HOUSE!
Oce, dyw hyn ddim wir yn gysylltiedig a sin gerddorol y brifddinas, ond mae'n kind of cyfri fel arbrawf i weld be sy gan Caerdydd i gynnig o rhan 'alt' nightlife! Am be wy'n mwydro? Bingo wrth gwrs!
Yn sicr, fe gofiai'r hanner awr yna Nos Sadwrn diwetha yn Castle Bingo Treganna fel un o brofiadau mwya swreal fy mywyd! Heblaw'r ffaith fod gen i ddim clem be oedd yn mynd mlaen (bu'n rhaid i ffrind sibrwd i mi mod i ar y dudalen anghywir rhyw gwarter awr cyn i ni fenni) roedd y lleoliad, y cysyniad a'r gynnulleidfa oll yn cyfuno i greu'r fath olygfa nes mod i'n teimlo mod i mewn out-take o rhyw sit-com o'r saithdegau - y fath sy mor wael mae'n dda. Ac er fy nryswch llwyr bobl, roedd hyn MOR DDA - hyd yn oed y ffeit dorrodd allan rhwng bwrdd o 'hens' (hawlfraint: yr arwyddion neon i'r tai bach) oedd yn amlwg yn Fingo-wyr o fri, a'r criw cegog o ymhonwyr ifanc cafodd eu cludo o'r neuadd.
'Nath neb o'nghriw i ennill swllt, ond oh, rwy'n berson cyfoethocach ers bod!


