24.2.06

Pedwar peth (arall...)

Whw, fi ‘di cael fy nhagio!

...nawr gai ofyn be yn union yw tagio, plîs?! (gan ddechrau poeni am gwestiwn ola’r holiadur isod...)

Pedwar swydd dw i wedi’u cael
1. Darllen a golygu (a sgwennu ambell) sgript(s)
2. Ymchwilydd a math o ‘rhedwraig ddiog’
3. Bar ledi hynod smyg yn Dempseys
4. Ateb ffôns a chyfieithu fan hyn a fan draw i Gyngor Cymru i’r Deillion

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
1. Breakfast at Tiffany’s
2. Amelie
3. North by Northwest
4. ffili penderfynnu rhwng Sprited Away a Secretary :/

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw

1. Pontyberem
2. Rhydychen
3. Glanrafon
4. Treganna

Pedwar rhaglen teledu dw i eu caru

1. This Life
2. Simpsons
3. Inspector Morse
4. Spaced

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
1. Iwerddon
2. Ibiza (sori)
3. Awstria
4. Ffrainc

Pedwar o’m hoff brydau bwyd

1. Sushi
2. Samwn a llysiau
3. Chilli con Carne
4. Pasta 'da bwyd môr

Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd
1. maes-e
2. Blogiadur
3. Flickr
4. Yahoo

Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn

1. Amgueddfa Genedlaethol Cymru (arddangosfa Artes Mundi)
2. Mewn siop goffi
3. Rhydychen yn yr haul
4. Yn gwrando ar Regina Spektor yn canu ‘Chemo Limo’ rhywle ym Mhrague.

Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio
1. Dros (Sara) *gwichian*Nwwwwdls!*/gwichian* Gwenu dan Fysiau, felly (teitl sy' wastad yn atgoffa fi o bapur arholiad un o ddisgyblion Mam oedd yn mynegi 'rwy'n ofn fy mawd...)
2. Iesu ('neith byth byth byth sylwi...)
3. Ray (...ochenaid, gweler uchod)
4. Blog Heb Enw (c'mon Fatbob!)

22.2.06

Set o Luniau gig Jeff Lewis

Draw yn y cyfrif Flickr heddiw...




Hefyd sgetsys o'r wers arlunio wythnos 'ma...


17.2.06

Gig heno



Ond yr un sy' rili angen i chi fynd iddi yw gig Jeffrey Lewis yng Nghlwb Ifor Bach nos Sul. Ma'r boi'n athrylith.

Crysau T retro


Wwwhwww! Crysau T moomin, a phob math o stwff arall - megis Dangermouse - ar gael o siop ar lein Mr Cloud.

Gol: Aaaaargh! A tra bo bo' ni 'ma - pwy sy'n cofio Dewin ym Mwmin-Gwm?

15.2.06

Pyrcs

Cofio'r gwersi arlunio bywyd? Co'r lluniau wy 'di'u tynnu tymor yma hyd hyn fal rhan o'r cwrs Open Art rwy'n mynychu drwy UWIC draw yn Howard Gardens.

Barry, Wythnos 1

Rosie, Wythnos 2


Rosie mewn dau 'pose' wahanol, wythnos 4

Gobeithio gytunwch chi fod datblygiad wedi digwydd. Un eitha syml ond mae 'di 'neud byd o wahaniaeth - dwi 'di stopio iwso pensil! Mae'n sicr 'di rhyhau fi, a mae darlunio'r golau a'r tywyllwch yn dod gymaint yn haws wrth iwso charcoal fel 'mod i'n ffeindio'n hun, neithiwr, yn llwyddo creu dau lun weddol gyflawn yn y sessiwn ddwy awr. Fel meddai Chris, y tiwtor, 'drawing is like eating - you have to try different things, like baked beans...' Neu ai fersiwn Dan, 'drawing is like making love to a beautiful woman', yn y pyb wedyn oedd hi?

Gyda llaw - ma pob sgets wy 'di tynnu hyd hyn i'w gweld yn y set Flickr.

Diolch Dad!





Bob blwyddyn, wy'n sicr o gael un cerdyn San Ffolant - gan Dadi. Ahhhhh.

Chris Corsano a Jack Rose

Gig hyfryd arall yn Buffalo neithiwr, fel math o ymgyrch anti-Valentine yn ôl y sôn ond jiw, o'dd eitha tipyn o gariad yn y 'stafell 'na 'se chi'n gofyn i fi. Gyrhaeddon ni hanner ffordd trw set dryms Chris Corsano, a roedd y lle fel y bedd â pawb yn gwrando'n astud ar y rhythm. Wy'n gallu bod braidd yn 'geidwadol' pan mae'n dod at gerddoriaeth arbrofol fel hyn (cofiwch, wy'n gallu bo'n llwyr eithafol 'fyd...) ond o'dd 'y'n ymateb i rhywle yn y canol/ ar y ffens tuag at yr act cynta' ma. Roedd ambell i ffrwydrad rhythmic anhygoel oedd wir yn gyrru gwefr trwy'r corff, ond yna atalnodi hyny â rhyw wichian rhyfedd di-ddim. Hyny yw, ro'n i'n deall ac yn gwerthfawrogi'r egni, a fedrai deall sut bod angen y tawelwch er mwyn i'r elwch weithio - ond doedd bethbynnag oedd ganddo fe'n gwichian 'na neithiwr ddim yn gweithio, i fi.
Ta beth, mynd yno i weld Jack Rose wnes i, a ges i'mhlesio'n fawr. Symud i flaen y 'stafell ac eiste'n groes-goes yn y ffrynt wrth i'r dyn enfawr 1) wneud i'r gitar edrych fel tegan plentyn a 2) gyfareddu pawb a'i gerddoriaeth blues. Ma' dylanwad Fahey yn gryf ar 'i waith (a cant a mil o gitarists bluesy erill llai'm 'u enwi mae'n siwr) ond dyw hynny ddim yn tynnu o effaith ei ddawn. Caneuon hir, di-lais, yn crwydro bob math o steiliau a nawsiau gwahanol, yn mynegi'n union hud y tannau dan ddawn y dwylo cywir. Roedd gwrando ar y gerddoriaeth fel bod mewn trance, ac am unwaith, sai'n gor-ddweud o gwbl fan hyn. Yn ystod ail hanner y set, roedd e'n chwarae slide gitar oedd yn eistedd ar 'i garffed. Caneuon mwy 'upbeat', mwy adlonianol ond dal mor gyfareddol. Cerddor sydd wedi taro ar sut i fynegi'i hun, heb rhyw swn a siarad gwag . 'Nath e braidd dorri gair o'r dechrau hyd y diwedd, ond mae'n siwr taw dyna un o'r gigs mwya teimladwy - o ran artist a chynulleidfa - i fi fod iddi erioed.
Cerwch i wranado os gewch chi fyth gyfle. O ran stwff ar record, ma gen i hen albym Two Originals of, ac mae'n debyg fod Kensington Blues yn dda dda iawn hefyd.

14.2.06

Dau flog mewn diwrnod...

...watsia na gei di pwl!

Blogyn bach i'ch hysbysu am rota newydd nos Sadwrn llawr Canol Klwb Ivor Back, sy dal dan adeiladwaith fel petai (y rota, nid y clwb), ond fyddwch chi'n falch i glywed fod un act fach gwychanhygoelchwyldroadolrhywiol clasurolgwreiddioldwlcorbwmpen wedi'u cadarnhau.... sef Siarc Marw, unwaith y mis, bob ail nos Sadwrn, 11-2.30, s.i.w.r o. f.o.d.

Magasîns

Iei - wy 'di meddwl am rhywbeth i ddweud o'r diwedd ;)

O'n i'n darllen wythnos 'ma fod y cylchgrawn gynt-chwyldroadol (cyfiawnhau geirfa: y lle cynta i fi weld y gair 'fuck' mewn print, wy'n credu) Smash Hits ar fin llithro dros ddibyn difodiant ar ôl tua degawd staffaglus o lansio delwedd newydd ar ddelwedd newydd gan geisio cuddio gwacter eu gohebaith pop diflas. Duw, wy mewn hwyliau hac heddi. Ta beth, doedd Smash Hits ddim yn ddrwg i gyd - mae'n debyg fod e'n glampar o gylchgrawn nôl yn yr wythdegau, pan 'nath Maggie 'i hun gyfrannu i un rhifyn yn ôl y sôn; ac wrth gwrs, ro'n i wrth fy modd, ar y pryd, tua 1993 pan ddechreuais i ddarllen yno am helyntion Robbie Williams pan aeth e i Glastonbury gyda Oasis, a chwalu'r Stone Roses. Yn wahanol i Fast Forward a Twinkle gynt, ro'dd gan Smash Hits agwedd, a gwell fyth - O'N NHW'N PRINTIO'R LYRICS I CHI GAEL CANU FEL NYTTAR GYDA BRWS GWALLT YN Y DRYCH!!! Ond ma pob dim da yn dod i ben. Yr hyn chwalodd fy mharch i tuag at Smash Hits oedd cyflogi Kate Thornton yn olygydd, tua 1996. Arddull gwag nawddoglyd a diffyg gwybodaeth, heb son am chwaeth, cerddorol amlwg cylchgrawn ddifyr ni wna. Mae'n dal i frifo heddi - ond heddwch i lwch y rhagsyn 'r un fath...

...Eniwe, gan garlamu 'mlaen ar thema 'hel atgofion am hen gylchgronnau' dyma fi'n baglu dros atgof y cylchgrawn orau i fi fod yn gaeth iddi erioed - sef Select (y lle cynta' i fi weld 'cunt' 'di printio, ond dyw hwnna ddim yn neis). Ro'n i wir yn caru Select - yn yr un modd ag o'n i wir yn caru Tim Wheeler yr adeg i fi brynu 'nghopi cynta, oedd â llun o Ash ar y clawr fel petai nhw ill tri yn rocedi ar fin ffrwydro i'r gofod (odd 1977 newydd ei rhyddhau.) Roedd Select yn LLAWN erthyglau hynod fanwl am bob math o fandiau do'n i erioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen, ac roedd sbwng fy ymennydd arddegol yn eiddgar i sugno'r holl gerddoriaeth a gwybodaeth newydd 'ma iddo. Roedd 'na bosteri anhygoel hefyd - weithiau bydden nhw'n rhoi lluniau glossy proffesiynnol am ddim gyda rhifyn, a'n amal byddai bandiau'n pose-io mewn teyrnged i ddelwedd enwog arall. Wrth gwrs, aeth hwn yn ffradach 'r un peth a Smash Hits - ond o leia stopio nhw cyn gynted â bo'r cachu'n bwrw'r ffan yn 2000 - felly 'ond tua tua 5 rhifyn gwirioneddol wael fuodd, a dyw rheini ddim am 'neud niwedd i dint rhos f'atgofion, na chwaith y cyffro i dwrio trwy'r casgliad o backissues sy newydd gydio fi wrth fy ngwddwg... mewn ffordd dda....

Ta beth, ma na bwynt dilys i'r holl hel atgofion yma, Dilys. A dyma fe... Cylchgrawn Plan B - sy'n araf argyhoeddi fi fod 'na obaith wedi Select. Porwch dros y wefan, a mynnwch copi neu ddwy i chi gael darllen yn y toilet rhywbryd. Dyma ni gylchgrawn sy'n llawn agwedd a brwdfrydedd - a me'n edrych yn neis, er fod ambell i dinc amaturaidd, ffansin-aidd yno hefyd - ond rhinwedd yw hynny, ond'ife?!

6.2.06

Miwsic

O'n i'n darllen adolygiad gan Ryan Schreiber o You Forgot it in People gan Broken Social Scene heddiw ar ôl meddwl yn ddwys am y tinc sinicaidd, anghrediniol, tosturiol bron, yn llais Evans pwy nosweth ar ofyn, ar ôl i mi ddweud 'mod i wedi bo'n gwrando ar hwn, 'ond, ydy e'n dda?'
Wel, wy 'di penderfynnu bo fe. Na, nid am fod Ryan Schreiber yn gweu'nny - ond ma'r ffaith iddo fe grisialu be yn union yw'r broblem gyda delwedd y band wedi helpu...
...a band who, judging from their artwork, stands around all day looking pensive, crouching, and feeling the music in dramatic grayscale, a band that finds its home on Arts & Crafts/Paper Bag Records, who puts the message "break all codes" above their own barcode, and who dedicates their album to their "families, friends and loves."
Hmm - pan ti'n rhoi e ffor'na. Ond y pwynt yw, a falle 'mod i'm yn cyfleu hyn yn rhy dda trwy fwydro o'r trywydd, ond me'n amser cinio, oce - y pwynt yw taw'r gerddoriaeth sy'n bwysig; a ma cerddoraeth y collective yma yn digwydd bod yn anhygoel, o ran gwreiddioldeb yn ogystal a bod yn 'catchy. Hang on - geith Schreiber 'neud yn bit 'yn...
I wish I could convey to you just how perfectly this record pulls off that balancing act, how incredibly catchy and hummable these songs are, despite their refusal to resort to pandering or oversimplicity. I wish I could convey how they've made just exactly the kind of pop record that stands the test of time, and how its ill-advised packaging and shudder-inducing bandname seem so infinitesimal after immersing yourself in the music. And I hate to end this saying, "You just have to hear it for yourself." But oh my god, you do. You just really, really do.
A dyna'r oll o'n i mo'yn gweud rili. Gwd.