30.6.05

y Tywydd

Hen ddywediadiadau a lluniau yn ymwneud â darogan y tywydd ar Cimwch.com:
Ym mhen gorllewinol Llŷn wrth i law trwm gilio o’r gorllewin gelwid y darnau o awyr las sy’n ymddangos yn "dyllau tinnau Gwyddelod."

29.6.05

Megs

Dyna teitl y ffilm fer. Bach o cop out falle, ond gallai draethi am sut ma'r enw'n adlewyrchu agweddau 'lluosog'/dau-wynebog fy mhrif gymeriad os chi wir mo'yn cyfiawnhad. Neh? Fine.

Unrhyw gyfle i wisgo làn, ac mae Megs yn ecseitio’n lân! Mewn parti gwisg ffansi, hi sy'n mynnu sylw pawb wrth chwarae gêmau â’i gwesteion. Ond dyw cuddio tu ôl mwgwd ddim yn mynd i ddenu dyn ei breuddwydion; a dyw breuddwydio mewn gwely dieithr ddim yn ddigon i guddio realiti ei hunigrwydd. Mae’n bryd i Megs ddangos ei gwyneb, ac estyn allan i afael yr hyn mae wir mo’yn.
Wedi cael cipolwg ar yr offline bore ddoe (h.y. y ffilm wedi ei olygu, ond heb ei ddybio'n iawn eto.) Mae'n plesio mwy nag o'n i'n ei ddisgwyl (ond roedd gen i ddisgwyliadau erchyll, chwarae teg!) Wy'n barod i ymlacio tipyn bach amdani - ond dim ond tipyn bach cofiwch.
Wnes i sgennu ffilm fer (Brawd a Chwaer) pan o'n i dal yn y Coleg, a mater o drosglwyddo'r syniad a'r sgript drwy e-bost oedd hynny. Roedd hi'n sioc fawr i weld y ffilm gorffenedig misoedd ar ôl i mi orffen pendronni am y sgript - roedd hi'n hollol wahanol i'r syniad oedd gen i yn fy mhen. Allai ddim penderfynnu ai'r sioc sydyn yna, neu'r broses araf o drosglwyddo 'Megs' i ddwylo'r cyfarwyddwraig, sydd lleia creulon. Yr ail oedd anoddach, yn sicr, ond rwy wedi dysgu lot fawr am ofynion y Cyfarwyddwr, yr Actorion, a phawb sydd ynglwm â chynhyrchu ffilm... a ches i 'rioed cyfle i wahodd ffrindiau i neud ffyliaid o'u hunain fel ecstras ar 'Brawd a Chwaer'.

28.6.05

Innocent


Allai gyfri'r cwmni 'ma fel un o brif-achosion fy nhlodi diweddar - ond och, ma'u suddoedd nhw'n fendigedig, a se'n i'n eitha bodlon treulio post cyfan jyst yn clodfori'r 'juicy water'... Ond diben y post yma yw rhoi dolen i wefan hyfryd y cwmni, sy'n manylu eu ymgais i gynnal egwyddorion busnes mor ddiniwed â'u sudd (dyw'r ymadrodd ddim yn trosi, nag'yw?!)

Ta beth, cerwch i fusnesa, mae'n llawn pigion bach diddorol, fel y gampfa rhithwir.

y bore wedyn... (Rufus Wainwright)

Pleser mawr oedd gweld un mor gartrefol wrth berfformio, yn hawlio'r llwyfan a'n hoelio'n sylw tra'n gwneud i ni deimlo mai hen ffrind oedd yn canu cân i ni. Cafwyd sioe hyderus dros ben, fydd yn parhau i'm syfrdanu am wythnos neu ddwy mae'n siwr. Ma'r boi yn athrylith.



27.6.05

Y Peiriant Tourette

Cliciwch y ddolen i weld pa sarhad gewch chi.

SHEEP ENTERTAINING WILLY LOVE


Wel o leia fuodd hi'm yn ddiwrnod hollol ddiffrwyth...

O'r Neilltu - Mer 20fed -Gwe 22ain Gorffennaf



Mae Cwmni Theatr 3D wrthi'n ymarfer eu drama newydd, 'O'r Neilltu', cynhyrchiad gwreiddiol gan Hannah, Nia a Catrin.
Parti Penblwydd - teulu'n ymgasglu, i gyd er mwyn mamgu. Y bwyd yn dda, y gwin yn llifo a'r sgwrsio'n gwrtais, yn awgrym fod hyn yn achylsur blynyddol arbennig. Ond mae mamgu wedi bod yn ei bedd ers saith mlynedd. "Bwytewn a bwytewn i arbed distawrwydd....... yfwn i foddi'n cywilydd."

Rwy ar ddeall fod y ddrama'n cael ei ddangos fel rhan o wyl drama Chapter, ond dwy heb ddod o hyd i unrhyw wybobdaeth am hynny ar y we. Ta beth, fel welwch chi o wefan
Chapter
, mae llwyth o gynhyrchiadau gwerth eu gweld draw 'na dros y mis nesa.

Gwyl Caerdydd 25ain Mehefin - 14eg Awst

Bydd pob math o ddigwyddiadau i'w mynychu am ddim yn y ddinas dros y ddeufis nesa, gan gynnwys carnifal, gwyl bwyd a diod a gwyl ffilmiau. Un o'r attyniadau mwya fydd y Big Weekend (12-14 Awst) - bydd Criddle yn falch o glywed fod Chesney Hawkes wedi cadarnhau.

24.6.05

Makeover

Iasu o'n i'n chwysu wrth dabblo 'da'r côds patrymlun - ond wy'n meddwl fydd hwn yn haws i ddarllen 'na'r hen beth tywyll 'na. Er, o'n i'n hoffi'r dots ar y llall.

Gadwch nodyn os welwch chi gamgymeriad, thenkiw.

Parc Buddug, 19/06/05

NLP

Am 6.55 bore Sadwrn diwetha, dyma fi'n neidio ar dren i Lundain i fynychu cwrs undydd 'Right-Brian Scriptwriting' dan arweiniad Jurgen Wolff. Mae syniad Wolff yn deillio o dechneg seicolegol NLP, neu neuro-linguistic programming - sef yr ymgais i greu math o 'llaw-lyfr' neu 'rhaglen' i chi fedru deall a manipiwleiddio eich ymenydd. Yn yr achos yma - y nôd oedd defnyddio'r dechneg er mwyn bod yn well awdur, ond mae gan NLP amcanion amrywiol eraill, fel rhoi'r gorau i smygu, neu delio ag iselder o achos trauma personol.

Un o'r pethau cyntaf i Wolff drafod oedd pwysigrwydd breuddwydion, a'r holl syniadau sy'n amlygu'n naturiol wrth i ni ymlacio i gyflwr isymwybodol; diben ei dechneg ef yw darganfod ffordd o gysylltu'r storfa greadigol isymwybodol gyda'r meddwl ymwybodol. Yn fras te, 'nethon ni dreulio'r dydd yn ymlacio, cau llygaid, a'n derbyn arweiniad Wolff trwy'n synhwyrau i ddarganfod lluniau cyflawn o gymeriadau neu sefyllfaoedd. Ar un adeg, 'nath e ofyn i ni ddychmygu camu mewn i berson arall a nodi sut oedd y corff newydd yn eistedd yn wahanol, y llais newydd yn swnio'n wahanol; pam oedd y person yma yn dal ei hun ffor'na, a felly sut deimlad yw bod Mr.X... Dwy ddim yn berson hynod agored, ac yn ystod yr ymarferion teimlo o'n i 'mod i'n creu yn ymwybodol yn hytrach 'na'n datgelu rhywbeth isymwybodol, ond rhaid cyfaddef i mi ymlacio erbyn diwedd y dydd, a mae'n hawdd gweld sut bydd ymarferion fel'ma yn helpu creu llun llawnach pan ai ati i greu cymeriadau yn y dyfodol.

Ta beth, wedi eistedd yn y swyddfa am wythnos ers 'nny, wy 'di bod yn chwilio am fwy o wybodaeth ar NLP yn gyffredinol - ac mae'n debyg fod y term yn meddwl bach o bopeth i bawb... sy ddim yn helpu. Mae'r esboniad lleia dryslyd i'w gael ar wefan The skeptic's Dictionary, syrpreis syrpreis. Ar y llaw arall 'nes i fwynhau darllen y 'tiwtorial' yma. 'Sen i byth yn mentro ymuno â'r rhestr bostio, ond ma arddull eratic y boi yn hilariws.
...using NLP to find and discharge so called "negative blocks" can be very helpful. I remember when I was learning NLP, my teacher did a technique on me - one of the techniques from so-called NLP New Code (see books by Robert Dilts). It was the last thing for the day, class was over, so I said good bye and left. And then as I was walking towards my car I have noticed that I am a little bit jumping, you know. And laughing. And singing. Which is like totally not my style of walking, by the way. And for the next 30 minutes I felt better than ever in my life and I mean it. I - see, I am still smiling when I think about it.

Duw a wyr os wy 'di dysgu taten, ond wy 'di dod o hyd i gymeriad bach diddorol bydde dim ots 'da fi gamu mewn iddo tro nesa gai b'nawn bach sbar.

17.6.05

Rufus Wainwright

Aaaaaaaaaaaaaaaarrrrrrrrrrrggggggghhhhhhhhhh!

6/27/2005
Cardiff, GB UK

St. David's Hall Rufus will be playing with the full band


A fi a Sioned yn mynd! Campus.

13.6.05

"Platonic Love is a fool's name for the affection between a disability and a frost."

Llaw lan pwy glywodd y stori am y ffrind trodd yn gariad, cyn troi cefn, cyn gofyn i fod 'yn ffrindiau' eto. Na? Dyw e ddim yn un da iawn. Ond eniwe, mae Ambrose Bierce yn un o'r awduron yna fydden i a'n 'ffrind' i wedi piso'n pants wrth ddarllen rhai misoedd yn ôl.* Dyma flas ar gynnwys 'The Devil's Dictionary':

ADMIRATION, n. Our polite recognition of another's resemblance to ourselves.


HEATHEN, n. A benighted creature who has the folly to worship something that he can see and feel.


POLITENESS, n. The most acceptable hypocrisy.


SAUCE, n. The one infallible sign of civilization and enlightenment. A people with no sauces has one thousand vices; a people with one sauce has only nine hundred and ninety-nine. For every sauce invented and accepted a vice is renounced and forgiven.


*trueni bo ni methu edrych i fyw llygaid ein gilydd rhagor.

8.6.05

Gwyl Oxegen

Hwn bydd yr Wyl Gerddorol di-Gymraeg cyntaf i mi ei mynychu - a wy methu aros! Llai na mis i fynd tan gweld Bright Eyes, Super Furries, Mylo, The Killers, Doves, Interpol, James Brown, Suzanne Vega, Biffy Clyro, KT Tunstall, Jaques le Cont, Engineers, The Go Team ('ond i enwi llond dwrn) oll yn fyw, yn yr haul, yn Iwerddon. Mae'r wyl 'di gwerthu allan ers pythefnos - felly neh-neh ne-neh-neh i unrhywun sy ddim yn mynd (Andrew ;D)

6.6.05

Cwis ola'... am y tro.



Cwestiwn 1. 'Cwis Tafarn' neu 'Cwis Dafarn'?

Byddwn ni'n cymryd hoe fach ar ôl yr un 'ma, ond bydd ymddangosiad yn yr Eisteddfod rhywbryd mae'n siwr.

3.6.05

Gig Tu Chwith - 2/06/05





1.6.05

Llongyfarchiadau i Ysgol Dewi Sant!



Debyg fod ensemble lleisiol fy hen ysgol gynradd wedi ennill ar lwyfan yr Urdd ddoe - a hen bryd hefyd! Dros 8 mlynedd o ddawnsio gwerin a chanu côr a chân actol 'nes i erioed gyrraedd llwyfan yr Urdd, na chael fy llun wedi arddangos yn Oriel BBC Cymru (munud o dawelwch plîs.)

Diolch i Criddle am y llun - falle 'neith hyn lan am sgandal dwy flynedd yn ôl.

Pictiwrs



O'r diwedd - adolygiad newydd gan Dwlwen, o ffilm Todd Solondz, 'Palindromes'.

Dyna ddod a' nghyfanswm cyfryniadau i i 4 - rhifwch nhw a chriwch... mewn cywilydd...