
Blog Gymraeg â bach o hyn, bach o'r llall...
Mae'r Parchedig Pat Robinson, un o gefnogwyr mwya brwd a chyfoethog George Bush, wedi datgan ei farn unigryw ar achos corwynt Katrina:
This is the second time in a row that God has invoked a disaster shortly before lesbian Ellen Degeneres hosted the Emmy Awards," said Pat. "Is it any surprise that the Almighty chose to strike at Miss Degeneres' hometown?... God already allows one awards show to promote the homosexual agenda. But clearly He will not tolerate such sinful behavior to spread beyond the Tonys.
*gosod: dolen i Clwb Ifor Bach, ond yn anffodus dyw'r wefan ddim eisiau bod yn ffrindiau 'da fi hediw*
Chi'n gwbo'r tripiau 'na fyddwch chi'n trafod yn y pyb am fisoedd sy' byth yn digwydd? Wel ma'r un 'ma wedi. Trên i Ferthyr, beic i Gaerdydd. Ges i girlie strop rhwng Pontypridd a Ffynnon Taf, ond 'blaw hynny (a'r poen annychmygol yn fy nghluniau) odd e'n hwyl a sbort a miri mawr :)
'Nethon ni feddwl, 'r un man manteisio ar daith o dwr yr Eglwys. Dyma'r golygfeydd.
Wel, 'na chi benwythnos brysur. Ar ôl cyfarfod y Gwahanglwyf yn Chapter am ddrincsen fach, cafon' ni'n dau'n