26.12.04

Anrheg Nadolig gan Slow Graffiti

Mae 'Slow Graffiti' sy'n trefnu ac yn hyrwyddo gigs yn ne Cymru am ddathlu eu blwyddyn llwyddiannus drwy rhannu albym aml-gyfrannog nadoligaidd gyda ni oll. Mae'r albym yn cynnwys cyfraniadau gan Kid Carpet, Culprit 1 a Sweet Baboo, ymysg eraill - a hei, mae am ddim!

Cewch lwytho'r albym o'r linc isod

http://www.slowgraffiti.com/xmas_album.php


Lluniau






Na phoener - nid ty ni yw'r llun ola. Er, fysei'n ddoniol iawn gweld y Ficerdy wedi'i addurno felly!


23.12.04

*Hip hip hwreeeeeeeeeeee*

Mae'n ben-blwydd arnai fory - does gen i ddim newydd am hynna, felly dyma'r unig ffaith berthnasol o'r 'Book of Lists' newydd:

234 People Born the Same Day, Month and Year
"...Dec. 24 1907 - Cab Calloway (singer) and I. F. Stone (journalist)..."


Hmmm, ma hynna lot rhy ddiflas tra mod i mor gyffrous, felly dyma ddyfyniad hollol amherthnasol:

10 People with extra Limbs or Digits (and 2 very special cases...)

"...2. Pasqual Pinon
A Mexican with an extra head growing out of his forehead was reported in 1917. The extra head could move it's eyes and see, but the mouth, which also moved, could not speak. This must have been a relief to Pasqual. Eventually, say the reports, the extra head lost even these abilities and became simply a lifeless growth."

That's more like it ;) Jolig Chlawen!

Siopa Dolig Sioned-Style

Helo bobl, gai fod yn domestig am ysbaid? Oce te. Ddoe es i a’n cyd-letywr/tŷ-ffrind/ffrind-tŷ (housemate yn Gymraeg?) i siopa Dolig yn siopau elusenol Heol Ddwyreiniol y Bont-Faen, Treganna, Caerdydd, a jiw gefon ni fargens! Mae’n ffordd wych o gadw costau’r Wyl yn ‘u lle, a’n hwyl anhygoel, heb son am ddiddorol ar y naw. Ymysg y siopau gorau oedd y Shaw Trust, PDSA a’r hen ffefryn Oxfam. Roedd amrywiaeth o declynau quircky yn Shaw Trust, er engraifft, a temptiwyd Sioned gan ‘gwasg drowsus’ (?) hen-ffasiwn £5, oedd yn anghredadwy o giwt, tra mod i’n glafoeri dros ddresar allen i’m fforddio hyd yn oed ar bris ail-law... Ddes i adre a 15 (rhifwch nhw!) 15 llyfr ‘newydd-ish’ – gan gynnwys ‘The Dalkey Archive’ gan Flann O’Brien sy ‘di bod ar y rhestr-ddymuniadau ers aaaaachaaaau a’r llyfr mwya anhygoel i fi ddod ar ‘i thraws ers oes: ‘The Book of Lists’. Ma Sionyn Nionyn yn dweud fod Waterstones yn gwerthu cyhoeddiad cyfredol y gyfres, ond well gen i o lawer y gyfrol 1978 ges i ddoe – ac rwy ‘di hen osod ystr sentimental i’r cyflwyniad sydd ynddo “Now you can have as much fun as me, love Dave.” Wel diolch Dave.

Fy Nhrysorau. Bydd dolenni i wefannau'r elusennau gwahanol yn dilyn, ynghyd â dolenni i wybodaeth ynglyn â'r ddwy adroddiad uchod os oes rhai, ond wy ar gyfrifiadur Mam a Dad am yr wythnos nesaf - sydd wedi ei brofi gan wyddonyr i fod Cyfrifiadur arafaf y byd, f.a.i.th., Felly byddwch amyneddgar.


22.12.04

Parti Nadolig Maes-e – 18/12/04



Lle o’ch chi’r ffycars?! Jôc... Achlysur llawer llai gwallgo nag o’n i ‘di disgwyl rhaid cyfaddef, ond ma ‘ny jyst yn profi manners difrycheulyd pobl y Maes sbo (‘blaw Sioni Size!) Heniways – diolch i bawb fentrodd draw i’n tŷ bach twt am eich cwmni llawen a’ch parch syfrdanol tuag at ein lloches (‘blaw Sioni Size.)

Ciw’r enw-ddisgyn di-alw-am-dano: Jeni Wine, Geraint, Madrwyddygryf, Sioni Size, Mwddrwg, Rhodri Nwdls, Iesu Nicky Grist, Mihangel Macaroni, Barbarella... Bo i chi gyd (ac i unrhywun na lwyddes i sbotio.)



21.12.04

Parti Nadolig Abri – 17/12/04

Mae’n eitha tebyg fyse gwylio paent yn sychu ‘di apelio ‘oedd ‘y’n hwyliau mor dda’r noson hon, felly doedd gan Syndicat, Ashokan a Fuod fawr o obaith siomi, ac wrth gwrs, ‘nethon nhw ddim! Roedd hi’n braf ofnadwy gweld Syndicat yn perfformio yng Nghaerdydd am y tro cyntaf – ma’r grwp yn sicr yn addo pethau mawr, ond Ashokan oedd oedd uchafbwynt y nos (eto...) Ces i’r pleser o gyflwyno ffrind Coleg (o Ogledd Iwerddon) i’r ‘kahn – ei sylwadau: “I like the one that looks like Gollum, he’s a bit mad.” Gan brofi gwendid y ffin iaith hyd yn oed yng ngwyneb gwallgofrwydd yr anhygoel Jac... Roedd y swn yn uchel a’r sgrechen yn angerddol, a’r gynnulleidfa’n gwyllti o glywed cymaint o gyffro ar y llwyfan – efallai nad oedd ambell pyntar yn barod am y fath ymosodiad gerddorol, (ac mae’n debyg bu’n rhaid i ambell un ddianc er lles eu clustiau, ond...) Ond, o’n i’n sicr gyda’r mwyafrif: o’ngho a’n joio mas draw.

Erbyn FUOD, o’n i’n FUO... drink. Nai’m esgus o’n i hyd yn oed yn ymwybodol o’r hyn o’n i’n ei glywed. Sori am hynna – ond fi’n siwr o’dd e’n wych.




Clic clic clic aeth y flash...

17.12.04

Siart Unarddeg Uchaf Pictiwrs

Ma pobl y Pictiwrs wedi bod yn pwyso a mesur gwahaol ffilmiau 2004 ac mae eu barn hwy am y ffilmiau sydd rhaid y'ch chi i'w gweld wedi ei gyhoeddi heddiw. Mynnwch bip.

Dyma ddeg ucha Dwls a gwybodaeth IMDb amdanynt:

1. The Station Agent
2. Eternal Sunshine of the Spotless Mind
3. Dogville
4. Big Fish
5. Hero
6. Rengeteg/ Forest
7. La Mala Educacion
8. Dear Pillow
9. Spiderman 2
10. Harry Potter and the Prisoner of Azkaban

Heno, heno, hen blant bach...

Edrych mlaen yn eiddgar i glywed yr anhygoel 'khan (eto) a Syndicate (am y tro cyntaf.) Band cyn-gaplan Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, Rhydychen yw'r ail - dyna chwalu street cred Nei dden ;)

15.12.04

Traffic

Y goleuadau sy 'mlaen drwy gydol y flwyddyn...


Parti Nadolig Unarddeg

Ieeeeei! Am barti gwych - roedd hi'n lyfli gweld Cynog nôl o'i deithiau am ysbaid, bois Eryr yn y ddinas a'r hyfryd Hogyn o Rachub (er, llai'm wir cofio be o'n i'n siarad am 'da'g e...) Diolch arbennig i Sioni Size am edrych gymaint o idiot ym mhob llun sy gen i ;)




10.12.04

E-Lên

Wy mewn mood i ddianc heddi (eto) felly dyma rhestr o rhai o'r cronfeydd o "e-lên" wy di dod o hyd iddyn'nhw.

Cronfa Prifysgol Pennsylvania
Catalog Alex
Llen o Iwerddon
ac o Ewrop
Rhamantiaeth
a'n ola bach o Athroniaeth

Ond, i fod yn hollol onest, o'n i'n gwybod mai un paragraff ac un paragraff yn unig fyse'n neud y tro i fi heddi, felly dyma'i chynnwys hi...


But she was becoming conscious of her husband looking at her. He was smiling at her, quizzically, as if he were ridiculing her gently for being asleep in broad daylight, but at the same time he was thinking, go on reading. You don't look sad now, he thought. And he wondered what she was reading, and exaggerated her ignorance, her simplicity, for he liked to think that she was not clever, not book-learned at all. He wondered if she understood what she was reading. Probably not, he thought. She was astonishingly beautiful. Her beauty seemed to him, if that were possible, to increase.

Yet seem'd it winter still, and, you away,

As with your shadow I with these did play,

she finished. "Well?" she said, echoing his smile dreamily, looking up from her book. As with your shadow I with these did play, she murmured, putting the book on the table.


Mae To the Lighthouse (Woolf, 1927) yn un o'n hoff lyfrau, a'r rhan yma sy wastad yn dod a'r ing o golled i fyw yn fy nghof. Rwy'n un o'r bobl yna sy'n poeni am bob dim - yn mynd o flaen gofid a dychmygu sefyllfaoedd sy brin yn dod i sylwedd. Yma, mae'n rhyfedd sut mae'r gwr, Mr. Ramsay, yn troi'i wraig yn eiddo, yn defnyddio ei ddychymyg i fanipiwleiddio ei rhinweddau tan ei fod e'n fodlon â'i lun ohoni. Maen hapus ym myd ei feddwl tan i'r ergyd gyfrin daro; tan i eiriau rhyw fardd arall leisio'r gwir boenus. Dyw'r 'eiddo' ddim dan ei feddiant, dim ond ei chysgod.
Rhywffordd, ma hynny'n gysur i mi! Er holl wybodaeth a balchder Mr.Ramsay, mae'n methu'r hyn sy dan ei drwyn tan fod hi'n rhy hwyr (wele'r bennod ola ond unl: "he looked as if he had become physically what was always at the back of both of their minds--that loneliness which was for both of them the truth about things.") A dyna ddweud i'r darllenwr, fi, i gallio a chamu mas o'r bybl; i stopio pryderu am yr hyn sy gen i'm grym i'w newid... So dder.

Falle'i fod e'n amlwg erbyn hyn, ond ydw, rwy lawr gyda Iser pan mae'n dod at ddehongli Llenyddiaeth ;)

9.12.04

8/12/04 - Fflur Dafydd/ Brigyn, y Goat

Digonedd o bobl ymhob cwtch a chornel o'r dafarn fach eto neithiwr, oll yn wên o glust i glust a'n glustiau o ganu hyyyyfryd - O'n wrth fy modd eniwe!
Gig cyntaf Brigyn yn y ddinas yn llwyddiant sicr a set Fflur a'r barf, o ganeuon newydd ac ambell hen ffefryn gan y panics, yn gymysgedd llawn harddwch a hwyl.

Wele luniau...



8.12.04

Ffordd Newydd o Fyw

Wy'n sylweddoli fod Morfablog wedi blogio'r wefan sbel fach yn ôl, ond dyma'r gyfres yn cychwyn ar S4C neithiwr - o'r diwedd! Eniwe, mae'n dilyn profiadau pump criw dros Gymru â'r nôd - i unrhywun sy bach yn slo - o newid eu ffordd o fyw er lles yr amgylchedd a'r economi. Dros 6 rhaglen bydd y criwiau tra-gwahanol yn cystadlu i ennill gwyliau anhygoel, drwy lleihau eu cyfanswm Carbon Footprint. Mae'n rhaglen wych, yn fy marn hollol biased i (fel un o gyflogeion y Cwmni Cynhyrchu a ffrind i un o'r criwiau sy'n cymryd rhan - helo Jac y Diawl...) Ond dyw hynna ddim o bwys gan fod llwyth gan y rhaglen hon i ddysgu i ni oll. Gwyliwch hi: bob Nos Fawrth am 9 (gyda ail-ddarllediad bob Dydd Sul am 3.) Dyw'r gerddoriaeth - fel pob dim arall sy'n ymwneud â Jakokoyak - ddim yn bad chwaith.

Rwy'n ♥ Curiad

Gai jyst dynnu sylw pawb at wefan Dafydd o'r Maes. 'Nes i bopio draw 'na gynnai, ac yn ogystal a chynnwys manylion llawn gig Fflur Dafydd a Brigyn heno, mae'n bosib lincio i fap o lleoliad y dafarn. Mae'n meddwl am bopeth tydi?!

7.12.04

Ta ta Treflan

Bues i'n gweithio fel Rhedwr wythnos diwetha (a rhedeg mi wnes) draw ar set Oes Fictorianaidd y ddrama deledu, Treflan. Ro'n i'n gweithio ar sioe Nadolig, wedi ei seilio yn y 19eg ganrif, ac roedd hi wir yn anhygoel gweld y strydoedd o siopau a thai pren-meddal yn dod i fywyd dan drwch o eira papur a chamau bras actorion mewn gwnau 'vintage' a ffwr ffug. Dan sain y band pres a chanu'r Artistiaid ynghyd a chor Ysgol Melin Gruffydd - roedd hi'n ddigon i gynhesu cocos y calon oera'!

Adeiladwyd y set dros gyfnod o thua deuddeg wythnos, tua bum mlynedd yn ôl erbyn hyn, a llafur dychymyg y dylunudd Hayden Pearce yw'r cyfan. Mewn rhai wythnosau, bydd yr Uned sy'n dal y set yn cael ei chwalu, oherwydd fod costau cadw'r gofod yn rhy ddrud.

Gobeithio gai luniau o'r ffilmio yn fuan, i ddangos gymaint o drueni yw colli'r gampwaith 'ma o set.

6.12.04

Yr Ail-Agoriad

Heia bawb, ni nôl mewn busnes.

Neges am brofiadau'r wythnos ddiwetha i ddilyn - am y tro gai jyst ategu fod Brigyn wedi'u ychwanegu i line-up y Gig Nos Fercher a diolch i bawb ddaeth draw i'r Cwis wythnos diwetha.

Gwd nawr.