dotio
Blog Gymraeg â bach o hyn, bach o'r llall...
31.8.06
25.8.06
Broken Social Scene
Felly 'nath y Green Man ddod a mynd, a gadel gwen sylweddol ar fy ngwneb wrth 'neud...

(Cliciwch i fynd i'r set ar Flickr)
...felly ma angen rhywbeth newydd i ganolbwyntio'nghyffro arno, a digwydd bod, ry'n ni'n mynd i'r Point yn y Bae nos Fawrth i weld Broken Social Scene yn chwarae'n fyw. Dwi'n rili hoffi'r band yma, felly ro'n i wrth fy modd i ddod o hud i berfformiad ar YouTube...
Broken Social Scene - Anthems For A 17-Year Old Girl
Ond gyda'r holl gyffro yna, do'n i heb sylwi fod 'siwpyr-grwp' Rob DaBank, Breaks Co-op, hefyd yn chwarae yn y Point, nos Sul yma. Alla i demtio rhywun...?
17.8.06
'Green Man plan'
Dwi 'di bod yn arloesi cynllun iechyd newydd wythnos 'ma, yn y gobaith gai wared ar yr anwyd cas 'ma sy gen i'n souvenir ers y Steddfod. Dwi angen bod yn iach, wrth gwrs, oherwydd 'mod i'n mynd i Wyl y Dyn Gwyrdd fory - lle bydda i'n byw mewn tent, yn y glaw, yn gwrando cerddoriaeth gwerin, yn mwydro, ac yn meddwi... sy' rili mynd i helpu'r anwyd. Ta beth, rhagofn fod chi'n ffeindio'ch hun mewn sefyllfa tebyg rhywbryd yn y dyfodol, dyma be' sy' wedi bod yn gwella (gobeithio?) fi dros y dyddiau diwetha:
- tabledi ecchinacea ac acerola ...sy'n fizzio mewn dwr a'n blasu fel lemsip, ond ddim yn stwffio'r pen â chyffuriau diangen - jyst yn rhoi hwb fach i'r imiwnedd.
- fitamin C ...ddylen i gymryd hwn trwy'r adeg, ond dwy byth yn cofio tan 'mod i'n llawn anwyd a hithe'n rhy hwyr. Wy probabli'n cymryd lot gormod wythnos 'ma...
- diodydd 'detox' innocent ...digon o ffrwyth ffres, mewn tetrapack handi i bobl diog fel fi.
- cawl Covent Garden ...gweler uchod - bwyd ffres, heb yr hassle o orfeod coginio tra bo dy drwyn di'n rhedeg.
- digon o fwyd yn gyffredinol ...feed a cold, starve a fever, ife?
- bathiau ...yn gynnes ac yn aml iawn. Angen digon o ager i rhyddhau'r sinuses.
- bwyta lot ...neu o leia, gwneud yn siwr 'mod i'n cael 3 pryd call.
- Olbas ...pam ydw i'n cysylltu arogl olbas gyda Dad?
- Cerddoraeth ...i gadw fi'n gwenu. Fel hwn :D
A dyna ni. Os oes syniadau 'da chi sut alla i graco'r anwyd 'ma (erbyn fory!) gadwch nodyn, diolch!
15.8.06
4.8.06
Galw Chris Cope!
Mae ganddoch ...1... neges newydd.
Prif ddewislen.
I glywed y neges, pwyswch... bîîîp
Fe'ch galwyd am 9.41 bore Gwener, gan ohebydd o'r BBC.
I glywed y neges yn llawn, cysylltwch a d... w... l... w... e... n... - eich periant ateb personol
Pryd ma'r ffon yn cyrraedd, Chris? ;)
3.8.06

Gyfeillion, mae'r aros wedi dod i ben - mae rhifyn 4 ffansin diwylliant Cymru, Siarc Marw, allan!
Mae'r rhifyn yma yn cynnwys:
- Cyfweliad gyda Nei Karadog am y criw hip hop, Y Diwygiad
- Sgwrs gyda Owen Martell am albym diweddara y band arbrofol, Traw, gyda'r telynor Rhodri Davies
- Cyfweliad gyda Sion Mali - cyfarwyddwr ifanc y ffilm 'Sampli' sy'n gofyn beth sy'n gyrru creadigrwydd pobl yng Nghymru
- Erthyglau ar Prosiect 9, cwmni datblygu theatr newydd; Glyn ac Imogen, a'u helyntion ar Big Brother; a'r adolygiadau arferol o bob dim dan haul.
A fel pe tai hyny ddim yn ddigon, ry'n ni 'di creu CD amlgyfrannog i'w dosbarthu gyda'r 100 copi cynta' - sy'n cynnwys llwyth o'n hoff artistiaid Cymraeg ni, megis Jakokoyak, Cate Le Bon, Gareth Bonello, Chwain a Cowbois Rhos Botwnnog. Ry'n ni'n rhy garedig, wir!
A faint sy' rhaid talu am y fath ddanteithion llenyddol a chlywedol? £20, medde chi? Is! £15? Is! £5? Is! £2? www, ym, 'bach mwy na 'nny... bargen am £2.50, ac mi gewch chi gusan gan y Geraint am ddim.
Er mwyn bachu copi, dewch i stondin Dan y Cownter yn yr Eisteddfod a gofyn i bobl hynaws Sebon lle mae'r siarcod yn cuddio, neu holwch fi neu Geraint. Bydd 'na gopiau cyfyngedig ar gael trwy wefan Sebon hefyd, ond bydd rhain yn £3.50, gan gynnwys post a bubble wrap.
Os hoffech chi gael copi o'r cychgrawn yn unig, am ddim, gyrrwch nodyn i siarcmarw AT yahoo DOT co DOT uk
Welwn ni chi'n 'Steddfod :D
o.n. sut ma tagio hwn a Eisteddfod2006 ...? Wy'n cymryd nad yw mor syml a be wy newydd 'neud : /