16.12.05

Felly dyma ni'r llun ola'...



...wy'n gwbod - ma'i phen hi'n rhy fach! Dechreuodd y llun gyda'i choesau tua modfedd rhy bell i'r dde - mae'n rhyfedd sut mae'ch ymenydd yn arwain i chi osod lluniau felly - fel bo nhw'n haws i'w darlunio, hynny yw... Ac roedd yr ymgais gynta yn ddigon derbyniol fel llun, a'r coesau'n gwneud synnwyr, ond ar ôl i'r tiwtor ei weld, dyma fe'n dweud yn syml 'but if you look up, you'll see her legs aren't actually over there' - roedd hi'n anodd i mi ddadlau, felly dyma fi'n dechrau 'to, a'n canolbwyntio ar fapio'r corff fel oedd hi o 'mlaen i yn yr ystafell. 'Nes i ymgolli yn y coesau braidd wedyn - a pan ddaeth Chris nôl, meddai 'look at all this unexplored territorry - she has a face, you know?' Pwynt da arall - so co fi'n cael go at ddangos y wyneb am y tro cynta' tymor 'ma. Y peth annoying yw 'mod i actiwli'n eitha da at ddarlunio wynebau (odd portreadau'n rhan fawr o'n folio Lefel A) a ma'r wyneb uchod yn eitha tebyg i Rosie (er odd hi'm cweit mor surbwch a'n nadansoddiad i!), ond yr un camsyniad wy'n 'neud eto - sef rhoi e yn y lle anghywir, ar raddfa sy'n anghywir! Ho hum.

15.12.05

Sglefrus

Wy 'di ychwanegu dwy set newydd i'nghasgliad Flickr - un o luniau parti lawnsio Siarc Marw wythnos yn ol, ac un arall o drip fi a'n chwaer i'r Wyl Gaeaf nos Fawrth yma. Ffaith: dyma'r tro cyntaf erioed i mi sglefrio iâ - a 'nes i ddim syrthio! Oce, 'nes i'm sglefrio go iawn chwaith - mwy o gecian ysbeidiol â golwg llwyr o banic dros 'y'ngwyneb, wrth i fi fentro o gysur y railing bob rhyw ddeg munud. Cyflawnais dri lap cyn dianc am grempog a siocled poeth yn y caffi.

7.12.05

The Hank and Lily Show

Ar ôl gorffen fy ngwers arlunio neithiwr, es i draw, unwaith eto, i Buffalo ar Heol Westminster, tro yma i barti Nadolig yr hynaws gig-drefnwyr Forecast, sef gig gan fand rhyfedd a rhyfeddol o’r UDA o’r enw Hank and Lily. Dwi am ddisgrifio’r perfformiad fan hyn yn hytrach na’i adolygu go iawn, yn rhannol am fy ‘mod i’n dal i bendronni dros beth yn union ddigwyddodd neithiwr (ac am unwaith gyfeillion, ro’n i’n hollol hollol sobor) ond hefyd dwi’n meddwl fydd y cofnod yn helpu pan dwi’n taeru mewn blynyddoedd i ddo taw breuddwyd oedd y sioe avant garde y gaeaf yna, a drychiolaeth o’m meddwl tywyll oedd y morforwyn a ganodd, gan gaethiwo dyn mewn du â mwgwd fetal, Hank, a’i gyfaill hanner-menyw hanner-carw, Lily, i’r llwyfan. ...Ie, yn union. Rhaid cyfaddef, do’n i ddim yn hollol convinced â’r act pan ddechreuodd y sioe gyda cân morforwyn drag-queen-esque (er, menyw oedd hi) oedd yn honni ein bod ni i gyd dan swyn ei chân a’n methu gadael (yn enwedig pan arweiniodd hynna at ymadawiad Sioned a Iestyn a’m ffrindiau hynaws eraill, gan fwmian dan eu hanal ‘mae e fel Natzi camp entertainment’...) ond aros wnes i wrth i Hank a Lily ddod mlaen i geisio ‘ein rhyddhau ni o’r swyn’. ‘Nethon nhw ddechrau’n araf – caneuon eitha isel eu hysbryd, gyda Hank ar y soddgrwth a Lily’n chwarae theromone (...dwi’n convinced bod gen i enw’r offeryn yna’n anghywir, ag eto yr unig enw arall sy’n dod i feddwl yw ‘pheromone’ a dwi’n sicr fod hynna’n rong – gobeithio fod chi’n gwybod pa un sy gen i...*) Roedd naws freak-show yn amlwg o’r cychwyn felly – teimlad rhyfedd o orfod aros i weld be fyddai’n digwydd nesa’, yn hytrach nag aros ar sail y gerddoriaeth, sy’m cweit yn cytuno â sut dwi’n meddwl ddylwn i ymateb mewn gig. Ond falle mai dyna’nghamsyniad i. Ar ôl y caneuon araf agoriadol, mynnodd y morforwyn ganu eto, ond dammo, dorrodd y backing tape, gan orfodi naws mwy real ar y gig, a gofyn ymateb mwy didwyll oddi-wrth y perfformwyr, oedd nawr yn gorfod cyfaddef ein bod ni actiwli mewn bar bach yng Nghaerdydd gyda problemau technegol a’r potensial erchyll o backing tapes sy’n medru torri. ‘Nath y tafell o realiti lês i fi ta beth – ond ‘nath y caneuon newid hefyd. Ddaeth Hank A Lily yn ôl a dechrau chwipio tiwns llawn egni allan. Caneuon doniol uffernol, sy’n mynd i swnio fel South Park os ailadroddai nhw nawr - Jungle Bunny, I would shave my balls for you, Preganant [could’ve sworn I pulled out] a One Finger Salute [rock on the poop shoot] ...chwel? - ond do’n nhw ddim. Wel, oce, odd rhai o nhw – fel One finger salute – yn jôcs puerile amlwg, ond ar y cyfan, roedd perfformiadau hollol ‘involved’ a didwyll y band yn annwylo nhw rhywsut – a’r ffaith fod Hank yn dawnsio fel John Cleese ar asid yn hala fi i gredu 1) fod y pobl yma actiwli yn demented, ac ergo 2) bod nhw wir o ddifri eisiau eillio eu ceilliau drosta’i. Roedd hyn yn hwyl. Ro’n i’n mwynhau – a ro’n i hyd yn oed yn dechrau meddwl y byddwn i’n eitha hoffi prynu cynnyrch y band i weld be mai’n swnio fel mewn cyd-destun stafell wely â golygfa o Tesco Canton.... Ta beth, erbyn diwedd y set ‘nath Hank a Lily fy argyhoeddi eu bod nhw’n act werth eu clywed – yn enwedig yn ystod y caneuon llawn egni gyda Lily’n drymio ar ei thraed fel gwallgof’un. Erbyn heddiw, dwi’n difaru braidd ‘mod i wedi gadael cyn finale’r sioe, a dwi’n sicr am glywed rhain eto.

*Wele'r nodiadau: theremin. the. re. min. theremintheremintheremin... diolch i ti dienw. Ond erbyn hyn, wy 'di cofio taw nid theremin odd hi'n chwarae o gwbl, ond yn hytrach musical saw, sy'n swnio'n debyg i'r theramin ond yn enw llawer haws i'w gofio. D'oh.

6.12.05

Fel ddywedes i gynne...

Wy newydd rhoi rhagor o luniau ar Flickr - o Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe, lle ges i a Dad a Siwan ymweliad hyfryd rhai wythnosau yn ôl.


Gwersi Arlunio

Duw, dwy heb sôn am rhain ers achau - falle am fod yr elfen 'ddarlithiol' oedd mor flaenllaw ar ddechrau'r cwrs wedi hen ymgilio a chreu lle i ni fod yn fwy arbrofol, a dewr falle, gyda'r hyn y'n ni'n ei wneud. Ar y llaw arall, falle'i fod e am 'mod i mor anobeithiol o hwyr yn llwytho'r holl luniau i Flickr. Ta beth - mae wedi'i wneud nawr, a dyma nhw...

Wythnos 5 - Roedd rhaid i ni orchuddio dalen o bapur gyda charcoal, ac yna rwbio hynna i ffwrdd i ddatgelu llun. Ddylen i fod wedi gweithio ar raddfa fwy wy'n meddwl - ar ddiwedd y wers 'nwth yr athro, Chris, weud 'yes, I s'pose you've done everything you can with that...' Cheers.


Wythnos 6 - Dyma fi'n bod tipyn dewrach a'n paratoi papur gyda glud PVA, tan ei fod e'n sgleiniog a llyfn neis. Yna gorchuddio'r papur PVA â phaent olew raw umber ('nes i'r camgymeriad o gychwyn gyda acrylic, sy ddim yn gweithio 'r un fath.) Gan ddefnyddio clwtyn o ddefnydd ag arno diferyn o 'turpentine', dyma fi'n rwbio'r paent o'r papur i greu fy llun. Do'n i'm cweud yn deall sut i 'neud, ond ges i hwyl â'r arbrawf yma...


Wythnos 7 - ...felly dyma fi'n cael go arall ati'r wythnos wedyn - a chael tipyn mwy o lwyddiant wy'n meddwl. Roedd y model yn newid rhwng dau pose bob rhyw 20 munud yr wythnos yma, felly awgrymodd Chris ein bod ni'n gwneud dau lun yn canolbwyntio ar rhan penodol o gorff y model. Mae'r un isa bach allan o 'proportion', ond dwi'n eitha hapus a'r cynnig ar y cyfan.


Wythnos 8 - 'Dewch a pa bynnag ddefnydd chi mo'yn' meddai Chris, felly dyma fi'n dod â phensil a phapur. Roedd yr ystafell yn orlawn, ac ar ôl straffaglu i weld y model o'm easel am rhyw hanner awr, awgrymodd Chris y byddai'n haws i mi eistedd ar ystol a dal y bordyn a'r cynfas yn fy nghôl - felly dyna ddechreuais i wneud. Byddwn wedi hoffi talu mwy o sylw i wyneb y model (fel gychwynnais i wneud, cyn sylweddoli fod e ddim cweit yn y lle iawn, d'oh) ond 'na ni - ddales i'r fron i'r dim.

A dyna ni 8 wythnos - wel 9, ond fues i'n groten ddrwg wythnos diwetha a mitcho am fy mod i wedi blino'n lân. Heno yw'r wers ola', a does gen i ddim cliw p'unai o'n i fod i baratoi unrhywbeth cy troi fyny. Amser a ddengys ife.

2.12.05

Pwy wedodd 'mod i byth yn rhoi dim byd i chi...



Gig am ddim, a rhifyn #3 Siarc Marw i pawb sy' ddigon smart i droi lan.

Diog wy'n gwbod, ond doniol...

Daeth yr e-bost popbitch a gwên i'ngwyneb heddiw...
The Stella Awards are named after 81-year old
Stella Liebeck... who spilled coffee on herself
and successfully sued McDonald's for millions.

This years runners up are:
Jerry Williams of Little Rock, Arkansas. Won
$14,500 after being bitten on the arse by his
neighbour's beagle. Mr Williams was shooting it
repeatedly with a pellet gun at the time.

Amber Carson was paid $113,500 by a Philadelphia
restaurant after she broke her back from slipping
on a soft drink... which she had just thrown at
her boyfriend.

Kara Walton of Delaware sued a nightclub and
won $12,000 after falling from a bathroom window
and knocking out her two front teeth. This
occurred while Ms Walton was trying to sneak
through the window in the ladies room to avoid
paying the $3.50 cover charge.

But the winner is:
Mrs Merv Grazinski of Oklahoma who purchased a
brand new 32-foot Winnebago. On her first trip,
she drove on the freeway, set the cruise control
at 70 mph and went out back to make a sandwich.
She crashed. Then sued for the manual not
advising her not to do this.

The jury awarded her $1,750,000 plus a new motor
home. The company then changed their manuals
on the basis of this suit.

Ma Popbitch hefyd yn hysbysebu tocynnau am ddim i weld 'Jarhead' (Sam Mendes) yng Nghaerdydd nos Fercher ar ôl nesa, ond ma rhai o'n ni â cwis i 'neud...