27.10.05

Sinema Nos Sul, The Point, Caerdydd



Cyfaddefiad: dwy erioed wedi gweld 'Ghostbusters'. Ffodus iawn fod dangosiad ym mar The Point, bae Caerdydd nos Sul yma te. Mae'n debyg odd 'Goonies' mis diwetha' yn wych, felly rwy'n edrych 'mlaen yn eiddgar i hwn.

26.10.05

Gwersi Arlunio 3 a 4





Mae'r gwersi arlunio bywyd yn parhau...

Dwy wythnos, a dau lun tra wahanol. Cafwyd dull tipyn mwy rhydd yn y drydedd wers wythnos diwetha', â disgwyl i ni greu llun trwy rhwygo a glundo papur tissue du i'r cefndir. Ymarfer eitha' diddorol, ond sai wir yn gwerthfawrogi'r fath yna o arddull. Mae'r athro'n mynnu fod angen i ni stopio meddwl yn nhermau tebygrwydd, a chanolbwyntio ar elfennau fel siap a golau, a bydd y tebygrwydd yn dod yn amser ei hunan, mae'n gyngor eitha' doeth am wn i. Ta beth, neithiwr, am y tro cyntaf mewn 4 wythnos, cafon' ni ddefnyddio pensil! Er mwyn anhwyluso pethau, o'n i 'ond yn cael ei ddefnyddio ar ddarn papur oedd wedi'i liwio gyda wash ysgafn, ond roedd e'n sicr yn teimlo fel mwy o her na'r glud a'r papur tissue. Dwy ddim yn hollol sicr am goes blaen fy narlun (a 'nath y pose newid ychydig ar ôl rhyw awr, gan ychwanegu ail foch pen ôl lle oedd 'ond un i gychwyn...) Ond mae dod, weden i, yn slo fach.

19.10.05

Braidd yn hwyr...

...neu falle mai ploy marchnata *egsgliwsif* yw hi! (...ond na, hwyr o'n i , fel arfer...)

CWIS TAFARN
8.30 yn y GOAT MAJOR
*HENO*


£1 i gystadlu, a chrât o Kronenburg i'r tîm buddugol - un dydd 'nai droi'r frawddeg yna'n gynghanedd, addo addo.

13.10.05

Lansiad Mega Tidy, 8/10/05

Ma 'na Adolygiad o'r albym ar wefan C2. Noson braf iawn yng Ngwesty'r Riverbank Caerdydd, rhaid dweud.




12.10.05

Gwers Arlunio 2

...to discover things not seen, hiding themselves under the shadow of natural objects, and to fix them with the hand, presenting to plain sight what does not actually exist.
Cennini

Och a gwae ac och again - ma'r artist o 'fewn i fi yn dechrau gweiddi eisiau dianc nawr. Dyw'r scribbling ar y papur ddim yn profi hynny eto, ond 'nes i adael gwers neithiwr mewn hwyliau *emosiynnol* dros ben... Fel wedes i wythnos diwetha, ma'r athro'n awyddus i bawb ddechrau o'r dechrau - ac ystyried o'r newydd sut mae cyfiaethu'r hyn sydd ddim yn bodoli, sef dy weledigaeth o'r natur o dy flaen, i siapau ar ddalen papur.

Cafon ni rhywfaint o hanes yr artistiaid Cennini ac Alberti, (gweler y dyfyniad agoriadol,) yn enwedig esboniad Cennini o'r berthynas rhyngom ni a'r hyn y'n ni'n ei weld, a'i ddarlunio... Nid fi yw'r person gorau i esbonio hyn o bell ffordd, ond yn fras - ceisia ddychmygu pyramid (ar ei ochr) rhyngddo' ti a dy fodel; â'r copa yn dy iris, â'r gwaelod yn y gwagle, neu'r mur, tu ôl y model. Er mwyn hwyluso pethau, roedd Cennini'n gosod llen gyda grid arno rhyngddo fe a'r model - dyma ddywedodd Cennini:
Nothing can be found, so I think, which is more useful than that veil which among my friends I call an intersection. It is a thin veil, finely woven, dyed whatever colour pleases you and with larger threads [marking out] as many parallels as you prefer. This veil I place between the eye and the thing seen, so the visual pyramid penetrates through the thinness of the veil. This veil can be of great use to you. Firstly, it always presents to you the same unchanged plane. Where you have placed certain limits, you quickly find the true cuspid of the pyramid. This would certainly be difficult without the intersection. You know how impossible it is to imitate a thing which does not continue to present the same appearance, for it is easier to copy painting than sculpture. You know that as the distance and the position of the centre are changed, the thing you see seems greatly altered. Therefore the veil will be, as I said, very useful to you, since it is always the same thing in the process of seeing. Secondly, you will easily be able to constitute the limits of the outline and of the planes. Here in this parallel you will see the forehead, in that the nose, in another the cheeks, in this lower one the chin and all outstanding features in their place. On panels or on walls, divided into similar parallels, you will be able to put everything in its place. Finally, the veil will greatly aid you in learning how to paint when you see in it round objects and objects in relief. By these things you will be able to test with experience and judgment how very useful our veil can be to you.
Ar ôl y cyflwyniad yna, darparwyd ein deunydd. Eto, doedd dim pensil i fod ar gyfyl y lle - roedd yn rhaid defnyddio darn o bren i farcio inc i'r papur. Yn ogystal a'r pren a'r inc, cafon ni ddewis 'viewfinder' yr un - naill ai pin-hole (sef fframyn bach cardfwrdd), pren mesur, neu i'r rhai lwcus iawn darn muslin wedi ymestyn dros ffram, gyda grid wedi ei lunio arno. Roedd yr athro hefyd wedi creu math o ffram tu ôl i'r model gyda tâp coch - er mwyn dangos gwaelod y pyramid ddychmygol.
Es i am bren mesur, ond i gychwyn, 'nes i'm ei ddefnyddio fel oedd angen. (Mae'r cyfres o luniau gynhyrchais i o ganlyniad yn dweud llawer am ba mor styfnig allai fod wrth cael fy nghorfodi i ddilyn rheolau....)

Ymdrech1:

'Nes i ddefnyddio'r pren mesur i geisio cyfiaethu graddfa cymharol rhannau'r corff - ond fel y gweli, rwy'n eitha rhydd gyda'r inc. Does dim ymdrech i ddychmygu'r pyramid, a dyw'r llun ar y papur ddim yn gynrychiolaeth union o'r olygfa oedd gen i (h.y. ma'r boi 'ma ar y papur llawer mwy na'r boi oedd yn ffitio rhwng 5 pwynt ar fy pren mesur - drwg iawn Dwlwen, tria eto! )

Ymdrech 2:

Ma hwn yn agosach ati - ond yn hollol gam! Rwy'n beio dylanwad y llun cynta', oedd dal i bipo arnai o waelod y dalen, yn ymddangos llawer mwy cywrain na'r grid estron o 'mlaen i nawr... Felly dyma fi'n troi'r papur drosodd.

Ymdrech 3:

Campwaith, nagyw e? ;) Ro'n i wedi hen flino ar yr ymarfer erbyn hyn - ro'n i'n deall y syniad, ond pan fod gen ti tri person a thri easel rhyngo'ti a dy fodel, mae'n uffernol o anodd plotio pyramid trwy eu cyrff nhw. Do, 'nes i bwdi... eto.

Ar ddiwedd y wers, mae'n rhaid i bawb arddangos eu gwaith, a 'nath yr athro ofyn i bawb edrych ar fy ngwaith i. Yn ei farn e, mae'r llun cynta yn 'commendable', dyw e ddim yn gywir, ond mae'n agos ati. Ond, dyw'r llun cynta ddim yn profi 'mod i'n deall sut ydw i'n cyfiethu'r hyn rwy'n gweld i'r hyn rwy'n dangos, a dyna oedd e eisiau i ni ystyried. Mae'n gam dewr i ollwng yr hyn sy'n gyfarwydd er mwyn ceisio deall pethau o'r newydd. Trwy ollwng y llun cynta a dechrau ar yr ymdrechion canlynol, 'nes i gymryd y cam, er 'nes i'm cweit a deall! (a ges i stwr am iwso dau ochr y papur 'fyd!) Fel gwaith cartref, rwy am edrych ar sylwadau Cannini eto, a cheisio meistroli'r dull mewn hunan-bortread.

Gyda llaw, ma 'na ddogfen ar arlunio newydd gychwyn ar BBC2 - The Secret of Drawing, oedd yn eitha diddorol wythnos diwetha a'n jam packed a lluniau pert...

Llongyfarchiadau i Chris

'Nes i fwriadu sgwennu nodyn ddoe i groesawi Chris a sôn am y cyfarfod yn y Mochyn Du nos Lun, ond ym... bwytodd fy nghi e, Miss. Ond dyna chi sgwrs braf! Roedd hi'n ddifyr dros ben siarad Cymraeg â rhywun o gyd-destun mor hollol wahanol... cyn sylweddoli'n raddol nad oes neb mor wahanol a hynny go iawn. Ry'n ni i gyd yn caru Hywel Gwynfryn wedi'r cyfan...;)

Parch mawr i ti Chris am sylweddoli dy uchelgais, a llongyfarchiadau hefyd.

10.10.05

Typos - y ffordd ymlaen...

...yn enwedig os yw parody o nofel Charlotte Bronte o ddiddordeb.

Jame Eyre - gan Chuck Bronte

6.10.05

Gwers Arlunio 1



Darlun wedi ei wneud gyda dranau gwahanol trwch o dâp du. (Mae'r model yn sefyll o flaen easel, rhag ofn i chi boeni fod hi'n crogi neu rhywbeth....!?)

Wel fe ddaeth y wers gyntaf, a bwriad yr athro oedd ein cael ni i werthfawrogi mai 'ond "cynrychiolu" mae darlun. Roedd e wedi blino ar weld pobl yn gaeth i'w papur yn canolbwyntio ar fanylion golau/ cysgod/ tebygrwydd, sy'n gallu peri i chi golli golwg o gyfanrwydd yr hyn o'ch blaen. Llwyddiant y tâp du yw'ch bod chi'n gallu ei ddal fyny yn yr aer o'ch blaen a fframio'r siap y'ch chi am ei greu, yna troi'ch corff, a sticio'r siap i'r papur - dyna be wnes i ta beth.... Mae'n biti na chafon' ni amser i wneud mwy (roedd y boi'n darlithio am rhyw dri chwarter awr cyn i'r model fynd i'w phose...) ond rwy'n falch ei fod e wedi dechrau'r tymor gyda'r fath ymarfer sy'n gofyn i bawb yn y dosbarth ddechrau o'r newydd, a meddwl mewn ffordd gwahanol am yr hyn ry'n ni'n gweld.

Lluniau Flickr

Newydd sylweddoli mai 'ond 200 llun wy'n cael storio, ond dyw'r hen rhai sydd wedi diflannu o Flickr heb ddiflannu o Dotio, felly no worries... Ond gwell buddsoddi mewn pro account ta beth, dife.

Rwy newydd ychwanegu lluniau o Mattoidz a Sleifar a'r Teulu yn gig CymruX dros y penwythnos - rhan o rali Cymdeithas yr Iaith ddydd Sadwrn diwetha.




4.10.05

Beth yw life drawing yn Gymraeg?

Ma pethau'n prysuro sia Ffordd Beda Hydref yma, gyda tair trigolyn y tŷ bach twt anniben tost yn dechrau cyrsiau nos mewn pynciau amrywiol. Neithiwr, cychwynodd Sioned gwrs Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg gyda Prifysgol Caerdydd, a nos yfory mae Angharad yn cychwyn cwrs printio yn Howard Gardens. Cwrs celf bydda i'n ei gychwyn hefyd, sef Life Drawing (Bruce?), gyda chynllun Open Art UWIC. Rwy wedi difaru enaid ers gadael ysgol am fy mod i'm yn gwneud digon o gelf. Portreadu oedd orau gen i tra'n astudio Lefel A, ond ers hynny dwy braidd wedi braslunio o gwbl (a dyw dylunio Siarc Marw a phethau cyffelyb yn rhaglen word heb wir fodloni'r awch i arlunio... ymm.) Ta beth, rwy'n edrych ymlaen yn arw i heno - falle gewch hci ambell i sgan dros y misoedd nesa'.