Wy mewn mood i ddianc heddi (eto) felly dyma rhestr o rhai o'r cronfeydd o "e-lên" wy di dod o hyd iddyn'nhw.
Cronfa Prifysgol Pennsylvania
Catalog Alex
Llen o Iwerddon
ac o Ewrop
Rhamantiaeth
a'n ola
bach o Athroniaeth
Ond, i fod yn hollol onest, o'n i'n gwybod mai
un paragraff ac
un paragraff yn unig fyse'n neud y tro i fi heddi, felly dyma'i chynnwys hi...
But she was becoming conscious of her husband looking at her. He was smiling at her, quizzically, as if he were ridiculing her gently for being asleep in broad daylight, but at the same time he was thinking, go on reading. You don't look sad now, he thought. And he wondered what she was reading, and exaggerated her ignorance, her simplicity, for he liked to think that she was not clever, not book-learned at all. He wondered if she understood what she was reading. Probably not, he thought. She was astonishingly beautiful. Her beauty seemed to him, if that were possible, to increase.
Yet seem'd it winter still, and, you away,
As with your shadow I with these did play,
she finished. "Well?" she said, echoing his smile dreamily, looking up from her book. As with your shadow I with these did play, she murmured, putting the book on the table.
Mae
To the Lighthouse (Woolf, 1927) yn un o'n hoff lyfrau, a'r rhan yma sy wastad yn dod a'r ing o golled i fyw yn fy nghof. Rwy'n un o'r bobl yna sy'n poeni am bob dim - yn mynd o flaen gofid a dychmygu sefyllfaoedd sy brin yn dod i sylwedd. Yma, mae'n rhyfedd sut mae'r gwr, Mr. Ramsay, yn troi'i wraig yn eiddo, yn defnyddio ei ddychymyg i fanipiwleiddio ei rhinweddau tan ei fod e'n fodlon â'i lun ohoni. Maen hapus ym myd ei feddwl tan i'r ergyd gyfrin daro; tan i eiriau
rhyw fardd arall leisio'r gwir boenus. Dyw'r 'eiddo' ddim dan ei feddiant, dim ond ei chysgod.
Rhywffordd, ma hynny'n gysur i mi! Er holl wybodaeth a balchder Mr.Ramsay, mae'n methu'r hyn sy dan ei drwyn tan fod hi'n rhy hwyr (wele'r bennod ola ond unl: "he looked as if he had become physically what was always at the back of both of their minds--that loneliness which was for both of them the truth about things.") A dyna ddweud i'r darllenwr, fi, i gallio a chamu mas o'r bybl; i stopio pryderu am yr hyn sy gen i'm grym i'w newid... So dder.
Falle'i fod e'n amlwg erbyn hyn, ond ydw, rwy lawr gyda
Iser pan mae'n dod at
ddehongli Llenyddiaeth ;)