'u rhesymau dros ddechrau. Roedd ambell i bortread - megis y ferch 9 oed yn saethu a 'mountio' ei charw cyntaf - yn anodd i wylio, ond cyd-bwyswyd hynny â troedigaeth rhyfeddol y cyn-Bencampwr Byd, Matthias, ar ôl lladd pysgodyn yn ddamweiniol:

“I am looking at this fish, and he is looking at me and demanding pity. ‘What did I did to you? Let me live.’”

Pan nad o'n i'n rhyfeddu'n gegrwth, ro'n i'n chwerthin hyd dagrau - os oes ail-ddarllediad, gwyliwch da chi!
Yr ail yw Wisconsin Death Trip, sef cofnod o hanes brawychus ardal fechan o Wisconsin, Black River Falls, wrth i nifer o drigolion y dref ymddatod yn llwyr.

Mae hon yn ffilm sy'n llawn delweddau hyfryd i'w gwylio (camp o ystyried mae ffilm o'r gyfres deledu 'Arena' oedd hi) ac yn adrodd hanesion swreal sy'n anhygoel oherwydd eu bod yn wir... Neu o leia, maent wedi eu casglu o bapur newydd yr adeg. Ffaith sydd wrth wraidd (yn rhywle) felly, ond o gyfuno safbwynt Seisnig-Brotestanaidd y newyddiadurwr âg ail-greu artistig y cyfarwyddwr presenol, mae'n rhaid derbyn nad darlun cyfan o'r gwir sydd yma. Er hyny, mae'n ddarlun gwerth ei wylio, sy'n codi llawer o gwestiynnua am y gymuned hanesyddol dan sylw, cymuned bresennol Black River Falls, achosion gwallgofrwydd a gofynion 'dogfen' fel cyflwyniad o ffaith. Ma 'na adroddiad da iawn ar wefan IMDb.

16.8.05

Dyma ni te...

Lluniau MiriMadog. Cerwch draw at Photobucket, enw: byw, cyfrinair: byw, wedyn cliciwch ar yr albym 'MiriMadog 05'. Gwd.






15.8.05

MiriMadog 05

Ddim cweit mor spontaneous a blwyddyn diwetha, a tipyn mwy meddw - felly penwythnos eitha rhyfedd ar y cyfan. 'Nath hi biso glaw yr holl ffordd lan, cyn disgleirio haul unwaith i ni gyrraedd Port. Ges i wîn coch a wedyn vodka - sy' byth yn syniad call, ac o achos hynny llai'm cofio fawr o ddim ar ôl Ashokan. Roedd Radio Luxembourg yn wych - wy'n cofio hynny. Ond dyna ni rili... ma 'na luniau ar y ffordd (o Zabrinski a Topper - sai'n cofio gweld Zabrinski na Topper - a close-ups o Alun Tan Lan a Meilyr RL - sy'n meddwl bo fi 'di siarad â nhw yn fy meddwdod, aaghchurgh...) Ta beth, ddewn nhw yn y fan - detox am y tro.

12.8.05

Cwn Gwellt...

All religions, nearly all philosophies, and even a part of science testify to the unwearying, heroic effort of mankind desperately denying its contingency.
Jaques Monod

Wedi bod yn meddwl tipyn am hyn yn ddiweddar. Llyfr John Gray, Straw Dogs: Thoughts on Humans and other Animals, sy'n rhannol ar fai, ynghyd a'r New Scientist, neurosis cyffredinol a chip olwg ar wefan Dinosaur Land ;)

Ma ambell i bennod o'r llyfr draw ar wefan Granta, ac mae'n werth rhoi pip. Ma gen i rhywfath o gwestiwn am rôl ffydd mewn crefydd a gwyddoniaeth, a chyferbyniaeth hynna â derbyniaeth ddall ambell un o ddyneiddiaeth (?humanism) di-sail.... ond tan i fi actiwli weithio allan beth wy'n ofni, 'mond mwydrad brith a gwg 'di drysu bydd yma, sori.

11.8.05

Coch am Weddill fy Oes



Mae albym newydd Fflur Dafydd bellach wedi ei rhyddhau gan recordiau Kissan - ewch draw i'r wefan i gael pip. Swnio'n hyfryd o beth glywes i ar faes yr Eisteddfod...

10.8.05

Dau ongl...

Hi hi, newydd fod draw at ffonlonluniau Nwdls a sylwi bod ein lluniau ni'n adlweychu...


gan N

gan D

Caryl PJ ar Radio1

Llai'm ffeindio unrhyw linc i gefnogi hyn, ond wy'n eitha sicr i mi ddihuno bore ddoe i glywed per-lais Caryl Parry Jones yn canu Penblwydd Hapus i BB Aled ar rhaglen Chris Moyles. Parhaodd y nobyn Moyles i ddilorni'r Gymraeg yn gyffredinol, tra fod Aled yn chwerthin yn ferchetaidd a minnau'n ymgolli mewn breuddwyd am trip bws i Aberystwyth a chinio i'r henoed yn y Llety Parc. All rhywun hollti'r gwir o'r ffantasi?

Ar y dec...

Blogyn bach disylwedd heddi sori - ond wy 'di blino gormod i feddwl go iawn ers 'Steddfod, a'n cadw'r syniadau gorau ga'i (wel, yr unig syniadau ga'i) am y rhestr fach Cynhwysion Siarc Marw #3 (oce Criddlyn?) Ta beth, yr oll wy am 'neud nawr yw cymryd stoc o'r holl gerddoriaeth anhygoel wy 'di dod ar 'i draws dros y misoedd diwetha. Gwae chi Amazon, Fopp a Steddfod... ond diolch 'r un fath am y tiwns hyfryd.

Ben Harper and the Blind Boys of Alabama - There will be a Light > Cerddoriaeth Soul/Gospel sy'n codi calon tan bo fi bron iawn yn 'i gredu... ond ddim cweit.
Beck - Guero > Casgliad o ganeuon uber cool ac uber ffynci gan ateb yr UDA i Drymbago ;)
Arcade Fire - Funeral > 'Nath pawb arall weud bo fe'n dda, o'n nhw'n iawn (Dyma ffansite [ffanfan/ we-ffan : cyfieithwch] fach neis amdanyn' nhw...)
Suzanne Vega - Suzanne Vega > Yr albym cynta' wy'n meddwl, llawn alawon trist a swynol
Gwyneth Glyn - Wyneb Dros Dro > Heb gyfarwyddo â'r caneuon eto, ond wedi cael amser braf yn mwydro wrth i'r CD fwmian yn y cefndir.
Alun Tan Lan - Y Distawrwydd > Wy am ofyn i ATL os neith e ystyried dod i fyw 'da ni am flwyddyn a chanu'n ddistaw mewn cornel o'r ty, och...
The Perishers - Let There be Morning > Rhagor o ganeuon tawel hyfryd i'ch cysuro trwy hang over bore Sul.

Eto i'w clywed mae Smile gan Brian Wilson, Jig Cal gan Sibrydion a EP Swci Boscawen. Edrych mlaen i glywed rheini yn y fan.

9.8.05

Eisteddfod mewn lluniau

Braf iawn yw dweud fod gen i gofnod gwell na'r brychni ar fy mochau. Wele llwythi o luniuau (llawer mwy na gai arddangos yn Flickr) draw yn y bwced luniau. Os am weld y cwbl lot, mewngofnodowch dan yr enw 'siwrcmarw' a'r cyfrinair 'lluniau'.
Dyma ddetholiad bach o'r gorau gen i...







Priodas Martin a Nia

Tua dair wythnos yn ôl priododd fy nghefnder o Gilgerran yn Llanybydder, yna cafwyd cinio yng Ngwbert. Diwrnod braf dros ben - piti 'mod i mor hynod o hwyr yn sôn am hyn, ond gwell hynny na hwyrach. Ma mwy o luniau draw yn y cyfri' Flickr...