S'digwydd...
Mae'r trefniadau'n siapo ar gyfer cwis y Goat wythnos nesaf - mae'r cwestiynnau wedi eu sgwennu a'r posteri wedi eu gosod, a neithiwr es i a Geraint draw i ôl y PA oddi-wrth Hefin Mattoidz, a dysgu (gobeithio!) sut mae defnyddio'r peth! Ma 'na gryn diddordeb wedi bod, felly gobeithio fydd hi'n noson lwyddiannus. Just i gonfyrmio'r cwbwl:
CWIS DAFARN GYMRAEG
6/10/04 TAFARN y GOAT MAJOR - 8.30 yh
£1 I GYSTADLU/ CRÂT O GWRW CARREG I'R TÎM BUDDUGOL
*Set gan DJs N*Y*R*D i ddilyn*
Mewn newydd arall...
Be wy di bod yn 'neud? Wel diolch am ofyn ;) I dreulio'r oriau'n gwaith wy di bo'n potchan ar y wê fwy nag erioed wythnos yma - y hobi diweddara yw pipo ar 'y'mhroffeil a gweld os oes unrhyw gysylltiadau eraill rhynghtho fi a pwy bynnag arall sy'n digwydd hoffi, gwedwch, Pep le Pew [does neb :-( ]
Ma gwneud hyn wedi'nghyflwyno i i ambell i flog diddorol - megis eksistence, blog Soren o Ganada, sydd a safbwynt diddorol iawn, er nad wyf fi'n rhannu ei farn...
Hefyd, fues i'n gweld y ffilm Hero neithiwr, a Wimbledon y noswaith cyn'ny... rhuthrwch i'r cyntaf, cadwch draw o'r ail - ew, am adolygu cryno!