Mis newydd, Crayons allan...
Blog Gymraeg â bach o hyn, bach o'r llall...
O'n i 'di gobeithio lladd yn llwyr ar rhamant honedig Diwrnod San Ffolant fan hyn wedi i mi glywed ar radio 4 fod achos arall gyda ni i ddathlu heddiw, sef cychwyn National erectile dysfunction week. Ond er i mi chwilio am newydd pellach o'r digwyddiad unigryw yna, methu a wnes. Cachi - ma Stephen Punt yn gelwyddgi.
Reit, gyda copie rhifyn cyntaf Siarc Marw bron mas o’r ffordd, wy'n dechrau meddwl am beth y'n ni di'i gyflawni, a beth sydd angen gwella... Oleia nawr fydd gyda ni’r golygyddion (y boss a fi), a’n darllennwyr, bach mwy o syniad lle ni’n anelu – a dyna fues i’n myfyrio heddiw. Y nôd, hyd y gwela i, yw ysgogi diddordeb yn y celfyddydau a’n diwylliant ni’r Cymru, gan bwyntio’r ffordd at lu o ddrysau (lled agored) mewn i’ch maes dewisol.
Mae wedi bod yn hen bythefnos brysur i mi o rhan gwaith, a’r prosiect diweddara’ sgen i i geisio’i ddatod yw ‘event analysis’/ dandansoddiad digwyddiadau (?) ar gyfer cyfres ddrama sy’n cael ei ddatblygu.