30.11.05

Gloeuadau Nadolig Llawen!


Neges gan e-chlysur Menter Caerdydd...
Yn dilyn ymholiadau gan gwsmeriaid y llynedd, mae gan Ganolfan Arddio Caerffili gyflenwad o oleuadau 'Nadolig Llawen' arbennig.

Y pris yw £19.99, eu maint yw 80cm x 40cm a gellir eu defnyddio tu fewn neu tu fas.

Ffoniwch 02920 861511 neu www.caerphillygardencentre.co.uk
A cyn i chi boeni, kitsch yw nhw - nid taci ;)

24.11.05

Dogfenni

Dolen yn y teitl i wefan FourDocs - rhan o wefan sianel 4 sy'n dangos dogfennau 4 munud wedi eu cyfrannu gan wneuthurwyr annibynol.

Ma 'na ddalen neis sy'n dangos camau'r broses fan hyn hefyd...

Fillipo the Fish

Rwy’n siwr i fi ddweud rhywbryd o’r blaen am y tro es i i’r City Arms ‘da ffrind oedd yn sgwennu llyfr, ag iddo lwyddo’n argyhoeddi i fod y plot yn canolbwyntio ar bysgodyn oedd yn tyfu coesau ac yna’n dechrau seiclo...? Chi’m yn cofio? Wel eniwe, cellwair oedd e – ond gan ‘mod i wedi derbyn y cyfan mewn naifrwydd pur, ‘nath e sgwennu’r stori ta beth, a nawr ma’ honno ar y wê i chi gyd gael ei fwynhau. Am awr fach o ddifyrrwch, cerwch i wefan Spoiled Ink, chwilio am Gary Raymond, ac yna darllen Fillipo the Fish.

Gol: ma fe 'di ychwanehi stori newydd erbyn hyn, Limpieza de Sangre.

15.11.05

Flickr

Och, rwy'n flogwraig anobeithiol. Dyma gychwyn dal fyny ar y baclog Flickr...

Lluniau o Gaerdydd...

...Martha Wainwright...

...a Jeffrey Lewis.

8.11.05

Jeffrey Lewis



Me'n dda nagyw e?! (Cliciwch y teitl i weld 'i wefan...) A 'na beth arall sy'n dda yw bar Buffalo ar Werstminster Ave. - classy iawn. Dyw hang overs, ar y llaw arall, ddim yn classy o gwbwl. Yn enwedig o gofio fod ti wedi mwydro Jeffrey Lewis ei hun (a dawnsio'n wallgo wrth ei ochr) am jyst mbach rhy hir neithiwr. Dyw methu'n deg a chofio be ffyc fuest ti'n gweud ddim yn rhy smart chwaith. ...O wel - odd e'n gwenu.

Ma copi o "It's the Ones Who've Cracked That the Light Shines Through" ar y stereo heddi - gwd thing.

3.11.05

Picnic

Fues i mewn cyswllt â Catherine heddiw, sy'n cyfrannu at Siarc Marw 3 gan sôn am brosiect celf cymunedol mae'n gweithio arni yn y Ffindir ers dechrau mis diwetha - difyr eh? Ond difyrach, a doniolach, fyth, yw cefndir Catherine fel un o gyn aelodau Picnic... sy dal â time-capsule o gyfweliad ar geocities.

1.11.05

Forecast



Dolen sydyn i wefan Forecast, sy'n llwyddo denu actiau anhygoel i feniws mwy classsy ('blaw Clwb;) y ddinas fawr ddroog. Noder, nid oes hawl gan unrhywun sy'n honni chwaeth cerddorol fethu dyddiad The Go Team mis Mawrth nesa'.

Noder hefyd fod gwefannau'r rhanfwyaf o'r bandiau ar y calendr uchod yn hyfryd iawn, er mae ambell un, megis gwefan Adem, yn debyg o gynnwys newydd fydd yn eich gyrru i wario mwy fyth o arian ar y casgliad CD, sy'n barod yn frawychus o agos at orchfygaeth 'stafell-eang. A wel.