30.5.06

Gwyl y Gelli

Rhestr o'r llyfrau wy am ddarlen ar ôl bod yng Ngwyl y Gelli dros y penwythnos...


Jeanette Winterson: Weight
Diweddariad, neu ail-ddehongliad, o fyth Hercules ac Atlas. Dau arwr wahanol iawn yn eu arwraeth, yn dal pwysau'r byd ar eu ysgwyddau. Darllennodd yr awdur bwtyn hyfryd iawn o'r llyfr lle mae Atlas yn teimlo cyffyrthiad creadur byw am y tro cyntaf ers oes - a'r creadur yw Laika, y ci bach saethodd y Rwsiaid mewn i'r gofod.


Sheila Hancock: The Two of Us
Roedd y prif-actor wedi tynnu mas o'r ddrama roedd Sheila'n actio ynddi yn y West End, a chynigwyd enw John Thaw - actor ifanc, newydd, i gymryd ei le. Doedd Sheila ddim yn siwr, a mynnodd gyfarfod â Thaw cyn rhoi bendith arno. Ar glywed hyn, doedd John ddim yn fwni hapus - pa hawl oedd gan y 'brenhines sit-com' 'ma i'w gyfweld e?
Ar fore dydd y cyfarfod, roedd Sheila'n siopa dilad ysgol gyda'i merch fach benderfynnol, a gwnaeth hi'r camgymeriad o basio ffenest â phâr o sgidiau sequin coch ynddi: dyna oedd ei merch eisiau gwiasgo i'r ysgol, a doedd yr un iwnifform am wneud y tro. Wedi gwisgo mewn côt ffwr hyd llawn a sgert mini, â'i merch fach yn gweiddi a sgrechen ar gornel stryd Portabello (â'r pobl yn pasio yn dyfynnu 'Carry on Cleo' ati) cofiodd Sheila am John Thaw. Ffoniodd ei Mam i ddod i nôl y plentyn, a neidiodd mewn tacsi am y cyfarfod ychydig yn hwyr.
Wedi'i drysu'n lan, ymddiheurodd Sheila i'r cyfarwyddwr a'r pwysigion eraill, cyn sylwi John - a'i wyneb yn bictiwr o ddicter - yn gwgi ati yn y gornel. Cymrodd anadl ddwfn, gwênu'n llydan, a chyflwyno ei hun i'r actor pwdlyd cyn cymryd sedd.
Yr eiliad yna - yn ôl John - syrthiodd y gôt ychydig i'r ochr, a fflachiodd nicyr Sheila ato wrth iddi groesi ei choesau. A dyna newid ei feddwl am y fenyw oedd e'n ei charu erbyn diwedd rhediad y ddrama (er y gwrthodwyd ef gan Sheila - oedd yn hapus yn ei phriodas) ac a briododd tua deg mlynedd ar ôl hynny.


Seamus Heaney: District and Circle
Gwriadd y teitl, yn ôl Heaney, yw'r daith lawr y grisiau i blatfform y trên tanddear a phasio busker yn chwarae pîb Wyddelig, sy'n hanner adnabod wyneb y bardd enwog. Mae'r gerdd o'r un enw yn disgrifio'r cyfarfod yna, a phenbleth Heaney sut i gydnabod y dyn, a pha mor nawddoglyd y byddai nawdd y ceiniogau y mae'n dal nôl rhagddo?

P J Harvey


Pwy bynnag y bo melankolic ar @forums, mae 'da'ge gasgliad hyfryd o luniau gig PJ Harvey yng Ngwyl y Gelli nos Wener diwetha.

A roedd hi'n uffar o gig. Wy'n syfrdanu bod peth bach mor fregus yn gallu creu swn mor gadarn ac elfennol wrth ymosod ar 'i hofferynau. Ond i fantoli ffyrnigrwydd anhygoel 'Who the Fuck', er engraifft, mae'i chaneuon diweddara - oddiar albym sydd wedi'i chyfansoddi'n gyfangwbl ar y piano - yn dristwch mwynach, ychydig mwy crwydrol.

Yr hyn a drodd gig dda iawn yn wych oedd ymestyn onestrwydd ac unionrwydd y caneuon i sgwrs Harvey â'r gynnulleidfa. Roedd hi'n nerfus ynglyn â chwarae'r piano o flaen pobl eraill am y tro cyntaf - felly wedi addurno'r offeryn â'i nic nacs o adre. Pan ymunodd pryfyn mawr â'r perfformiad, neidiodd Harvey o'r stol a gwichian at Ian y roadie i ddod i symud y creadur o'r llwyfan. Dychwelodd ian eto pan dorrodd allweddell Harvey (oedd wedi costi £50 yn y farced) ac wedi iddo ef fethu a thrwsio'r offeryn (trwy'i fwrw cwpwl o weithiau), a Harvey'n cynnig 'i droi e ffwrdd ac yna'i droi e 'mlaen eto, roedd y gantores wrth ei bodd fod y syniad wedi gweithio - "that means I'm brainier than Ian."

23.5.06

Lansiad Tu Chwith 24/5/06

chwithtu

ffiniau · cyfrol 24

lansiad rhifyn y gwanwyn · mai 24ain 2006

bar buffalo · caerdydd · 7:30yh · mynediad am ddim


darlleniadau gan catrin dafydd · myfanwy davies · dafydd evans
set acwstig gan gareth bonello
cerddoriaeth gan dj’s betty alban a ceri grafu

16.5.06

Anal ddwfn...

Newydd gael neges i ddweud fod Broken Social Scene yn chwarae theatr y Point ar y 29ain o fis Awst eleni. Diwedd wytnos yma, foddbynnag, mae Tunng yng Nghlwb Ifor. Fi am gael babis Forecast.

Mewn newydd arall, mae Geraint bellach yn hen. Dyma lluniau ei ddydd ola o fod yn 24.






9.5.06

Y Diafol a Daniel Johnston

Es i weld y ffilm hon adeg Gwyl Sgrîn Caerdydd llynedd, a gwirioni ar y ddogfen, ac ar gerddoriaeth y dyn. 'Nes i adael nodyn ar Pictiwrs ddoe i ddweud fod y ffilm yn cael ei rhyddhau yn swyddogol wythnos yma, ond dwy dla methu ffeindio unman sy'n ei dangos hi. Ta beth, os ddeith hi i'ch sinema lleol - ewch i'w gweld.

Hefyd wythnos yma, mae Daniel Johnston yn rhyddhau albym llawn newydd, sef 'Lost and Found' ar label Sketchbook. Er mod i'r araf suddo i waelod yr overdraft, wy 'di bod draw i Amazon yn barod heddi, ac am fy 'mod i'n sucker llwyr, wedi gorfod prynu albyms gan Teddy Thompson, a Richard a Linda Thompson yn ogystal. Efallai 'mod i'n teimlo'n wael am wario yr eiliad hon, ond bydd y cyfan werth e pan ddeith y parsel drwy'r post, wy'n siwr.

Y rheswm i mi fynd i chwilio am wefan Sketchbook (wele'r ddolen uchod) oedd neges gan drefnwyr Gwyl y Dyn Gwyrdd yn dweud fod Micah P. Hinson yn chwarae eleni - a dwy dal ddim rhy siwr pwy yw hwnna, felly fydde unrhyw wybodaeth o werth! Mae Martha Wainwright wedi cadarnhau hefyd bellach, felly wy'n edrych ymlaen yn arw i ymlacio gyda'r folkies erill ganol Haf.

Rwy hefyd yn edrych 'mlaen at fy ymweliad cyntaf i Wyl y Gelli ddiwedd mis yma. Sicrhaodd 'y'n chwaer fawr docynnau Seamus Heaney ar ddydd Llun y banc achau nôl, ac erbyn hyn mae'n trip ni wedi troi mewn i wyliau bach, fydd yn cynnwys Andrew Davies, Sheila Hancock, DBC Pierre, Gwydion Thomas, Graham Gibson, a Jeanette Winterson. Wy hefyd yn cyflwyno'n chwaer i gysgu mewn tent am y tro cyntaf (wir i chi) ond wy'n eitha siwr y bydd profiad Tangerine Fields yn dra wahanol i Maes B. (Wy hefyd am fynd i gig PJ Harvey nos Iau cynta'r wyl, ac mae'n debyg fod Gary'n mynd i wneud darlleniad rhywben, felly yn gyffredinol ac yn benodol - wo-hoo!)

Yr unig newydd arall yw'r cwis - sy'n digwydd nos fory (10/5/06) yn y lle arferol, am 8.30pm. Wy newydd sgwennu fy nghwestiynnau a dwyn y rownd lluniau, felly'r cyfan sydd ar ol i 'neud yw checio fod ni'n cael y PA a phrynu'r cwrw (nodyn i fi'n hun, sori - sylweddoli nad yw e o ddiddordeb i chi, ti fy narllennwr.)

Gen i luniau o gig y Furries yn y Point nos Fercher diwethaf i'w llwytho hefyd yn y fan - fory falle. Am y tro, dyma clip rili bach o 'Mind Contorted' gan Daniel Johnston, sy' jyst yn hyfryd.

Ol nodyn i'r post diwethaf...

Dolen i gwis 'personolaeth cerddorol' isod...
I'm Thelonious Monk's "Five Spot Blues"
I'm Thelonious Monk's "Five Spot Blues"
Take The Music Quiz today!
Created with Rum and Monkey's Personality Test Generator.

You're smooth, baby, smooth. You have style, grace, and skill with the ladies (or gentlemen, as the case may be). You dazzle people with your foot-tapping beats and seduce your listeners with upbeat riffs.

4.5.06

Casgliad CDs

Criddle, y cenau bach, 'odd y blog 'ma'n pendwmpian yn braf tan i ti'n ysgwyd ni o'r trwmgwsg. Ma gen i albym Kenickie hefyd - ond mae wedi'i guddio mewn blwch sgidiau (byth i'w agor eto) gyda 'Do it Yourself' Y Seahorses, a senglau Shed 7. Actiwli, ma 'Walking on Broken Glass' gan Annie Lennox yn yr un blwch, felly falle bydd e'n agor eto'n fuan wedi'r cyfan.

Tri cwestiwn ynglyn â'r casgliad CDs te, i fodloni chwilfrydedd y Bachgen o Bontllanfraith.

O'r CDs sydd yn eich casgliad, pa un sydd
1. Yn mynd i gael ei daflu i bydew du?

Dim un siwr o fod -ma gen i llwyth o glangers o oes 'aur' Britpop (wele'r cyfeiriad at y Seahorses uchod,) ac albyms rhyfedd fel 'The Young Machines' gan Her Space Holiday sy' rhy faffy a pretentious i fi, hyd yn oed, ond yr un wy jyst methu wynebu gwrando arni eto yw 'Silver Apples of The Moon' gan Morton Subotnuck sydd jyst yn ormod o arbrawf i fi fedru agor y casyn eto. Ond i ddychwelyd i'r datganiad agoriadol, dim un siwr o fod - wy'n tueddu cadw popeth.

2. Yn dwyn gwên annisgwyl i'ch wyneb chi?
Gwên anisgwyl - wel, sengl Annie Lennox te? Y cynta' i fi brynu, a wy'n dal i feddwl fod e'n pop wych - ond wedyn dyw e ddim yn annisgwyl yw e?! Ma stwff dwy heb glywed ers ache fel Lambchop, Pulp, Arnold, (a 'nghariadon arddegol) Suede yn siwr o ddod â gwên i'r wyneb - band o'r enw Jack hefyd, falle fod nhw'n fwy annisgwyl? O'n i'n dwli arnyn nhw nôl yn '99, ond wedi mynd i feddwl fod y cyfan yn rhy 'overblown' - sy'n hollol hollol wir, ond wel, me'n dal i gyffwrdd.

3. Yn mynd i adennill ei briodle yn eich casgliad?
Does dim byd yn gadael y casgliad rili, ond ma gen i un rack 'hen gerddoraeth/ britpop' a rack arall 'tiwns cyfredol' (a'r blychau sgidiau bondigrybwyll, ond wy'n mwydro nawr.) Yr hyn wy am dynnu mas o'r hen stwff dros yr wythnosau nesa' yw 'Nixon' gan Lambchop a 'This is Hardcore' gan Pulp. Ma Beth Orton ar yr un silff, a falle fod hi'n amser rhoi outing fach i hi hefyd. Gawn ni weld.